– Senedd Cymru am 3:53 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Bethan Sayed.
Diolch yn fawr iawn. I gychwyn, hoffwn ddiolch i holl arweinwyr y diwydiant a gyfrannodd at yr ymchwiliad penodol hwn a phawb a roddodd dystiolaeth. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Llywodraeth am eu hymateb i'r adroddiad a gynhyrchwyd gennym ar y diwydiant ffilm a theledu. Roedd y pwyllgor yn ffodus i weld y dalent ddiweddaraf ym Mhrifysgol De Cymru pan lansiwyd ein hadroddiad, a chawsom ddefnyddio'r sgriniau gwyrdd yno i fod yn greadigol ein hunain, felly gwnaethom fwynhau hynny. Roedd yn wych gweld nifer y cynyrchiadau proffil uchel a'r amrywiaeth o swyddi y mae'r myfyrwyr yn rhan ohonynt. Felly, llongyfarchiadau i'r myfyrwyr yno.
Yn amlwg, mae rheswm da i ddathlu llwyddiant y diwydiant ffilm yn y wlad hon. Dros y degawd diwethaf, mae'r twf wedi bod yn fwy na'r twf ledled y DU, ac mae stiwdios yma yn gyfrifol am lwyddiannau rhyngwladol fel Doctor Who, His Dark Materials a Hinterland. Ond mae'n rhaid i ni symud yn gynt ac ymateb yn gyflymach i ofynion y diwydiant mewn ffordd fwy ystwyth, ac ni chredaf fod hynny'n digwydd hyd eithaf ein gallu ar hyn o bryd yma yng Nghymru.
Felly, mae'r adroddiad hwn yn mynd i'r afael â phob agwedd ar y diwydiant, o ariannu, hyfforddi, cynhyrchu a hyrwyddo. Ond hoffwn ganolbwyntio ar ariannu ac ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gefnogaeth i’r sector, a gwn y bydd Aelodau eraill yn siarad am elfennau eraill o'r adroddiad.
Cyllideb buddsoddi yn y cyfryngau—dŷn ni'n falch o weld y ffigurau ar y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau o’r diwedd. Deallaf nad yw rhai o’r prosiectau wedi cyrraedd eu potensial masnachol llawn eto, ond ar ôl aros mor hir am y wybodaeth hon, mae’n siomedig gweld bod gwir berfformiad y gronfa mor wahanol i’r rhagamcanion cychwynnol. O’r saith project a reolir gan Lywodraeth Cymru, dim ond un sydd wedi adennill unrhyw arian. Am gyfanswm o fwy na £5.1 miliwn o fuddsoddiad, dim ond elw o £75,000 sydd i’w ddangos, ac nid yw hwn yn ddigonol.
Mae’r darlun yn edrych ychydig yn well os edrychwn ni ar y projectau a reolwyd yn flaenorol gan Pinewood, ond mae’n dal i ddangos bod llai na hanner y bron i £10 miliwn a fuddsoddwyd wedi’i adennill. Nid yw’n fater o ddifaru bod yr elw mor fach ar ôl cymaint o amser. Mae’n sioc gweld bod y colledion mor fawr, a hoffwn ddeall barn benodol y Gweinidog, yn y man, am realiti'r sefyllfa yma.
Roedd y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau i fod yn gronfa fuddsoddi, gan gynhyrchu elw a fyddai’n cael ei ailfuddsoddi mewn cynyrchiadau eraill, ond y nod arall oedd gwarantu gwariant gan gynyrchiadau mawr yng Nghymru. Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi mai’r bwriad o sefydlu cronfa gwerth £30 miliwn oedd cynhyrchu £90 miliwn o bunnoedd o wariant yng Nghymru. Ond, ers 2014, dim ond hanner y gyllideb sydd wedi’i wario, ac fe gynhyrchodd ychydig dros £25 miliwn o wariant yng Nghymru.
Felly, hoffwn i'r Dirprwy Weinidog nodi pam mai 15 y cant yn unig o'r gwariant Cymreig a ragwelir a gynhyrchwyd gan y gyllideb fuddsoddi, a beth y mae'n ei wneud i newid y sefyllfa hon. Wedi'r cyfan, mae'r gyllideb hon wedi bodoli ers pum mlynedd. Credaf fod rhywbeth mawr wedi mynd o'i le. Naill ai fod yr amcangyfrifon cychwynnol yn ofnadwy o obeithiol, neu mae perfformiad y prosiectau wedi bod yn eithriadol o wael. O gofio bod panel y sector diwydiannau creadigol wedi mynegi pryderon am y gyllideb yn gyntaf ym mis Awst 2016, mae digon o amser wedi bod i ddysgu o'r camgymeriadau ac i unioni pethau.
Mae'r problemau gyda 'chytundeb cydweithredu' Pinewood wedi cael llawer o sylw gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. A oes unrhyw beth wedi newid o ganlyniad i'r adroddiadau hyn?
O ran Cymru Greadigol, bob tro dwi'n siarad am Gymru Greadigol yn y sector, mae pobl yn tynnu gwynt rhywfaint, yn aros am ryw fath o fanylion pellach. Yn ystod twf y diwydiant ffilmiau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sawl menter i hybu’r sector. Ond, roedd rhanddeiliaid yn teimlo nad oedd ffocws i’r mentrau hyn. Dywedodd Screen Alliance Wales wrthym fod prosiectau wedi’u hariannu ar hap yn seiliedig ar broffil y cwmni, ond heb edrych ar etifeddiaeth gynaliadwy, hirdymor i Gymru. Pryd bynnag y mae’r pwyllgor wedi gofyn am fwy o ffocws, dywedwyd wrthym mai corff sydd eto i’w sefydlu, sef Cymru Greadigol, fyddai’n rhoi’r arweinyddiaeth hon.
Ers iddo gael ei gyhoeddi’n gyntaf yn 2016, rydym ni'n dal i aros am fanylion am Gymru Greadigol. Dywedwyd wrthym ym mis Chwefror y byddai’r Gweinidog yn cyhoeddi manylion am ffurf, swyddogaeth, aelodau’r bwrdd a ffafriwyd a threfniadau llywodraethu Cymru Greadigol ym mis Ebrill eleni. Nid yw’r datganiad a ryddhawyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r materion hyn. Mae’n llawn ymadroddion sydd â bwriadau fel,
'Mae partneriaethau a chydweithio yn allweddol i unrhyw gyflawni llwyddiannus', ac y bydd Cymru Greadigol yn cofleidio synergeddau rhwng yr economi a diwylliant Cymru. Ond dyw e ddim yn datblygu'r ateb am sut bydd hynny yn digwydd, ac mae'r sector yn gofyn sut maen nhw'n gallu ymwneud a sut maen nhw'n gallu rhoi ceisiadau gerbron Cymru Greadigol, iddyn nhw allu buddio o'r hyn dŷch chi fel Llywodraeth eisiau gwneud.
Felly, mae hi bellach yn fis Gorffennaf ac rydym yn dal i aros am y manylion, fel yr addawyd. Dywed ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, a dyfynnaf,
'Ar hyn o bryd, rydym yn penderfynu ar strwythur llywodraethu Cymru Greadigol’.
Beth yw'r oedi, oherwydd mae’r sector yn aros ac yn aros? Cafwyd digon o ymgynghori. Dywedir wrthym fod y
'tîm wedi ymgysylltu â… 120 o gwmnïau, cyrff cyhoeddus, sefydliadau o'r trydydd sector ac undebau’.
I ba ddiben? Beth yw canlyniad yr ymgynghoriad hwn? Ac mae angen atebion arnom yn awr. Pwy sy'n arwain Cymru Greadigol? Beth yw'r strwythurau llywodraethu? Beth yw'r cylch gorchwyl? I bwy maent yn atebol? A sut y caiff llwyddiant ei fesur? Mae'r diffyg gwybodaeth yn arbennig o rwystredig gan fod y Llywodraeth wedi dewis derbyn rhai o'n hargymhellion ar strategaeth ac amodau ariannu Cymru Greadigol yn y dyfodol. Ond sut y gallwn asesu a fydd ein hargymhellion yn cael eu cyflawni heb y manylion a addawyd inni ers mis Chwefror? Mae'r diffyg penderfyniadau yn golygu nad yw pobl yn gallu deall sut i wneud cais na’n gwybod ble i gael gafael ar arian. Mae'r rhain yn sgyrsiau go iawn rwy’n eu cael gyda phobl yn y diwydiant ar sail wythnosol, os nad yn ddyddiol.
Mae'r diwydiant hefyd yn teimlo'r rhwystredigaeth y mae'r pwyllgor yn ei theimlo ynglŷn â'r prinder manylion mewn ymateb i'n hadroddiad. Er bod enghreifftiau unigol o lwyddiant, fel y bartneriaeth a gynlluniwyd gyda NBC International, mae perygl gwirioneddol y bydd momentwm yn cael ei golli. Mae angen i'r rheini sy’n awyddus i fuddsoddi yng Nghymru wybod beth fydd yn dod yn lle’r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau a sut y gallant fanteisio ar y gronfa honno. Rwyf wedi bod yn gofyn cwestiynau am gyllid a llywodraethu ers i'r Dirprwy Weinidog ddod i'n pwyllgor ym mis Gorffennaf y llynedd. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai ateb ein cwestiynau heddiw.
Rwyf am gloi gyda hynny. Gwn y byddai aelodau eraill y pwyllgor yn awyddus i gyfrannu at y ddadl, ac edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ymateb y Dirprwy Weinidog. Cawsom amryw o argymhellion ar nifer o wahanol faterion—o sicrhau bod gennym gwotâu ar gyfer talent ar y sgrin, a oedd yn un o'n syniadau; roeddem am sicrhau bod y cynlluniau prentisiaeth yn gliriach; ac roeddem am ddeall pa gefnogaeth briodol y gellid ei rhoi i wyliau ffilm. Rydym yn gyfeillgar yn hynny o beth. Rydym am weld beth sy'n digwydd yma yng Nghymru, ond rydym am sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn awr fel y gallwn wireddu'r potensial sydd gan Gymru i'w gynnig yn y diwydiant ffilm yma yng Nghymru.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon, er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan roedd yr adroddiad yn cael ei lunio. Rwyf wedi bod yn falch iawn o ddilyn y gwaith wrth iddo gael ei gyhoeddi a'i lansio wedyn, fel y nododd y Cadeirydd. Credaf ei fod wedi bod yn faes gwaith pwysig iawn, ac mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol iawn y gallwn wella’r diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu mawr yng Nghymru.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod wedi fy nghalonogi’n fawr gan ymateb Llywodraeth Cymru wrth iddynt dderbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor, er fy mod yn nodi rhwystredigaeth y Cadeirydd fod rhywfaint o'r derbyniad hwnnw'n ddibynnol ar weithrediad Cymru Greadigol pan gaiff ei sefydlu.
Credaf ei bod yn iawn nodi'r twf yn y sector hwn ers 2007—cyflymach na'r twf yng ngweddill y DU. Unwaith eto, cyfeiriwyd at hyn eisoes. Ond mae llawer i’w wneud o hyd. Credaf fod Cymru, fel cenedl, yn gwneud yn dda iawn o gymharu ag unrhyw ranbarth yn Lloegr y tu allan i Lundain a'r de-ddwyrain, a Manceinion, o bosibl. Ond rydym yn dal i fod ymhell o unrhyw gyfran a oedd yn gysylltiedig â'r boblogaeth, o ran faint o werth ychwanegol gros rydym yn ei gynhyrchu drwy'r diwydiant ffilm a theledu. Mae'n debyg y gallem ei gynyddu ddwy neu dair gwaith, a dim ond cyrraedd rhyw fath o gyfrifiad bras wedyn o'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl yn ôl poblogaeth. Felly, er ein bod yn cael cryn lwyddiant ac yn un o'r prif ardaloedd ar gyfer cynhyrchu—mae ein diwydiannau creadigol wedi perfformio'n eithriadol o dda dros y 10 mlynedd diwethaf, ac rwy'n siŵr ei fod yn sector a fydd yn parhau i dyfu—ni ddylem gyfyngu ar ein huchelgais. Dylem ymestyn ein disgwyliadau ar gyfer y sector hwn.
Credaf fod angen buddsoddi'n benodol mewn prosiectau iaith Gymraeg a phrosiectau iaith Gymraeg y gellir eu cynhyrchu'n ddwyieithog hefyd. Nid oes amheuaeth ynghylch y potensial a welsom yn weddol ddiweddar o ran cyfresi fel Hinterland, sy'n normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg yn llwyr, yn ogystal â chynhyrchu fersiwn Gymraeg ac un sy’n Saesneg yn bennaf, ond gyda defnydd o'r Gymraeg. Rwy'n siŵr fod hyn wedi gwneud llawer o les i bobl ledled y Deyrnas Unedig wybod ei bod yn gyffredin clywed y Gymraeg os ydych yn gyrru o gwmpas Ceredigion. Credaf fod hynny’n—. Cododd fy nghalon wrth weld hynny.
Credaf hefyd y dylem gofio bod hyn yn marchnata Cymru i weddill y byd. Cymru yw rhan ddiwylliannol fwyaf unigryw ynysoedd Prydain gan fod gennym ddiwylliant nad yw'n ddiwylliant Saesneg, yn ogystal â diwylliant Cymraeg-Saesneg hefyd wrth gwrs, a diwylliant Prydeinig. Mae'r holl draddodiadau godidog hyn yn cymysgu ac yn hynod greadigol, a cheir cryn awydd i rannu hyn, yn fyd-eang o bosibl, a dyna pam y credaf fod angen buddsoddi'n glyfar mewn cynhyrchu ffilmiau yng Nghymru. Yn amlwg, yn achlysurol yn unig y cewch lwyddiant sy'n cyrraedd seremonïau gwobrwyo'r Oscars neu beth bynnag, ond ar y cyfan, ar y lefel honno, credaf fod y math hwnnw o ragoriaeth greadigol yn cael effaith ar y sector cyffredinol hefyd, a chredaf y gallem ei alinio â'r strategaeth 'Cymraeg 2050'—unwaith eto, normaleiddio'r Gymraeg a phortreadu ein gwlad fel un wirioneddol ddwyieithog. Felly, credaf fod angen edrych ar hynny, a'r cyllid. Dyma'r un maes lle mae gennym gyfrifoldeb gwirioneddol dros hyrwyddo’r agwedd honno ar y gwareiddiad Celtaidd sy'n parhau i ffynnu yng ngorllewin Ewrop. Credaf fod angen i fwy o bobl weld ein drama yn hynny o beth.
Nodaf fod angen cryfhau'r strategaeth sgiliau. Rydym yn gwneud yn eithaf da, fel y gwelsom pan aethom i adeilad yr Atrium ym Mhrifysgol Morgannwg, ond mae angen gwella sgiliau o hyd, yn enwedig o ran allbwn iaith Gymraeg.
Credaf hefyd y gallai'r Llywodraeth wneud ychydig yn fwy o ran cydgysylltu gwyliau ffilm a sicrhau bod eu gwerth yn cael ei hyrwyddo’n ehangach. Gwn fod gwahaniaeth barn i raddau ynghylch y ffordd orau o wneud hynny, ond credaf y gallai ymagwedd fwy canolog a chydgysylltiedig fod yn werthfawr.
A gaf fi gloi gyda phle ei bod hi'n bryd i Cymru Greadigol gamu ymlaen? Fe’i rhagwelwyd yn 2016, sef pan gafwyd y refferendwm ar Brexit, ac os awn ymlaen fel hyn efallai y cawn Brexit cyn i ni gael Cymru Greadigol. Buaswn yn hapus iawn i weld Cymru Greadigol 10 gwaith. Ni wnaf grybwyll fy agwedd tuag at ddyfodiad Brexit, pan ddaw.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad. Cefais y pleser o wasanaethu ar y pwyllgor yn ystod peth o'r ymchwiliad a hoffwn ddiolch i'r clercod a phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr iawn i ni.
Mae'r sector ffilm a theledu yn rhan hanfodol o'n heconomi ac mae gan Gymru draddodiad hir o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel a bod yn gefndir i rai o ffilmiau mwyaf poblogaidd y byd. Y sector diwydiannau creadigol yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae cwmnïau fel Netflix, HBO ac Amazon yn treulio cymaint o amser ar gynhyrchu teledu ag y mae rhai o stiwdios Hollywood yn ei dreulio ar ffilmiau.
Nid yw dyfodol y sector yn golygu denu Hollywood i ddod i dde Cymru; mae'n ymwneud â datblygu talent ein hunain yng Nghymru, megis Bad Wolf. Mae'r hyn y mae Julie Gardner a Jane Tranter wedi'i wneud yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae Cymru ar flaen y gad yn cynhyrchu rhaglenni teledu, ac os ydym am fanteisio ar y sector sy'n tyfu, mae angen i ni fabwysiadu'r ymagwedd iawn, gan ddysgu gwersi o fethiannau yn y gorffennol. Mae'n hanfodol ein bod yn cofleidio'r newidiadau yn sector y diwydiannau creadigol sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf; mae'n hanfodol ein bod yn symud oddi wrth yr hen batrymau; mae'n hanfodol ein bod yn meithrin ein pobl dalentog ein hunain yng Nghymru yn hytrach na brwydro i ddenu Hollywood i Gymru. Gallwn gystadlu gyda'r gweddill drwy fod y gorau. Mae angen y buddsoddiad arnom, dyna i gyd. Mae angen i ni hysbysebu ein talentau Cymreig.
Felly, rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor—argymhellion a fydd yn ein helpu i osgoi gwneud camgymeriadau'r gorffennol, osgoi helynt arall fel Valleywood, a ffiasgo arall fel Pinewood. Yr her yn awr yw sicrhau ein bod yn dal i fyny â'r farchnad sy'n newid. Wrth i stiwdios traddodiadol geisio cystadlu â chwmnïau fel Netflix ac Amazon, rydym yn gweld ffrwydrad o wasanaethau tanysgrifio i ffrydio. Mae hyd yn oed y BBC yn dechrau gwneud hyn. Y perygl gyda llu o wasanaethau sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yw gostyngiad yn y galw gan ddefnyddwyr. Felly mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw'r rhuthr traddodiadol ymhlith y stiwdios i ail-greu’r rhwydweithiau teledu cebl yn yr Unol Daleithiau ar gyfer cenhedlaeth sy'n ymbellhau oddi wrth teledu traddodiadol yn niweidio'r farchnad gyfan. Rhaid i ni sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn parhau i gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer pob platfform, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan ein diwydiannau cynhenid fantais gystadleuol drwy gynnig economi treth isel wedi'i chefnogi gan seilwaith digidol a ffisegol uwch-dechnolegol.
Mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ragori yn y sector diwydiannau creadigol. Rydym yn ddigon bach i fod yn ystwyth ac yn ddigon mawr i allu cynnig darpariaeth o faint. Mae bellach yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth, yma ac yn Llundain, sicrhau bod gennym yr amodau cywir i gefnogi'r diwydiannau creadigol ac i roi'r sgiliau angenrheidiol i genedlaethau'r dyfodol. Ac efallai na fyddwn yn gallu cystadlu â Netflix, ond gallwn sicrhau bod eu rhaglenni'n llawn o gynnwys a grëwyd neu a gynhyrchwyd yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd gweithredol, a diolch i'r pwyllgor am ei weithgaredd ac i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma heddiw. Mae’r adroddiad yma yn cynnig nifer o argymhellion adeiladol ac ystyriol sut y gallwn ni gefnogi'r diwydiannau creadigol yn well fel Llywodraeth, ac yn enwedig cynyrchiadau teledu a ffilm ym mhen uchaf y farchnad. A dyna pam ein bod ni, yn yr adroddiad, wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor yr 14 o argymhellion sydd wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru allan o’r 17. Mae yna un argymhelliad wedi'i gyfeirio at S4C, a dwi’n sicr y byddan nhw’n yn ymateb i hwnnw. Mae yna ddau argymhelliad wedi’u gwrthod oedd yn ymwneud yn benodol â gwyliau ffilm, gan fod yna drefniadau eisoes gan y Llywodraeth yn y maes yna.
O ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiannau creadigol, a’r gweithgaredd sydd wedi cael ei sbarduno gan y cwmnïau sy’n weithredol yng Nghymru, dyma, fel y clywsom ni yn y ddadl yma, un o’n sectorau economaidd sydd wedi tyfu gyflymaf, gyda throsiant blynyddol o dros £2 biliwn, 58,000 o bobl yn cael eu cyflogi—50 y cant yn fwy na 10 mlynedd yn ôl. Mae Caerdydd bellach yn cael ei chydnabod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer dramâu a ffilmiau, ac mae Cymru wedi dod yn lle cystadleuol a dibynadwy i ddiwydiannau ac yn ddewis amgen i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.
Mae ein cefnogaeth ni fel Llywodraeth wedi bod yn allweddol o ran denu cynyrchiadau o'r ansawdd uchaf o'r tu fas i Gymru, ac wedi cyfrannu at yr economi leol drwy wario cyllidebau yn lleol. Diolch i’r help ariannol ac ymarferol gan y Llywodraeth, mae gwariant y sector teledu a ffilm yng Nghymru wedi cynyddu o fwy na £35 miliwn yn 2016-17 i £55 miliwn yn 2018-19.
Rydym ni wedi rhoi help ariannol i dros 20 o brojectau cynhyrchu cynhenid, sydd, yn ogystal â bod yn hanfodol i dwf cynaliadwy'r sector yng Nghymru, wedi cyfrannu'n anferthol hefyd at hyrwyddo'r Gymraeg—fel y clywsom ni yn y ddadl yma gan David Melding—drwy bedwar ban byd dros y blynyddoedd diwethaf. Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru, law yn llaw ag S4C, wedi cefnogi 15 o gynyrchiadau Cymraeg, gan gynnig mwy na £2.4 miliwn o gyllid cysylltiedig. Ac fe glywsom ni’n barod am y cynyrchiadau rhyngwladol gan S4C, megis Un Bore Mercher, Y Gwyll a Bang, sydd wedi cael eu gwerthu ledled y byd.
Yn awr, dwi am ddod at Gymru Greadigol. Mi fydd Cymru Greadigol yn gyfrifol am ddatblygu a llunio strategaeth i gefnogi a chynnal twf y diwydiant sgrin yng Nghymru, yn ogystal â sectorau eraill, yn arbennig cerddoriaeth, yn y diwydiannau creadigol. Yn unol ag argymhelliad 1, a dderbyniwyd gennym ni, mi fydd Cymru Greadigol yn parhau i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ardderchog ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu, ond mi fydd hefyd yn edrych ar sut mae modd datblygu sgiliau a'r gadwyn gyflenwi hyd yn oed yn well nag y maen nhw ar hyn o bryd, er mwyn rhoi i'n busnesau creadigol y galluoedd i greu, a fydd yn hybu eiddo deallusol a pherchnogaeth ddeallusol yn economi Cymru.
Mi fydd Cymru Greadigol yn datblygu strategaeth sgiliau a fydd yn ateb y gofyn yn y farchnad. Mi fydd yna ddarpariaeth hyfforddi amserol ac ymatebol drwy ddarparwyr arbenigol, yn ogystal â sicrhau bod talentau'n cael eu meithrin drwy weithio mewn partneriaeth â'r cyrff a'r sefydliadau perthnasol a gydag arbenigwyr y diwydiant.
O ran argymhelliad 12, mi fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n glos gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, yn arbennig gyda'r Is-adran Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, i gynnal ein hagenda sgiliau ac i ystyried yn fanwl sut y gall y diwydiant sgrin fanteisio'n llawn ar gynlluniau prentisiaeth Llywodraeth Cymru.
Fel y nodir yn argymhelliad 2, mae nifer o sesiynau wedi'u cynnal ledled Cymru i ofyn i'r diwydiant am ei farn ynghylch sut y gall Cymru Greadigol ddiwallu anghenion y diwydiant orau. Mae cyfraniadau ein cwmnïau cynhenid ni wedi bod yn hanfodol i'n helpu ni i ddeall sut i wella'n cefnogaeth i'r diwydiant a datblygu sector creadigol o'r ansawdd gorau yng Nghymru.
Wrth fanylu ar y modd y mae mecanweithiau ariannu Cymru Greadigol yn gweithio, mae swyddogion y Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth arbennig i'r broses yma. Mi fyddwn ni yn ymgeisio—ac mae hwn yn ymrwymiad—mi fyddwn ni yn ymgeisio yn galed i symleiddio'r broses i fusnesau ym maes diwydiant creadigol, yn ogystal â chael y gorau o wariant Cymru, a'r buddiannau a ddaw o hynny i economi a chwmnïau o Gymru. [Torri ar draws.] Ie.
Allwch chi jest esbonio i ni pryd fydd Cymru Greadigol felly yn weithredol? Dyna sydd yn dod ataf i—bod lot o bobl yn y sector ddim yn siŵr pryd fydd e'n cychwyn ei waith. A yw e wedi cychwyn y gwaith? Os felly, sut byddwch chi'n hybu hynny?
Mae'r broses o greu corff hyd braich o fewn Llywodraeth Cymru yn un rydym ni'n gorfod ei wneud yn ofalus. Fe wnes i hynny gyda Cadw, ac rydym ni'n dilyn yr un broses wrth sefydlu Cymru Greadigol. Fe fydd yna, felly, hysbyseb—dwi ddim am roi dyddiad, ond mi fydd yna hysbyseb am swydd cyfarwyddwr i Cymru Greadigol ar y lefel uchaf briodol o fewn Llywodraeth Cymru. Unwaith y mae'r cyfarwyddwr—a fydd yn swyddog profiadol, rydym ni'n hyderus, yn y maes yma—yn cael ei phenodi neu ei benodi, drwy'r broses caffael a hysbysu allanol arferol, mi fydd yna symud wedyn i benodi cadeirydd. Ac yna, unwaith y mae'r cadeirydd wedi'i benodi, mi fydd yna alwad am aelodau o'r bwrdd. Felly, dwi'n hyderus y bydd y broses o gwblhau sefydlu Cymru Greadigol wedi'i chwblhau tua'r un amser ag y bydd Brexit yn digwydd. Ac os nad ydy hynny'n ddigon clir—medraf i ddim rhoi rhagor o fanylion dyddiadau, oherwydd mae unrhyw broses o recriwtio yn dibynnu ar yr ymateb y byddwn ni'n ei gael.
Os caf i ddod yn ôl at argymhelliad 10: mi fydd Cymru Greadigol yn rhoi mwy o bwyslais ar arddangos talentau Cymru, ac mi fyddwn ni'n ystyried gofyn i gynyrchiadau drama mawr i gynnal clyweliadau lleol fel amod ariannu. Mae'n ymddangos i mi yn beth rhyfeddol iawn fod pobl yn gorfod mynd i Lundain am glyweliadau pan maen nhw wedyn yn gweithio yng Nghymru.
Fel yr awgrymwyd yn argymhelliad 11, rydym ni'n ymchwilio hefyd i sut y gall cwmnïau sy'n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru ddefnyddio mwy o dalentau Cymru ar y sgrin. Ac er bod llawer o waith sylweddol wedi cael ei wneud i hyrwyddo a chydnabod y Gymraeg fel iaith ryngwladol drwy gynyrchiadau o Gymru, mae'n rhaid inni ganolbwyntio hefyd ar wneud yn fawr o'r llwyddiannau hynny. Ac yn unol ag argymhelliad 7, mi fydd yna ymdrechion i hyrwyddo'r Gymraeg a fydd yn cyd-fynd â strategaeth Cymraeg 2050, a bydd hynny yn amod o'n strategaeth ar gyfer ariannu Cymru Greadigol yn y dyfodol.
O safbwynt cydnabyddiaeth ryngwladol, fel y dywed argymhelliad 15, rydym ni'n cydweithio i ddatblygu Cymru yn ganolfan ryngwladol o ragoriaeth, ac y mae gwaith sylweddol cwmnïau fel Fox, NBCUniversal, Netflix a HBO yn dewis Cymru ar gyfer eu cynyrchiadau yn profi bod y strategaeth yma yn gweithio.
Mae Llywodraeth Cymru, felly, yn achub ar bob cyfle i hyrwyddo diwydiannau sgrin Cymru a'r doniau creadigol sydd i’w cael yma yn yr holl wyliau ffilm a theledu mawr rhyngwladol. Mae hynny'n cynnwys Gŵyl Ffilmiau Cannes, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Berlin, Marchnad Ffilmiau America, MIPCOM, MIPTV, Realscreen, a Gŵyl Ffilmiau Animeiddio Ryngwladol Annecy. Mae hefyd yn sicrhau bod yna gyfleoedd i ddoniau creadigol Cymru fanteisio ar gymorth i fynd i'r gwyliau yma—mae'r broses yna i gyd mewn lle—ac i ymuno â'r holl deithiau masnach rhyngwladol, trwy'r gefnogaeth yr ydym ni ein hunain yn ei rhoi, fel Llywodraeth, ac mae'r cymorth yna'n cael ei roddi gan yr Adran Fasnach Ryngwladol.
Fodd bynnag, mae yna wastad gyfle i gael mwy o fri rhyngwladol, a dwi'n sicr y bydd Cymru Greadigol, a fydd yn cael ei sefydlu, fel y dywedais i, yn yr amseriad yr argymhellais i ac a awgrymais i heddiw, yn arwain at farchnata rhyngwladol o ddiwydiannau creadigol Cymru drwy frand Cymru Greadigol. Dyna ydy'r bwriad. Dwi'n awyddus iawn i ddangos nad yr un peth yw Creative England a Creative Scotland â Chymru Greadigol. Dwi am i'r sefydliad, y corff, gael ei weld fel corff sydd yn rhan o Lywodraeth Cymru ond sydd yn rhan sydd yn gallu gweithredu yn annibynnol ac yn fasnachol.
Yn unol ag argymhelliad 17, rydym ni wedi darparu'r ffigurau gwariant ac elw diweddaraf, fel y clywsoch chi. A dwi'n falch bod y ffigurau wedi cael eu croesawu hyd yn oed er bod sylwadau beirniadol, fel y buaswn i'n disgwyl, wedi cael eu gwneud arnyn nhw. Mi fyddwn ni yn parhau i gyhoeddi'r ffigurau yma, ac mae'n dda gen i ddweud bod y ganolfan yng Ngwynllyw—yng Ngwynllŵg, mae'n ddrwg gen i, nid Gwynllyw—yng Ngwynllŵg yn wir bellach yn gwneud elw.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog ddirwyn ei sylwadau i ben, os gwelwch yn dda?
Gwnaf, credaf fod hynny'n lle da i ddirwyn fy sylwadau i ben, drwy ddathlu llwyddiant masnachol mewn man lle mynnodd rhai Aelodau na allai fyth ddigwydd.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar Bethan i ymateb i'r ddadl? Bethan.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i'r Aelodau Cynulliad hynny a oedd wedi meddwl bod y ddadl yma'n ddigon pwysig i gyfrannu ati. Yn sicr, mae e'n bwysig iawn i'r economi yma yng Nghymru, ond yn sicr yn bwysig iawn i'r sector creadigol.
David Melding, diolch am eich cyfraniadau mewn perthynas â'r prosiectau iaith Gymraeg. Credaf ei bod yn hollbwysig, er nad yw'r Gweinidogion yn yr ystafell ar hyn o bryd, ein bod yn ceisio cysylltu hyn â Cymraeg 2050, a sut y gallwn sicrhau bod y cyfleoedd iaith Gymraeg yn cael eu cynyddu. Rwy'n derbyn bod S4C wedi dweud wrthym yn eu briff ar gyfer y ddadl heddiw eu bod yn gweithio ar ffilmiau amrywiol, ond nid ydym wedi gweld hynny'n ymddangos ar y sgrin ers cryn amser. Felly, rwy'n deall bod ganddynt berthynas â'r sector annibynnol a'u bod yn ddibynnol ar gydgynhyrchu i ryw raddau, ond mae angen i ni weld agwedd ychydig yn fwy rhagweithiol, yn fy marn i, gan fod S4C ar eu hôl hi tra bo eraill ar eu hennill. Ond credaf fod pwynt Caroline Jones mewn perthynas â'r gwasanaethau ffrydio yn rhywbeth y mae S4C yn elwa ohono. Rydym yn gweld y rhaglenni Cymraeg, fel Hinterland, yn dod yn llwyddiannus ar y gwasanaethau ffrydio hynny, lle mae gwylio ffilmiau tramor neu Nordic noir, er enghraifft, yn arferol, ac mae pobl yn teimlo bod hynny'n rhywbeth y gallant ymgysylltu ag ef, ac mae ei wylio yn y Gymraeg yr un mor arferol â phe baent yn ei wylio mewn Daneg neu Norwyeg.
Credaf i chi wneud pwynt da mewn perthynas â'r farchnad—sut rydym yn marchnata Cymru i'r byd. Credaf fod hynny'n dal i fod yn her o ran sut rydym yn gwneud Cymru’n unigryw. Oes, mae gennym yr iaith, ond mae'n rhaid i ni werthu cyfleoedd mewn perthynas â'r lleoedd y gall pobl ddod i ffilmio yma yng Nghymru, boed yn fynyddoedd neu lan y môr—yr hyn y mae'n well dod yma i’w wneud yng Nghymru nag yn yr Alban. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae arnaf ofn ein bod ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU a rhannau eraill o'r byd, lle mae cwmnïau rhyngwladol yn gweld y byddent yn dymuno dod yma, ond nid yw prosesau'n digwydd mor gyflym ag y byddem yn dymuno ac felly maent yn symud eu gweithrediadau i wledydd eraill. Felly, rwy’n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd cyhoeddiad ynghylch Cymru Greadigol ar yr un pryd â Brexit. Ac eto, gallai’r pyst symud ar gyfer Brexit, ac mae’r pyst wedi symud ar gyfer Cymru Greadigol sawl gwaith hefyd. Felly, gobeithio na fydd hynny’n digwydd ac y byddwn yn edrych ymlaen at lansio Cymru Greadigol maes o law.
Ni chrybwyllais yn fy araith yr hyn a nodwyd gennym yn ein hadroddiad, sef gofyn am gronfa a allai ehangu’n gyflym. Gwelsom fod gennych geisiadau Ffilm Cymru, a oedd yn gyfleoedd ffilmio ar raddfa fach, ac yna roedd gennych y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau ac yna, yn y canol, roedd pobl yn colli cyfle ac yn methu gwneud cais am ddim o'r cyllid am nad oeddent yn cyrraedd lefelau’r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, ond eu bod o bosibl, yn rhy fawr i Ffilm Cymru. Felly, byddaf yn awyddus i glywed mwy eto yn y dyfodol gan nad dyma ddiwedd y stori o ran sut y gellir hyrwyddo'r cyfleoedd ar y lefel ganol honno ar gyfer cwmnïau cynhenid o Gymru sydd am dyfu ac ymsefydlu yma yng Nghymru. Credaf fod hynny'n hollbwysig.
Unwaith eto, gan gyfeirio'n gyflym at y gwasanaethau ffrydio, nodaf fod Netflix newydd ddweud y byddant wedi’u lleoli yn Llundain, a chredaf fod hynny'n rhywbeth na ddylem droi ein cefnau arno a dylem geisio gweithio mwy ag ef mewn perthynas â’r hyn y gallent ei fuddsoddi yn y dyfodol yma yng Nghymru. Nid yw'r ffaith eu bod wedi'u lleoli yn Llundain yn golygu na allant ddod i siarad â ni yma yng Nghymru am y cyfleoedd ffilmio. Nid oes a wnelo hyn â Netflix yn unig, mae llawer o wasanaethau ffrydio eraill y gallwn eu defnyddio, ond maent wedi penderfynu ymsefydlu yma ac mae hynny'n rhywbeth na ddylem droi ein trwynau arno.
Credaf ei bod yn bwysig iawn sôn am y problemau mewn perthynas â'r hyn a ddywedodd Equity am gyfleoedd i gael clyweliadau yng Nghymru. Mae hon wedi bod yn broblem ers cryn dipyn o amser. Mae gennyf ffrindiau sy’n actorion sydd wedi bod ar y trên gyda'i gilydd i geisio am ran sy'n cael ei ffilmio yng Nghymru ond maent yn mynd i Lundain i gael y clyweliadau hynny. Mae'n hollol hurt. Ac mae hynny'n rhywbeth rwy’n falch fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd yn edrych arno.
I gloi, credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw sut rydym yn edrych ar y potensial sgiliau. Gwnaethom gydnabod bod y sgiliau'n datblygu, ac nid ydym am danseilio unrhyw beth sy'n digwydd yn ein prifysgolion neu yn rhai o'r cwmnïau cynhyrchu, ond yr hyn a glywsom pan lansiwyd yr adroddiad hwn gennym oedd bod ôl-gynhyrchu yn rhywbeth y mae taer angen buddsoddi ynddo yma yng Nghymru. Felly, er nad yw ein hadroddiad yn crybwyll ôl-gynhyrchu yn benodol mewn du a gwyn, rydym am sicrhau’r diwydiant fod hynny'n rhywbeth yr hoffem edrych arno. Clywsom fod llawer o fenywod a oedd wedi cymryd absenoldeb mamolaeth a fyddai wedi gallu cyflawni rhai o'r rolau hynny ar eu colled pan fyddent yn dychwelyd i'r system gan nad oeddent yn cael eu huwchsgilio’n briodol i gyflawni'r rôl honno, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom fod yn ymwybodol ohono.
Credaf hefyd y dylem siarad am argymhelliad 5, sy'n cyfeirio at
‘ymchwilio i weld os oes modd mynnu fod cynyrchiadau sy'n derbyn cyllid yn llunio cytundebau cyd-gynhyrchu â chwmnïau yng Nghymru’.
Ac y dylid:
‘gwario o leiaf 35% o'r gyllideb gynhyrchu 'islaw'r llinell' ar gyflenwyr, cast, criw a chyfleusterau lleol'.
Roeddem am ychwanegu'r holl elfennau gwahanol hynny gan y clywsom dystiolaeth yn rhai o'r digwyddiadau rhwydweithio a gawsom fod rhai o'r corfforaethau rhyngwladol hyn yn dod â chriwiau a gwasanaethau arlwyo yma o rannau eraill o'r DU, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym am iddo ddigwydd pan fo gennym y cyfoeth hwnnw o dalent yn y diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru, yn ogystal â chyflenwyr lleol a all ddod yn rhan o'r llwybr caffael.
Felly, nid dyma ddiwedd y broses, ond rwy'n ddiolchgar fod pawb wedi dangos diddordeb cadarnhaol yn yr adroddiad hwn.
Gobeithio y bydd pobl yn gallu ymwneud yn fwy gyda’r hyn dŷn ni’n gwneud fel pwyllgor yn y byd ffilm, a sylweddoli ei bod yn bwysig ein bod ni nid yn unig yn tyfu talent o Gymru yma yng Nghymru, ond ein bod ni’n sicrhau bod y byd rhyngwladol yn gweld Cymru fel lle i ddod i ffilmio, ac yn ei gweld fel rhywle positif i weithio ynddi. Mae angen i brosesau symud yn glouach, dwi’n credu, er mwyn hybu hynny, a hybu’r posibiliadau fod Cymru yn gallu cael ei gweld fel rhywle gwych i ffilmio. Gyda’r prydferthwch sydd o’n cwmpas ni yn ein hardaloedd lleol, pam ddim dod i Gymru i ffilmio? Mae e’n rhywbeth i ni i gyd ddathlu, ac mae’n rhywbeth i ni i gyd fod yn lladmeryddion ar ei gyfer pan dŷn ni’n cwrdd â phobl ar y stryd, neu phan dŷn ni’n cwrdd â busnesau yn ein hardaloedd lleol hefyd. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.