Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Fe ddywedaf wrthych i ba raddau y mae Llywodraeth y DU yn parchu'r setliad datganoli yng nghyswllt hynny. Pan gododd y Gweinidog yn Nhŷ'r Cyffredin a dweud wrthym na fyddem yn clywed unrhyw beth am y gronfa honno tan y flwyddyn nesaf, dyna'r tro cyntaf inni glywed am hynny. Nid oedd ganddynt y cwrteisi i ddweud wrthym beth oedd y cynlluniau, er i ni bwyso am hynny. Felly, dyna hyd a lled y parch at y ffin ddatganoli.
Mae'n gofyn i mi ynglŷn â pharchu canlyniad y refferendwm diwethaf. Mae'n gwybod yn iawn ein bod ni ar y meinciau hyn wedi dadlau dros gyfnod hir am ffurf ar Brexit a oedd yn parchu canlyniad refferendwm 2016 gan wneud y niwed lleiaf posibl i Gymru. Ac roedd anhyblygrwydd y Prif Weinidog dros ei blaid yn y Senedd yn sefyll yn ffordd y canlyniad hwnnw. Ac rydym yn cydnabod yma y dylai yntau gydnabod ein bod wedi cyrraedd pen y daith mewn perthynas â hynny, a'r unig ffordd o osgoi Brexit 'dim bargen', nad oes mandad ar ei gyfer yng nghanlyniad refferendwm hwnnw, yw'r refferendwm yr ydym yn galw amdano.