2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi o ganlyniad i Brexit?
Wel, mae'n bwysig ceisio gweld y pethau hyn yn glir, onid yw? Rydym yn credu'n bendant mai negyddol i raddau helaeth iawn fydd effaith Brexit ar Gymru. Byddai Brexit 'dim bargen', y mae ef yn hapus i'w oddef—a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr y mae'r Aelod yn ei gefnogi yn fwyfwy brwd yn ei gylch—yn arbennig o niweidiol i Gymru. Ond ceir agweddau ar y broses y buom yn ymwneud â hi hyd yma a allai gynnig elfennau optimistaidd ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, os yw Llywodraeth y DU yn gwireddu ei haddewidion na ddylem fod geiniog ar ein colled ac na fydd pŵer yn cael ei gipio oddi wrthym mewn perthynas â chronfeydd strwythurol yn y dyfodol yma yng Nghymru, mae cyfleoedd i'r cronfeydd hynny gael eu defnyddio mewn ffyrdd a allai gefnogi economi Cymru hyd yn oed yn well o fod yn rhydd o gyfyngiadau rhaglenni Ewropeaidd penodol. Ond efallai y gall ymuno â mi i bwyso ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y DU i gadw at yr ymrwymiadau hynny, ymrwymiadau y maent wedi methu'n lân â'u cyflawni hyd yma. Ceir cyfleoedd hefyd, os derbynnir y cynigion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno, i gryfhau'r setliad datganoli, ac atgyfnerthu systemau rhynglywodraethol, y dangoswyd o ganlyniad i Brexit eu bod mor annigonol. Ond bydd wedi gweld o'r datganiadau y mae'r Prif Weinidog a minnau ac eraill wedi'u gwneud yn ystod yr wythnos i 10 diwrnod diwethaf, fod Llywodraeth y DU, hyd yn hyn o leiaf, ar ei hôl hi'n sylweddol o ran hynny hefyd.
Wel, y gwir amdani, er gwaethaf y darogan gwae parhaus gan Lywodraeth Cymru, a gennych chi, Weinidog, y realiti yw y bydd yna gyfleoedd gwych i Gymru ar ôl cael gwared ar y rhwystrau sydd yn eu lle ar hyn o bryd a'r hualau sydd yno ar hyn o bryd o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Bellach, ni fydd yn rhaid inni gerdded ar bigau'r drain, yn poeni ynglŷn â chydymffurfio â rheolau'r UE, pan gyflwynir deddfwriaeth, er enghraifft, i'r Siambr hon. Ac rwy'n synnu na chyfeirioch chi—[Torri ar draws.] Rwy'n synnu na chyfeirioch chi at ddeddfwriaeth o gwbl yn eich ymateb. Oherwydd, fel y gwyddoch, mae Portiwgal wedi sefyll yn ffordd y cynnig i gyflwyno isafswm pris alcohol yma yng Nghymru—rhywbeth y pleidleisiodd y Siambr hon o blaid ei gefnogi er lles iechyd a lles dinasyddion Cymru. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod gadael yr UE yn rhoi cyfle inni fwrw ati i hybu iechyd a lles ein dinasyddion drwy gyflwyno isafswm pris alcohol, cam a gefnogwyd gan y Siambr hon? Ac a allwch ddweud wrthym pa gamau yr ydych yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol yn manteisio ar y cyfleoedd a allai ymddangos ar ôl Brexit?
Wel, o ran deddfwriaeth, credaf ei fod yn camddeall y sefyllfa. Mae ymyrraeth Portiwgal yn rhan o set o hawliau a phrosesau sy'n bodoli ar draws yr Undeb Ewropeaidd, sy'n sail i'r fframwaith deddfwriaethol yr ydym wedi bod yn gweithredu drwyddo, ac yn parhau i weithredu drwyddo fel aelod-wladwriaethau. Ac rwy'n credu ein bod yn falch o'r ffaith yn y lle hwn ein bod yn gweithredu o fewn fframwaith cyfraith Ewrop, sydd wedi datblygu rhwydwaith o hawliau dynol a mesurau diogelu i'n dinasyddion yma yng Nghymru, mesurau diogelu amgylcheddol, mesurau diogelu cymdeithasol, mesurau diogelu'r gweithlu, y byddai ei blaid ef—neu ef yn sicr—yn barod iawn i gael eu gwared, mae'n ymddangos, yn ôl y gefnogaeth y mae'n ei dangos i Brexit 'dim bargen'. Dylem fod yn falch o hynny yma, yn hytrach na'i ystyried yn fwrn. Rydym wedi gweithio'n galed iawn yn Llywodraeth Cymru, gyda llywodraethau eraill ledled y DU, i sicrhau ein bod wedi bod yn trosglwyddo corff cyfraith yr UE i mewn i gyfraith Cymru fel nad yw'r hawliau hynny'n cael eu colli wrth ymadael, oherwydd ein bod yn eu hystyried yn gaffaeliad i fywyd cyhoeddus Cymru yn hytrach na'r baich rheoleiddiol y mae'n awgrymu y byddent.
Mae'n siarad cyfrolau, a bod yn onest, Weinidog, y bydd y weinyddiaeth hon yma yng Nghymru yn manteisio ar bob cyfle posibl i feirniadu Llywodraeth y DU, ni waeth pa mor annheg yw'r feirniadaeth honno, ac eto rydych yn achub ar y cyfle i ganmol yr Undeb Ewropeaidd ni waeth pa mor anhaeddiannol yw'r ganmoliaeth honno o bosibl. Clywsom yr wythnos hon fod blaenoriaethau'r Blaid Lafur yng Nghymru yn glir. Yr Undeb Ewropeaidd yn gyntaf, ac undeb y Deyrnas Unedig yn olaf. Ac am nad yw'r Siambr hon yn mynd i'w glywed gan y Gweinidog Brexit, gadewch imi ddweud wrthych am y cyfleoedd a welwn, oherwydd, wrth gwrs, byddwn yn gweld y baich rheoleiddiol yn cael ei leihau, o bosibl, i lawer o fusnesau nad oes angen iddynt fasnachu dramor gydag allforion. Byddwn hefyd yn gweld rhai arbedion sylweddol i'r trethdalwr wrth gwrs. Bydd gennym y gronfa ffyniant gyffredin i gymryd lle'r cronfeydd Undeb Ewropeaidd a gollwn. Ac wrth gwrs, mae'r ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, y bydd un ohonynt yn dod yn Brif Weinidog, ill dau'n sicr na fydd Cymru'n colli'r un geiniog o gyllid Ewropeaidd o gymharu â'r arian y mae'n ei gael hyd yma.
Felly, yn hytrach na gorfod gweithredu rheolau yma yn y DU sydd o fudd i ffermwyr yn Ffrainc, pysgotwyr yng Ngwlad yr Iâ, cynhyrchwyr gwin ym Mhortiwgal, onid ydych chi'n meddwl y byddai'n well gallu cael ein rheolau ein hunain sy'n cefnogi ffermwyr yma, cynhyrchwyr bwyd a diod yma yng Nghymru? Ac a allwch egluro sut rydych yn parchu canlyniad y refferendwm, sef yr hyn yr addawoch chi ei wneud yn dilyn y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016? Fe ddywedoch chi y byddech yn parchu'r canlyniad fel Llywodraeth Cymru ac yn ceisio gweithredu'r canlyniad hwnnw. Fe safoch ar faniffesto a ddywedai y byddech yn parchu'r canlyniad. Bellach, wrth gwrs, rydych wedi camu'n ôl oddi wrth hynny, a chicio tywod i lygaid yr etholwyr, gan wrthod y penderfyniad a wnaethant i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, a allwch egluro pam eich bod wedi newid eich safbwynt i'r fath raddau, a pha bryd y gwnewch chi ddihuno, wynebu'r gwirionedd, ac edrych ar Brexit fel cyfle bendigedig a gogoneddus i Gymru, nid y math o wae rydych chi'n ei ddarogan?
Wel, rwy'n mynd i ymwrthod â themtasiwn breuddwyd gwrach llefarydd yr wrthblaid yn hyn o beth. A gaf fi godi un pwynt? Mae'n sôn am y gronfa ffyniant gyffredin a'r ymrwymiadau a wnaed yng nghyswllt hynny. Gadewch i ni fod yn glir: roedd yr hyn a ddywedodd Boris Johnson ddydd Gwener diwethaf yn warth cyfansoddiadol—y ffaith y byddai'n well defnyddio'r arian hwnnw pe bai elfen Geidwadol yn perthyn iddynt, nid elfen Llywodraeth y DU, ond elfen Geidwadol. Beth yw ystyr hynny? Os yw am i'r Ceidwadwyr reoli'r arian hwnnw, mae angen i'r Ceidwadwyr ennill etholiad yma yng Nghymru, rhywbeth nad ydych wedi'i wneud dros y 100 mlynedd diwethaf. [Torri ar draws.]
O'r gorau. Beth am wrando ar ymateb y Gweinidog Brexit.
Fe ddywedaf wrthych i ba raddau y mae Llywodraeth y DU yn parchu'r setliad datganoli yng nghyswllt hynny. Pan gododd y Gweinidog yn Nhŷ'r Cyffredin a dweud wrthym na fyddem yn clywed unrhyw beth am y gronfa honno tan y flwyddyn nesaf, dyna'r tro cyntaf inni glywed am hynny. Nid oedd ganddynt y cwrteisi i ddweud wrthym beth oedd y cynlluniau, er i ni bwyso am hynny. Felly, dyna hyd a lled y parch at y ffin ddatganoli.
Mae'n gofyn i mi ynglŷn â pharchu canlyniad y refferendwm diwethaf. Mae'n gwybod yn iawn ein bod ni ar y meinciau hyn wedi dadlau dros gyfnod hir am ffurf ar Brexit a oedd yn parchu canlyniad refferendwm 2016 gan wneud y niwed lleiaf posibl i Gymru. Ac roedd anhyblygrwydd y Prif Weinidog dros ei blaid yn y Senedd yn sefyll yn ffordd y canlyniad hwnnw. Ac rydym yn cydnabod yma y dylai yntau gydnabod ein bod wedi cyrraedd pen y daith mewn perthynas â hynny, a'r unig ffordd o osgoi Brexit 'dim bargen', nad oes mandad ar ei gyfer yng nghanlyniad refferendwm hwnnw, yw'r refferendwm yr ydym yn galw amdano.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Weinidog, polisi newydd Brexit Llafur yw cefnogi refferendwm ar Brexit ac ymgyrch dros aros os yw Boris Johnson neu Jeremy Hunt yn Brif Weinidog, gyda'r bwriad o ailnegodi a gadael os yw Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pobl sydd wedi bod yn dilyn esblygiad polisi Llafur yn dod i'r casgliad fod cymaint o gamau'n ôl wedi bod erbyn hyn am bob cam ymlaen fel bod traed Jeremy Corbyn wedi baglu ar draws ei gilydd ac mae bellach yn gorwedd mewn pentwr dryslyd trosiadol ar y llawr. [Torri ar draws.] Canlyniad rhesymegol y polisi newydd hwn yw mai'r unig ffordd i sicrhau bod Llafur yn ymgyrchu dros aros mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol yw sicrhau nad yw eich plaid chi mewn grym yn San Steffan.
Na, nid yw allan o drefn. A wnewch chi barhau, Delyth Jewell, os gwelwch yn dda? Ac a gawn ni rywfaint o dawelwch o feinciau cefn y Blaid Lafur?
Weinidog, a ydych yn cytuno felly, os ceir etholiad cyffredinol, y byddai'n gwneud synnwyr i bobl sy'n dymuno gweld Llafur yn ymgyrchu dros aros yn yr UE mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol bleidleisio dros bleidiau a fydd yn ymgyrchu i aros mewn unrhyw amgylchiadau?
Wel, pan fydd rhywun wedi bod yn galw am refferendwm, rwy'n credu ei bod hi braidd yn anfoesgar i beidio â chroesawu'r ffaith bod y blaid honno wedyn yn addo refferendwm fel cydnabyddiaeth o gynnydd. Ond mae'r Aelod yn gwybod yn glir beth yw ein sefyllfa yma fel Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Rydym wedi dadlau dros safbwynt a ddisgrifiwyd yn y papur a gawsom ar y cyd â Phlaid Cymru. Rydym wedi cydnabod ein bod wedi cyrraedd y pen draw mewn perthynas â hwnnw, a galwn am refferendwm mewn perthynas â gadael ar unrhyw delerau neu adael 'dim bargen', pa Brif Weinidog bynnag sy'n negodi'r telerau hynny. Bydd yn gwybod ein bod yn parhau i ddadlau o blaid hynny yn ein holl drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac yn gofyn iddynt gymryd camau rhagweithiol i wireddu hynny. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at holl Aelodau Seneddol Cymru yn gofyn iddynt ymuno â'r galwadau o blaid refferendwm ac i sicrhau bod y Senedd yn chwarae ei rhan i wireddu hynny, ac rydym yn hapus i weithio gydag unrhyw blaid arall sy'n rhannu'r amcan hwnnw.
Diolch yn fawr, Weinidog. Dyna ymgais ddewr i gyfiawnhau'r ffurf ddiweddaraf ar bolisi Brexit eich plaid, er fy mod yn tybio y bydd y bobl sy'n gwylio am ffurfio'u casgliadau eu hunain p'un a yw'r ddadl honno'n dal dŵr.
Dywedodd Boris Johnson yn ddiweddar, pe bai'n Brif Weinidog y byddai am weld dylanwad Ceidwadol cryf dros y modd y gwerir y cynllun i adnewyddu cyllid yr UE—y gronfa ffyniant gyffredin—yng Nghymru, ac mae'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon heddiw wedi dweud, 'Ni ddylid ymddiried ynoch chi i wneud hynny'. Eu geiriau hwy nid fy ngeiriau i. Gan nad yw'r Ceidwadwyr mewn grym yma, mae hyn yn awgrymu bod Boris Johnson am i'r gronfa gael ei gweinyddu o San Steffan, neu efallai fod rhywfaint o wirionedd yn y si fod ei gyfaill, nid fy nghyfaill i, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, am iddi gael ei gweinyddu gan awdurdodau lleol. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, y byddai hyn yn gipio pŵer amlwg, rhywbeth a fyddai'n mynd yn groes i Ddeddf Cymru 2017, ac y dylai hefyd fod yn anghyfreithlon, o bosibl, am fod pwerau dros ddatblygu economaidd, gan gynnwys gweinyddu a gwario arian rhanbarthol, wedi'u datganoli i'r Cynulliad hwn?
Wel, rwy'n ategu'r teimladau yng nghwestiwn yr Aelod. Fel y soniais ychydig funudau yn ôl, credaf y byddai'n warthus pe bai hynny'n digwydd. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud ymrwymiadau, ac nid yw'n eu cyflawni. Mae Boris Johnson, drwy wneud y datganiad hwnnw, yn canu larymau, fel y mae ei chwestiwn yn awgrymu. Rydym yn gwbl glir na ddylem ddioddef cael ceiniog yn llai o'r cyllid y buom yn ei gael yma yng Nghymru, ac y dylai'r pwerau dros yr arian hwnnw gael eu harfer yma yn y Cynulliad hwn gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, gan mai ni sydd yn y sefyllfa orau i reoli ein datblygiad economaidd yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Weinidog. Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ddiweddar fod eich Llywodraeth yn datblygu llinellau coch mewn perthynas â meysydd datganoledig nad yw'n dymuno iddynt gael eu cynnwys mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth yw'r llinellau coch hynny? Dywedodd wrthym hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon mynd â Llywodraeth y DU i'r llys pe bai'n ceisio gwerthu GIG Cymru fel rhan o gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau yn y dyfodol. Ond fel y gwyddoch, o dan adran 82 o Ddeddf Cymru, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i weithredu cyfarwyddebau a geir o fewn cytundebau nad ydynt yn rhan o'u cymhwysedd datganoledig. A allech roi sicrwydd inni felly ynglŷn â pha gamau y gallai eich Llywodraeth eu cymryd pe bai Llywodraeth y DU yn gweithredu adran 82 er mwyn ceisio gorfodi Gweinidogion Llywodraeth Cymru i weithredu mesurau niweidiol nad ydynt yn cytuno â hwy, ac a fyddai hyn yn golygu mynd â Llywodraeth y DU i'r llys o bosibl, fel y nododd eich cyd-Aelod, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol?
Wel, nid ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw y dylem gael feto mewn perthynas â'r materion hyn, ond lle mae Llywodraeth y DU yn llunio safbwynt negodi ar gyfer negodiadau rhyngwladol o ba fath bynnag, ni ddylent fwrw ymlaen â'r mandad negodi hwnnw fel arfer oni bai eu bod wedi sicrhau cytundeb y gweinyddiaethau datganoledig, lle yr effeithir yn uniongyrchol ar gymwyseddau datganoledig, neu, lle y gellir effeithio arnynt yn anuniongyrchol, dylem fod yn rhan o'r trafodaethau hynny. Ymddengys i ni fod hwnnw'n gais sylfaenol resymol, ac yn rôl briodol i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau hynny. Ni allwn ddisgwyl, ac ni ellir disgwyl i unrhyw weinyddiaeth ddatganoledig, gydweithredu yn y ffordd y gweithredir y rhwymedigaethau rhyngwladol hynny os na fyddwn wedi cael llais yn y broses o lunio'r safbwyntiau hynny ar y dechrau.
Buaswn yn dweud bod hon yn egwyddor ddatganoli bwysig, ond mae hefyd yn egwyddor bwysig o safbwynt hygrededd Llywodraeth y DU. Mae'r Undeb Ewropeaidd, a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, yn gwybod yn iawn beth sydd wedi'i ddatganoli i wahanol wledydd yn y Deyrnas Unedig, a gwyddant yn iawn y bydd y gwaith o weithredu'r rhwymedigaethau hynny'n disgyn ar ysgwyddau'r gweinyddiaethau a'r deddfwrfeydd datganoledig. Ac felly, byddai bwrw ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad i weithredu rhai o'r rhwymedigaethau hynny yn naïf iawn a byddai'n effeithio'n sylfaenol ar hygrededd Llywodraeth y DU yn y trafodaethau hynny.
Gwneuthum y pwynt hwnnw'n uniongyrchol iawn yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodadau'r UE) diwethaf wrth David Lidington, pan nodais yr hyn a ddywedwyd yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, sef pe bai Llywodraeth y DU yn y dyfodol yn ceisio bwrw ymlaen â'r math o gytundeb masnach yr oedd Donald Trump yn ei hyrwyddo yn y gynhadledd i'r wasg gyda Theresa May ychydig wythnosau'n ôl, byddai Llywodraeth Cymru yn gwrthod gweithredu'r gwaith o breifateiddio'r GIG yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â hynny. Dyna fu ein safbwynt; dyna yw ein safbwynt o hyd a dyna fydd ein safbwynt.