Amddiffyn Busnesau os nad oes Cytundeb Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:59, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach eisoes yn nodi bod busnesau yng Nghanol Caerdydd yn dioddef o bethau fel amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid, sy'n ei gwneud yn eithriadol o anodd i bobl allu prisio eu nwyddau'n fanwl gywir heb wynebu'r perygl o wneud colled. Mae gennym gwmnïau adeiladu sy'n colli staff oherwydd bod pobl yn dychwelyd i'w mamwlad, ac mae cwmnïau TG llai o faint yn dweud eu bod yn cael trafferth prynu stoc am fod cwmnïau TG mwy yn pentyrru deunyddiau ac offer. Credaf ei bod yn gyfnod arbennig o anodd i fusnesau bach, a nodaf fod Iwerddon a'r Iseldiroedd yn cynnig cymorth i fusnesau bach ar ffurf talebau cyngor ar Brexit neu fathau eraill o gymorth ariannol neu anariannol i helpu busnesau bach drwy'r ansicrwydd. Mae'n syfrdanol nad yw Llywodraeth y DU wedi cynnig unrhyw gymorth o'r math hwn i fusnesau yn y DU eto; mae'n ymddangos eu bod yn rhy brysur yn trefnu contractau cludo nwyddau gyda chwmnïau heb longau. Felly, tybed a yw hyn yn rhywbeth rydych wedi'i drafod gyda Llywodraeth Cymru, neu'n rhywbeth y byddwch yn ei godi.