Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Byddai cael mwy ohonom yn golygu bod mwy ohonom ar gael i edrych am y rheoliadau neu unrhyw beth sydd wedi'i guddio. Fy mhroblem i yw bod llawer na wyddom amdano, a chan fod cyn lleied ohonom, nid oes gennym amser i ymchwilio i'r diffyg tryloywder y mae'r Llywodraeth i'w gweld yn hoff ohono.