Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:39, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, polisi newydd Brexit Llafur yw cefnogi refferendwm ar Brexit ac ymgyrch dros aros os yw Boris Johnson neu Jeremy Hunt yn Brif Weinidog, gyda'r bwriad o ailnegodi a gadael os yw Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pobl sydd wedi bod yn dilyn esblygiad polisi Llafur yn dod i'r casgliad fod cymaint o gamau'n ôl wedi bod erbyn hyn am bob cam ymlaen fel bod traed Jeremy Corbyn wedi baglu ar draws ei gilydd ac mae bellach yn gorwedd mewn pentwr dryslyd trosiadol ar y llawr. [Torri ar draws.] Canlyniad rhesymegol y polisi newydd hwn yw mai'r unig ffordd i sicrhau bod Llafur yn ymgyrchu dros aros mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol yw sicrhau nad yw eich plaid chi mewn grym yn San Steffan.