– Senedd Cymru am 3:26 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, a galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig—Suzy.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig.
Cyflwynais y cynnig hwn heddiw am ddau reswm penodol. Y cyntaf yw bod y rhain yn newidiadau go bwysig i'r system bresennol o asesu perfformiad ysgol, a'r ail, nad yw'n fater i'r Gweinidog hwn yn arbennig, ond i'r Llywodraeth yn gyffredinol, gobeithio—gobeithio, Weinidog, y byddwch yn maddau i mi am ddefnyddio'r enghraifft arbennig hon i wneud y pwynt.
Mae'r Gweinidog eisoes wedi esbonio wrthym y gall y system gyfredol o asesu perfformiad ysgolion arwain at ganlyniadau anfwriadol. Bob blwyddyn, mae'n rhaid i lywodraethwyr ysgol osod targedau ar gyfer perfformiad disgyblion yn yr ail a'r trydydd cyfnod allweddol ym mhynciau craidd mathemateg, Saesneg, Cymraeg a gwyddoniaeth a cheir proses debyg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar gyfer myfyrwyr sy’n cyrraedd 16 oed ac yn wynebu arholiadau allanol. Mae'n rhaid iddynt hefyd osod targedau perfformiad mewn dau neu dri phwnc arall, nad ydynt wedi'u pennu. Yna, gellir barnu'r ysgol ar ei pherfformiad yn ôl ei llwyddiant neu fel arall i gyflawni’r targedau hyn—rhywbeth sy'n dod yn weladwy iawn ar ddiwedd blwyddyn 11, lle na wneir y gymhariaeth rhwng targedau ac asesiad athro, ond rhwng targedau a chanlyniadau arholiadau. A gall hynny, fel y clywsom, beri i ysgolion wneud ymdrech anghymesur i amserlennu ar gyfer y pynciau craidd a chwarae’r system drwy gyflwyno myfyrwyr ar gyfer arholiadau na allant ond gynhyrchu cyfwerth â TGAU gradd C.
Fel rhan o ddiwygiadau ehangach, ac i atal yr ymddygiad hwn, mae'r Gweinidog yn symud tuag at drefniadau gwerthuso a gwella newydd. Credaf fod gennym eisoes rai mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 dros dro y gweithir drwyddynt ar gyfer arholiadau’r haf hwn. Ac nid yw'r broses bresennol o osod targedau yn cyd-fynd â'r mesur perfformiad newydd hwn ac nid yw'n cyfrannu at hunanwerthuso a gwella ysgol. Yn ychwanegol at hynny, gofynnir i lywodraethwyr osod targedau ar set o ofynion na fyddant yn weithredol mwyach. Credaf mai dyna yw craidd dadl y Gweinidog, ond os wyf wedi camddeall, rwy'n fwy na pharod i gael fy nghywiro.
Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn dal i’w gwneud yn ofynnol i lywodraethwyr osod targedau; chwech ohonynt o hyd, yn ôl pob golwg. Ond bydd y gofyniad i unrhyw un o'r rheini fod yn bynciau craidd Saesneg, Cymraeg neu fathemateg yn diflannu, yn ogystal â'r angen i adrodd ar ganran y disgyblion sy'n cyflawni'r targedau hynny. Nawr, mae'n bosibl y bydd gennym broblem gyda'r syniad na fydd llywodraethwyr ysgol yn gosod ei thargedau heb wybod pa mor agos neu bell oddi wrth y targedau hynny oedd canlyniadau ei disgyblion. Ond nid prif ddiben cyflwyno'r cynnig hwn i'r Siambr yw herio cyfeiriad teithio cyffredinol y Gweinidog, ond yn hytrach, i roi cyfle i chi, Weinidog, esbonio'n uniongyrchol i ni pam eich bod yn fodlon i ysgolion allu osgoi gosod targedau ar gyfer y tri phwnc hyn yn benodol.
Mae sgiliau da mewn Saesneg a mathemateg, ac yn gynyddol, Cymraeg, yn dal i gael eu hystyried yn ofynion hanfodol mewn unrhyw gais am swydd. A hyd yn oed os yw'r fframwaith perfformiad newydd yn ymwneud â hunanwerthuso a hunanwella, a hyd yn oed os yw disgyblion yn gwneud yn dda yn y pynciau craidd hyn, onid oes dadl dros gadw'r tri phwnc hyn yn bwynt ffocws ym mhob ysgol, gan gofio eu statws penodol ar gyfer camu ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu waith?
Nawr, rwy'n derbyn bod dadl y gall ysgol unigol benderfynu bod angen iddi wella mewn chwe maes cwbl wahanol. Ond ni allaf weld unrhyw beth yn y rheoliadau presennol na'r rheoliadau newydd sy'n atal gosod targedau mewn mwy na chwe maes. Hyd nes yr awn i mewn i’r cwricwlwm newydd yn llawn, ac y gallwn weld sut y mae meysydd dysgu a phrofiad mathemateg a rhifedd ac ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn gweithio, rwy'n gofyn i'r Aelodau ystyried bod yn rhaid i lywodraethwyr gadw'r tri phwnc hyn yn eitemau targed blynyddol hyd nes y bydd y cwricwlwm newydd wedi ymsefydlu ychydig, ac—oni bai y gall y Gweinidog ein perswadio ni fel arall—i gefnogi dirymu'r rheoliadau penodol hyn.
Yr ail reswm dros gyflwyno'r cynnig hwn yw mai dyma’r unig ffordd o ddod â hyn i'r Siambr. Nid bai'r Gweinidog yw hyn, ond mae’n enghraifft berffaith o pam y dylem fel deddfwrfa ochel rhag gadael gormod i is-ddeddfwriaeth lle gellir colli golwg ar bwerau Gweinidogion Cymru. Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn deillio o statudau San Steffan, ond mae'r pwynt yn berthnasol i'n deddfwriaeth sylfaenol hefyd. Mae hwn yn newid pwysig i drosolwg ac o bosibl i statws Saesneg, Cymraeg a mathemateg yn ein system addysg bresennol, a gyflwynwyd drwy'r weithdrefn negyddol, na fuaswn wedi gwybod unrhyw beth amdano pe na bawn wedi digwydd bod mewn Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ddiwrnod penodol.
Ac rwy'n gofyn: a yw'n iawn fod gofyn i ni fel deddfwrfa ddeddfu, yn achos y weithdrefn negyddol, drwy gydsyniad tybiedig, os nad ydym yn gwybod bod y rheoliadau hyn ar y ffordd? Ac felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru ystyried ffordd fwy rhagweithiol o gyhoeddi ei his-ddeddfwriaeth yn uniongyrchol i lefarwyr, o leiaf. Mae’r Ddeddf ddeddfwriaeth yn ymwneud â hygyrchedd y gyfraith, ac nid yw’r rheidrwydd arnom ni fel Aelodau i dreillio’n ddall drwy'r archifau cenedlaethol yn y gobaith y byddwn yn dod o hyd i rywbeth yn cyfrif fel hygyrch. Ac er fy mod yn ailadrodd, Weinidog, nad mater i chi yn unig yw hwn, credaf ei fod yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei ystyried gan ei fod yn ein rhwystro rhag gwneud ein gwaith. Diolch.
Mi fydd Plaid Cymru yn atal pleidlais ar y mater yma, nid oherwydd ein bod ni'n eistedd ar y ffens ynglŷn â'r rheoliadau, ond fel arwydd o'n hanfodlonrwydd efo'r broses. Mae'r rheoliadau yn cael gwared ar yr angen statudol i ysgolion osod targedau penodol oherwydd bod y mesuriadau wedi newid. Mae hynny yn synhwyrol, ac mi rydym ni hefyd yn cytuno efo'r newid, a'r symud i ffwrdd o'r ffocws cul ar raddau sydd ar y ffin, sef y ffocws cul yma ar godi graddau o D i C. Yn gyffredinol, dwi'n credu bod ysgolion yn croesawu'r newid, ac mi fydd o'n rhoi'r gallu iddyn nhw ddatblygu targedau go iawn, fydd yn helpu codi safonau ar gyfer pob disgybl. Felly, nid ydym ni'n atal pleidlais oherwydd y pwnc dan sylw. Y rheswm ein bod ni am atal ydy er mwyn gwneud y pwynt y mae Suzy Davies wedi ei amlinellu fel ei hail rheswm hi dros gyflwyno'r cynnig, sef mai dyma'r unig ffordd o gael trafodaeth ar hyn yn y Siambr. Maen bwysig nad ydym ni'n defnyddio deddfwriaeth eilaidd a'r broses negyddol yn ormodol. Mae peryg i Weinidogion ddefnyddio eu pwerau a gwneud newidiadau heb fawr o drafodaeth. Dydy hynny ddim yn iach i ddemocratiaeth. Mae angen i Lywodraeth fod mor agored a thryloyw â phosib. Maen bwysig bod y ddeddfwrfa yn cael craffu yn llawn ar faterion o bwys. Ac yn sicr, dyna un rheswm pam ein bod ni'n credu bod angen symud ar frys i gael mwy o Aelodau Cynulliad yn Senedd Cymru, er mwyn bod y craffu yn gallu digwydd yn llawn. Dwi'n cytuno efo Suzy hefyd y byddai'n fuddiol i'r Llywodraeth fabwysiadu dull tryloyw o gyflwyno deddfwriaeth eilaidd. Dwi'n gwybod nad mater penodol i'r Gweinidog ydy'r ail ran o beth dwi newydd ei ddweud rŵan, ond dwi yn gobeithio y bydd y drafodaeth yma yn sbarduno'r newid sydd ei angen.
Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am godi'r mater hwn, oherwydd yn amlwg, roedd 6 Mehefin yn ddydd Iau pan nad oeddem yn eistedd, ac roedd yn ddatganiad ysgrifenedig, felly gallai'n hawdd iawn fod wedi digwydd heb i neb ohonom sylwi. A chredaf fod y pwnc o dan sylw yma—mae'n edrych yn ddiflas iawn ac mae'n eithaf anodd deall beth yn union fydd disgwyl i lywodraethwyr ei wneud. Ond yn y bôn, mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig. Felly, credaf ei bod yn werth ei drafod yn y Senedd.
Credaf fod yn rhaid i ni osgoi addysgu ar gyfer y prawf, sef yr hyn sydd wedi bod yn digwydd—mewn rhai ysgolion yn sicr. Nid oes pwynt dysgu pethau fel peiriant, gan na fydd hynny o fudd i bobl ifanc yn y dyfodol, pan nad yw'r swyddi y bydd angen iddynt eu gwneud yn y dyfodol yn bodoli. Felly, mae'n rhaid i ni gael rhywbeth sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd a'r meysydd dysgu a gallu'r myfyrwyr i addasu eu dysgu i weddu i amgylchiadau annisgwyl. Ymddengys i mi fod hynny'n wirioneddol bwysig.
Felly, gallaf weld y gwerth mewn galluogi llywodraethwyr yn unigol i allu edrych ar dargedau penodol yn eu hysgol. Er enghraifft, os yw Estyn wedi tynnu sylw at y ffaith bod cerddoriaeth neu'r cynnig ail iaith yn wan, mae'n amlwg y bydd y corff llywodraethu hwnnw yn awyddus i osod targed ar gyfer sut y mae'r ysgol yn gwneud cynnydd ar fynd i'r afael â'r gwendidau hynny. Ond credaf mai'r hyn y mae angen i ni ymbellhau oddi wrtho yw'r ffocws cul ar y ffin C/D, nad yw o fudd i'r rhan fwyaf o ddisgyblion. Rwyf am weld pob ysgol yn cael ei barnu yn ôl y gwerth y maent yn ei ychwanegu at ddysgu pob unigolyn, yn hytrach na'r dull blaenorol, a oedd yn caniatáu i ysgolion segura yn y maestrefi deiliog, fel y'u gelwid, lle roedd hi'n eithaf hawdd cyflawni'r targedau roeddem yn eu gosod ar y cyfan, targedau nad oedd yn eu barnu yn erbyn y deunyddiau crai a oedd yn dod i mewn i'r ysgol yn y lle cyntaf.
Felly, croesawaf y ddadl hon yn fawr iawn. Credaf ei bod yn un y gallwn ac y dylem ddychwelyd ati. Felly, diolch, Suzy Davies.
Hoffwn longyfarch Suzy Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i ddirymu heddiw, a hefyd am dynnu fy sylw at y cynnig hwn yn y Siambr pan godais hyn, bythefnos yn ôl rwy'n credu, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan ddeuthum ag ef i'r Siambr mewn cyd-destun arall. Yn gyffredinol, rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Suzy am ei gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch i lefarwyr, ac yn wir, i Aelodau eraill y Cynulliad nodi'r hyn a gynigir, yn enwedig pan fo'r hyn a gynigir yn bwysig. Yn yr achos hwn, roeddwn yn ymwybodol o'r rheoliadau hyn, a dyna pam y'u codais gyda'r Prif Weinidog. Ni allaf gofio beth a ddarllenais, mewn gwirionedd, neu beth a welais a’m gwnaeth yn ymwybodol ohonynt—rwy'n falch iawn fod hynny wedi digwydd. Ond rwyf hefyd yn cefnogi trefniadau i'w gwneud yn haws i ni fod yn ymwybodol o'r materion pwysig y dylem eu trafod yn y Siambr hon, fel rydym yn ei wneud heddiw, diolch i chi, Suzy.
Credaf fy mod yn anghytuno, fodd bynnag, gydag un neu ddau o’r pwyntiau a godwch—neu o leiaf mae fy mhwyslais yn wahanol. Buaswn yn herio cyfeiriad teithio cyffredinol y Llywodraeth hon o ran targedau perfformiad ysgolion. Credaf fod problem wirioneddol yng Nghymru, a phroblem wirioneddol—boed yn Llywodraeth Lafur, neu’r ffaith bod Democrat Rhyddfrydol yn y swydd, gall fod gwahaniaeth barn. Ond ceir diffyg atebolrwydd, diffyg gallu i rieni wneud cymariaethau ystyrlon rhwng ysgolion mewn ffordd sy'n cael ei chymryd yn ganiataol yn Lloegr. A phan fyddwch yn cymharu trywydd a pherfformiad cyffredinol y system ysgolion yn Lloegr o gymharu â Chymru, ac yn nodi bod hynny wedi digwydd yn erbyn cefndir lle mae mwy o wybodaeth o lawer wedi’i chyhoeddi yn Lloegr, a'i chyflwyno mewn ffordd lle gall rhieni ac eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig, ei chymharu er mwyn dwyn ysgolion a’r Llywodraeth i gyfrif—credaf ei bod yn ormod ystyried bod hynny'n gyd-ddigwyddiad.
Rhoddodd Suzy y pwyslais ar y Gymraeg neu'r Saesneg a mathemateg. Ac ydy, mae hynny'n rhan o'r trothwy hefyd, ond mae hefyd yn bum TGAU da ar radd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a mathemateg. A'r trothwy hwnnw, efallai, oedd y prif sbardun o ran y targedau a osodwyd yn Lloegr, ac sydd wedi arwain at berfformiad o'r fath mewn perfformiadau cyffredinol yn erbyn y targedau hynny, ond yn enwedig yn Llundain. Yn anffodus, nid ydym wedi gweld hynny yng Nghymru. A byddai symud oddi wrth hyn, yr un maes lle mae gofyn i ysgolion osod targed, ar drothwy penodedig, lle gallwn eu cymharu, lle gellir rhoi pwysau ar wahanol ysgolion o ran eu perfformiad, a pham nad yw’n well, neu sut y mae'n cymharu ag ysgolion eraill—. Os byddwn yn colli hynny, byddwn yn colli dull pwysig iawn o wella, gobeithio, perfformiad ysgolion. Nid yw hyn wedi bod yn digwydd yng Nghymru, ac rwy'n ofni mai'r rheswm allweddol nad yw wedi bod yn digwydd yw'r methiant i gyhoeddi gwybodaeth yn gyson, i osod targedau yn gyson ac i ddwyn ysgolion i gyfrif.
Credaf hefyd fod y trothwy C/D yn un pwysig iawn. Cydymdeimlaf â’r dadleuon ynghylch chwarae'r system, ac yn benodol, credaf fod cyflwyno disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau a'r camau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i gyfyngu ar hynny o leiaf, o gymharu â'r hyn a welwn, yn dda. Ond mewn gwirionedd, os ydych yn cael C neu D, mae hynny’n bwysig iawn i'r unigolyn hwnnw. Mewn llawer o swyddi, mae'n ofynnol fod gennych lefel C o leiaf mewn Saesneg neu Gymraeg a mathemateg, ac os nad oes gennych hynny, efallai na fydd cyfleoedd ar gael a fyddai ar gael fel arall. Felly, mewn gwirionedd, os oes pwyslais sylweddol ar ysgolion i geisio sicrhau bod plant yn cael pum TGAU da a sicrhau eu bod o leiaf ar y lefel y mae angen iddynt fod arni yn y pynciau allweddol hynny, credaf fod hynny'n rhywbeth i’w groesawu. Mae'n darged y dylem ei gael ar gyfer ysgolion. Gresynaf yn fawr at y ffaith bod y Llywodraeth yn argymell cael gwared â’r gofyniad gorfodol i osod y targed hwnnw o leiaf, ac edrychwn ymlaen at gefnogi cynnig Suzy Davies i ddirymu.
Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Addysg i siarad? Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf yn fawr iawn y cyfle i ymateb i'r cynnig hwn ac i egluro'r angen am y gwelliannau rheoliadol hyn. Rwy’n derbyn bod cynnydd diwygio addysg yng Nghymru, fel y nodir yng nghenhadaeth ein cenedl, yn symud yn ei flaen yn gyflym, ac rwyf bob amser yn croesawu craffu ar bob cam. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi gwneud pum datganiad llafar neu ysgrifenedig ar faterion sy’n ymwneud â'n system newydd o atebolrwydd ysgolion. Mae'r rhain wedi darparu diweddariadau ar newidiadau polisi sy'n rhan o’r broses o roi’r argymhellion sy'n deillio o 'Dyfodol Llwyddiannus’ ar waith, rhywbeth sydd wedi cael, ar y cyfan—nid wyf yn hollol siŵr sut y mae Plaid Brexit yn teimlo amdano—cefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon.
Yn gyntaf, gadewch i mi ddweud yn glir na fydd dirymu’r rheoliadau hyn yn gwrthdroi'r newidiadau a gyhoeddais ym mis Mai 2018 i fesurau perfformiad cyfnod allweddol 4, a ddatblygwyd drwy gydweithio â phenaethiaid a rhanddeiliaid allweddol. Fodd bynnag, byddai'n creu sefyllfa afresymol lle byddai disgwyl i ysgolion osod targedau ar gyfer mesurau cyflawniad na fyddant yn adrodd arnynt mwyach. Nid yw'r rheoliadau gosod targedau, fel y maent ar hyn o bryd, yn cyd-fynd â’r mesurau perfformiad ar gyfer cyfnod allweddol 4 y byddwn yn adrodd arnynt—rydych yn llygad eich lle, Suzy—o eleni ymlaen.
Dangosodd canlyniad yr ymgynghoriad ar y rheoliadau diwygio hyn fod rhanddeiliaid, a oedd yn cynnwys ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau athrawon, yn gyffredinol yn cefnogi'r cynigion a'r bwriadau polisi. Yn gyffredinol, mae ysgolion a'r rheini sydd wedi craffu ar ein system addysg o’r farn nad yw gofyn i ysgolion osod targedau yn seiliedig ar set gul o ddangosyddion rhagnodol iawn yn ddefnyddiol, a bod hynny wedi arwain at ffocws penodol iawn ar elfennau o ansawdd ar draul myfyrdod a hunanwerthuso mwy cyflawn.
Efallai fod Mr Reckless yn ddigon hapus gyda'r ffocws hwnnw ar y ffin C/D, ac nid oes gennyf unrhyw ddadl gydag ef os yw plentyn ar y ffin honno—mae C, wrth gwrs, yn ddefnyddiol iddynt. Ond beth am gynnydd y plentyn a ddylai fod wedi cael A* neu A, lle'r oedd eu hysgol efallai wedi dweud wrth y rhiant, 'Rwyf am gyflwyno eich plentyn i sefyll haen benodol o bapur mathemateg neu bapur Saesneg', gan wybod mai'r uchafswm y gallent ei gael oedd C? Nawr, mae hynny'n iawn ar gyfer mesurau perfformiad yr ysgol, ond os gallai'r plentyn hwnnw fod wedi cael B neu A neu A*, maent wedi colli’r cyfle hwnnw, ac mae'r system sydd wedi helpu'r ysgol i gyflawni'r hyn a ddymuna, ond nad yw o reidrwydd yn helpu'r plentyn i gyflawni—[Torri ar draws.] Fe ildiaf.
Os felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw atebolrwydd, mesuriadau, targedau, a'r gallu i gymharu'r pethau hynny, yn hytrach na hunanwerthuso mwy cyflawn y gellir ei ddisgrifio fel arall yn ysgolion yn marcio eu gwaith cartref eu hunain?
Yr hyn a fydd gennym yn lle hynny, o'r haf hwn, yw system sgorio sy’n seiliedig ar bwyntiau, lle caiff cyflawniadau pob plentyn eu cyfrif—pob plentyn, o'r disgyblion sy'n perfformio orau i'r rhai y mae cael D yn gyflawniad enfawr iddynt. A bydd gennym brif fesurau o hyd ar gyfer cyfrif Saesneg, mathemateg, yn ogystal â gwyddoniaeth. Nid ydym yn cael gwared ar atebolrwydd. Rydym yn symud tuag at atebolrwydd mwy deallus lle mae pob plentyn yn bwysig yn ein system, lle mae perfformiad pob plentyn yn bwysig yn ein system, ac yn hollbwysig, lle rydym yn mesur effaith cynnydd y plentyn hwnnw drwy'r system addysg. Felly, os ydych yn dod i mewn gan ddisgwyl gradd benodol ym mlwyddyn 7, gallwn olrhain cynnydd y plentyn hwnnw a'r effaith a gafodd yr ysgol honno ar y plentyn.
Yr hyn a wyddom yw—. A Suzy, yn eich ymateb i fy natganiad y llynedd, credaf ichi gydnabod bod y canlyniadau anfwriadol—p'un a ddylent fod wedi eu rhagweld gan Lywodraethau blaenorol neu heb eu rhagweld—wedi arwain at gulhau'r cwricwlwm, ac yn wir, amserlennu sydd wedi arwain at gael gwared ar bynciau fel hanes, daearyddiaeth, drama, celf, cerddoriaeth a Ffrangeg o'r cwricwlwm, wrth i athrawon ganolbwyntio eu gwersi amserlen, weithiau am hanner tymor cyfan, ar Saesneg a mathemateg yn unig, gan hepgor popeth arall y dymunwn i’n plant eu dysgu a’u cyflawni yn ein hysgolion.
Nawr, nid diben y rheoliadau diwygio hyn yw cael gwared ar reoli ansawdd o'n system atebolrwydd ysgolion. Bydd ysgolion yn parhau i gael eu harolygu; bydd rhieni a gwarcheidwaid yn parhau i dderbyn adroddiadau ar gynnydd dysgwyr; bydd yn ofynnol o hyd i ysgolion osod targedau ar gyfer gwella a bydd awdurdodau lleol yn parhau i sicrhau ansawdd y targedau hynny; a bydd Estyn hefyd yn arolygu awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ac yn barnu'r trefniadau sydd ar waith ym mhob rhanbarth, er mwyn sicrhau trylwyredd a chysondeb. Ac mae'n gamsyniad dweud nad oes gan rieni fynediad at wybodaeth. Nid oes ond yn rhaid ichi fynd ar wefan ‘Fy Ysgol Leol’ y prynhawn yma yn y Siambr, ac fe gewch ddarlun llawn a chyfoethog iawn o'r hyn sy'n digwydd mewn ysgolion unigol.
Nawr, mae cenhadaeth ein cenedl yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer system atebolrwydd sy'n deg, yn gydlynol, yn gymesur, yn dryloyw ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer system addysg Cymru, yn hytrach na gwerthoedd y farchnad, Mr Reckless. Bydd y trefniadau gwerthuso a gwella newydd yn helpu i sicrhau'r newid diwylliannol sydd ei angen yn y pen draw i gefnogi’r gwaith o wireddu ein cwricwlwm newydd.
A wnaiff yr Aelod ildio? Nid oes unrhyw un yn awgrymu marchnad—dim ond fod rhieni'n gorfod talu er mwyn gallu cymharu pa mor dda y mae ysgolion yn perfformio, er mwyn llywio eu barn o ran (1), ble maent am i'w plant fynd i'r ysgol, a (2), sut i helpu'r ysgolion hynny i wella wedyn drwy eu dwyn i gyfrif.
Mae'n swnio'n debyg i farchnad i mi, Ddirprwy Lywydd, ac mae hynny'n iawn. Mae gan yr Aelod berffaith hawl i arddel y gwerthoedd hynny’n sail i'w ymagwedd at bolisi addysg. Mae hynny'n hollol iawn. Realiti byw yn ein gwlad, Mark—realiti byw yn y wlad hon—yw nad yw plant yn gallu symud o gwmpas—[Torri ar draws.] Y realiti yw bod angen i bob ysgol fod yn ysgol leol dda heb allu cael sefyllfa lle mae rhieni sy'n gallu fforddio symud i'r dalgylchoedd cywir yn gallu gwneud hynny. Mae angen i bob ysgol fod yn ysgol dda waeth ble maent wedi’u lleoli. Ac nid ydym yn helpu ysgolion i wneud cynnydd drwy beri iddynt gystadlu â’i gilydd.
Hanfod y mater yw hunanwerthuso trylwyr a pharhaus ar gyfer pob haen o'r system addysg yn hytrach nag athrawon yn cadw'r hyn sy’n arferion da yn eu hysgolion oddi wrth ysgolion eraill. Mae angen i ni agor hynny a rhannu'r arferion da hynny, ac nid ydych yn gwneud hynny os ydych yn creu system farchnad lle mae ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, a lle mae hunan-fudd i'w gael o beidio â rhannu'r arferion da hynny.
Nawr, mae angen i ni ddefnyddio'r targedau hyn hefyd, ynghyd â deialog broffesiynol, i gefnogi dysgu a gwella, ymwreiddio cydweithredu, fel y dywedais, adeiladu ymddiriedaeth yn ein proffesiwn, hybu hunanwella a chodi safonau i'n holl ddysgwyr. Bydd atebolrwydd allanol yn parhau i fod yn un o nodweddion ein system, ond byddwn yn darparu mwy o annibyniaeth i ysgolion hunanwella a datblygu targedau go iawn sy'n cyfrannu at y gwaith o wella ansawdd addysg mewn ysgolion a safonau cyflawni eu dysgwyr sy'n benodol i'w hanghenion yn eu hysgolion.
Bydd y gofyniad i gyrff llywodraethu ysgolion osod targedau mesur perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 yn cael ei ddileu er mwyn cynyddu nifer y targedau amhenodol sy'n rhaid eu gosod, yn seiliedig ar werthusiad ysgolion. Felly, mewn gwirionedd, rydym yn gofyn iddynt osod mwy o dargedau nag y maent yn eu gosod ar hyn o bryd, ond bydd ganddynt ryddid i fyfyrio ar eu perfformiad eu hunain a barnu lle mae angen iddynt wneud gwelliannau. Mae ein cynlluniau'n ymwneud â sicrhau bod y ffordd rydym yn asesu perfformiad ysgolion yn cynrychioli perfformiad yr ysgol yn ei chyfanrwydd a byddwn yn ymddiried mwy yn ein haddysgwyr proffesiynol sydd yno bob dydd yn ein hystafelloedd dosbarth a'r rheini sy’n arwain ein hysgolion i nodi'r materion sydd bwysicaf iddynt hwy yn eu cyd-destun lleol.
Gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw a pheidio â chymryd cam yn ôl ar gam pwysig, ymarferol yn y gwaith o helpu i sicrhau'r newid diwylliannol y credaf fod ei angen yn ein hysgolion yn y pen draw, ac y bydd ei angen er mwyn cyflawni cenhadaeth ein cenedl. Rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth Suzy Davies ynglŷn â gweithdrefnau. Rwy'n fwy na pharod i ystyried y ffordd rydym yn cyflawni'r gweithdrefnau hynny yng nghyd-destun yr adran addysg, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth ehangach yn myfyrio ar y pwyntiau a wnaed heddiw. Nid yw'r weithdrefn wedi bod yno i osgoi craffu, ond byddaf yn ystyried hynny gydag unrhyw ddeddfwriaeth neu reoliadau pellach y byddwn yn eu cyflwyno yn yr adran addysg.
A gaf fi alw ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch, Jenny Rathbone, eich bod yn meddwl bod hyn yn ddigon pwysig i'w drafod. Efallai y gallaf ddechrau gyda phwyntiau'r Gweinidog. Mae hyn wedi'i gyflwyno ar lefel uwch i'r Siambr o'r blaen; nid yw'n newyddion llwyr i ni. Ond o ran y manylion penodol ynghylch Saesneg, mathemateg a Chymraeg, ni chawsom gyfle i'w trafod. Er fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedoch chi yn eich ymateb i'r ddadl hon, ein bod wedi cael gwybod am hyn o'r blaen a bod angen i rywbeth newid, ni chredaf i chi sôn yn benodol am Saesneg, mathemateg a Chymraeg, gan fod y pynciau penodol hynny, yn ein system bresennol—nid ein system addysg bresennol, ond yn ein system economaidd bresennol, ein system addysg bellach ac uwch—yn meddu ar statws unigryw. Gofynnir amdanynt bob amser, a buaswn yn bryderus iawn pe bai ysgolion yn cael cyfle i beidio â gwneud y tri maes pwnc hynny'n un o'r chwech neu fwy y byddant yn gosod targedau ar eu cyfer yn y ffordd newydd, a dyna pam y dewisais y rheoliadau penodol hyn yn hytrach nag unrhyw rai eraill. Felly, efallai y gallwch fyfyrio ychydig yn fwy ar hynny.
Dysgu ar gyfer prawf—ie, rydym yn cytuno â chi ynglŷn â hynny, Jenny, ond fel y dywedaf, mae'r tri phwnc hyn yn flaenoriaethau yn fy marn i ar gyfer unrhyw ysgol, waeth pa mor dda yw hi a pha mor dda y mae wedi bod yn perfformio yn y tri maes hyd yma.
Mwy o Aelodau—nawr, ni fydd hynny'n datrys y broblem os yw'r rheoliadau hyn wedi'u cuddio. Gallwn gael 160 o Aelodau, ond os na allwn ddod o hyd i'r rheoliadau hyn, ni all unrhyw un graffu arnynt. Felly, rwy'n ddiolchgar ichi, Weinidog, am y pwyntiau olaf a wnaethoch.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Byddai cael mwy ohonom yn golygu bod mwy ohonom ar gael i edrych am y rheoliadau neu unrhyw beth sydd wedi'i guddio. Fy mhroblem i yw bod llawer na wyddom amdano, a chan fod cyn lleied ohonom, nid oes gennym amser i ymchwilio i'r diffyg tryloywder y mae'r Llywodraeth i'w gweld yn hoff ohono.
Mae'n ateb cwbl deg, Siân. 'ACau ydym ni, nid ditectifs,' a fyddai fy ymateb i hynny mae'n debyg, ond nid yw'n rheswm dros beidio â chael mwy o ACau, fel mae'n digwydd.
Mark Reckless—perfformiad ysgol a sut i'w farnu. Mewn gwirionedd, credaf fod hyn yn deilwng, efallai, o ddadl lawn ar ryw adeg. Buaswn yn falch iawn pe bai arweinydd Plaid Brexit yn cyflwyno hynny. Ar hyn o bryd, credaf fod yn rhaid i rywbeth newid, ac rwy'n fwy na pharod i roi cyfle i syniadau newydd y Gweinidog i weld sut y maent yn gweithio. Efallai y byddant yn wych ac y cawn syniad da iawn am berfformiad ysgol, neu efallai na fyddant yn gweithio. Mae angen i ni roi cyfle iddynt, ac mae angen i ni gael cyfle i weld a ydynt yn gweithio. Rwy'n gobeithio y byddant yn gweithio wrth gwrs, er lles ein plant a'n hathrawon a'n staff. Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'u hargyhoeddi ynghylch hynny ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid i ni roi cyfle teg i hyn. Felly, diolch i bawb a gymerodd ran heddiw.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 6 ar yr agenda—[Torri ar draws.] Nid oes ots gennyf, clywais 'gwrthwynebu', felly—[Torri ar draws.] Na, na, clywais 'gwrthwynebu', ac felly gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon. Nid wyf yn poeni pwy alwodd 'gwrthwynebu'; fe'i clywais.