Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac rwy'n llwyr gydnabod y mathau o heriau y dywedodd fod cwmnïau a busnesau yn ei hetholaeth yn eu hwynebu—yn arbennig yr heriau i fusnesau bach, nad oes ganddynt yr adnoddau na'r amser na'r gallu i fynd i'r afael â'r hyn sydd, i bob un ohonom, yn heriau rhyng-gysylltiedig a chymhleth iawn. Efallai fod hyn yn arbennig o wir i unig fasnachwyr neu i fusnesau bach, ac rydym wedi cadw hynny mewn cof o ran sut rydym wedi ceisio teilwra rhywfaint o'r cymorth y teimlwn y gallwn ei roi, ac rydym yn gwbl ymwybodol mai cyfraniad rhannol yw'r cymorth hwnnw i set gymhleth o heriau.
Bydd yn ymwybodol ein bod wedi sefydlu cronfa cydnerthedd busnesau Brexit, sy'n galluogi busnesau i wneud cais i Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol ar gyfer prosiectau a allai eu galluogi i bontio drwy gyfnod anodd, cythryblus i fyd ôl-Brexit. Mae hwnnw'n gynllun arian cyfatebol, ond mae'n darparu mynediad at ffynonellau refeniw eithaf sylweddol. Ar hyn o bryd, ceir mwy o geisiadau nag y gellir darparu ar eu cyfer, ond rydym yn edrych ar hynny.
Mae swm sylweddol o arian hefyd wedi'i ddarparu i Fanc Datblygu Cymru i dargedu busnesau o wahanol feintiau, gan gynnwys busnesau bach, ac mae rhywfaint ohono ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau ariannu tymor byr ac ati. Ond o ran y mathau o heriau a nodir ganddi mewn perthynas â risg gyda'r gyfradd gyfnewid, a hefyd, fel y clywais mewn mannau eraill, y ffaith bod cwmnïau sydd wedi cronni eu stoc hyd at ddiwedd mis Mawrth neu Ebrill bellach o dan anfantais gystadleuol, os mynnwch—. Felly, yn sicr, mae'r rhain yn heriau cymhleth. Gobeithiwn allu darparu rhywfaint o gefnogaeth drwy rwydwaith Busnes Cymru a thrwy borth Brexit, sydd ar gael i gwmnïau yn ei hetholaeth drwy wefan Paratoi Cymru. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth honno i'w hetholwyr, ei chwmnïau a'i busnesau.