6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 4:10, 10 Gorffennaf 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd gweithredol, a diolch i'r pwyllgor am ei weithgaredd ac i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma heddiw. Mae’r adroddiad yma yn cynnig nifer o argymhellion adeiladol ac ystyriol sut y gallwn ni gefnogi'r diwydiannau creadigol yn well fel Llywodraeth, ac yn enwedig cynyrchiadau teledu a ffilm ym mhen uchaf y farchnad. A dyna pam ein bod ni, yn yr adroddiad, wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor yr 14 o argymhellion sydd wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru allan o’r 17. Mae yna un argymhelliad wedi'i gyfeirio at S4C, a dwi’n sicr y byddan nhw’n yn ymateb i hwnnw. Mae yna ddau argymhelliad wedi’u gwrthod oedd yn ymwneud yn benodol â gwyliau ffilm, gan fod yna drefniadau eisoes gan y Llywodraeth yn y maes yna.

O ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiannau creadigol, a’r gweithgaredd sydd wedi cael ei sbarduno gan y cwmnïau sy’n weithredol yng Nghymru, dyma, fel y clywsom ni yn y ddadl yma, un o’n sectorau economaidd sydd wedi tyfu gyflymaf, gyda throsiant blynyddol o dros £2 biliwn, 58,000 o bobl yn cael eu cyflogi—50 y cant yn fwy na 10 mlynedd yn ôl. Mae Caerdydd bellach yn cael ei chydnabod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer dramâu a ffilmiau, ac mae Cymru wedi dod yn lle cystadleuol a dibynadwy i ddiwydiannau ac yn ddewis amgen i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Mae ein cefnogaeth ni fel Llywodraeth wedi bod yn allweddol o ran denu cynyrchiadau o'r ansawdd uchaf o'r tu fas i Gymru, ac wedi cyfrannu at yr economi leol drwy wario cyllidebau yn lleol. Diolch i’r help ariannol ac ymarferol gan y Llywodraeth, mae gwariant y sector teledu a ffilm yng Nghymru wedi cynyddu o fwy na £35 miliwn yn 2016-17 i £55 miliwn yn 2018-19.

Rydym ni wedi rhoi help ariannol i dros 20 o brojectau cynhyrchu cynhenid, sydd, yn ogystal â bod yn hanfodol i dwf cynaliadwy'r sector yng Nghymru, wedi cyfrannu'n anferthol hefyd at hyrwyddo'r Gymraeg—fel y clywsom ni yn y ddadl yma gan David Melding—drwy bedwar ban byd dros y blynyddoedd diwethaf. Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru, law yn llaw ag S4C, wedi cefnogi 15 o gynyrchiadau Cymraeg, gan gynnig mwy na £2.4 miliwn o gyllid cysylltiedig. Ac fe glywsom ni’n barod am y cynyrchiadau rhyngwladol gan S4C, megis Un Bore Mercher, Y Gwyll a Bang, sydd wedi cael eu gwerthu ledled y byd.

Yn awr, dwi am ddod at Gymru Greadigol. Mi fydd Cymru Greadigol yn gyfrifol am ddatblygu a llunio strategaeth i gefnogi a chynnal twf y diwydiant sgrin yng Nghymru, yn ogystal â sectorau eraill, yn arbennig cerddoriaeth, yn y diwydiannau creadigol. Yn unol ag argymhelliad 1, a dderbyniwyd gennym ni, mi fydd Cymru Greadigol yn parhau i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ardderchog ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu, ond mi fydd hefyd yn edrych ar sut mae modd datblygu sgiliau a'r gadwyn gyflenwi hyd yn oed yn well nag y maen nhw ar hyn o bryd, er mwyn rhoi i'n busnesau creadigol y galluoedd i greu, a fydd yn hybu eiddo deallusol a pherchnogaeth ddeallusol yn economi Cymru.

Mi fydd Cymru Greadigol yn datblygu strategaeth sgiliau a fydd yn ateb y gofyn yn y farchnad. Mi fydd yna ddarpariaeth hyfforddi amserol ac ymatebol drwy ddarparwyr arbenigol, yn ogystal â sicrhau bod talentau'n cael eu meithrin drwy weithio mewn partneriaeth â'r cyrff a'r sefydliadau perthnasol a gydag arbenigwyr y diwydiant.

O ran argymhelliad 12, mi fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n glos gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, yn arbennig gyda'r Is-adran Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, i gynnal ein hagenda sgiliau ac i ystyried yn fanwl sut y gall y diwydiant sgrin fanteisio'n llawn ar gynlluniau prentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Fel y nodir yn argymhelliad 2, mae nifer o sesiynau wedi'u cynnal ledled Cymru i ofyn i'r diwydiant am ei farn ynghylch sut y gall Cymru Greadigol ddiwallu anghenion y diwydiant orau. Mae cyfraniadau ein cwmnïau cynhenid ni wedi bod yn hanfodol i'n helpu ni i ddeall sut i wella'n cefnogaeth i'r diwydiant a datblygu sector creadigol o'r ansawdd gorau yng Nghymru.

Wrth fanylu ar y modd y mae mecanweithiau ariannu Cymru Greadigol yn gweithio, mae swyddogion y Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth arbennig i'r broses yma. Mi fyddwn ni yn ymgeisio—ac mae hwn yn ymrwymiad—mi fyddwn ni yn ymgeisio yn galed i symleiddio'r broses i fusnesau ym maes diwydiant creadigol, yn ogystal â chael y gorau o wariant Cymru, a'r buddiannau a ddaw o hynny i economi a chwmnïau o Gymru. [Torri ar draws.] Ie.