Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad. Cefais y pleser o wasanaethu ar y pwyllgor yn ystod peth o'r ymchwiliad a hoffwn ddiolch i'r clercod a phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr iawn i ni.
Mae'r sector ffilm a theledu yn rhan hanfodol o'n heconomi ac mae gan Gymru draddodiad hir o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel a bod yn gefndir i rai o ffilmiau mwyaf poblogaidd y byd. Y sector diwydiannau creadigol yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae cwmnïau fel Netflix, HBO ac Amazon yn treulio cymaint o amser ar gynhyrchu teledu ag y mae rhai o stiwdios Hollywood yn ei dreulio ar ffilmiau.
Nid yw dyfodol y sector yn golygu denu Hollywood i ddod i dde Cymru; mae'n ymwneud â datblygu talent ein hunain yng Nghymru, megis Bad Wolf. Mae'r hyn y mae Julie Gardner a Jane Tranter wedi'i wneud yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae Cymru ar flaen y gad yn cynhyrchu rhaglenni teledu, ac os ydym am fanteisio ar y sector sy'n tyfu, mae angen i ni fabwysiadu'r ymagwedd iawn, gan ddysgu gwersi o fethiannau yn y gorffennol. Mae'n hanfodol ein bod yn cofleidio'r newidiadau yn sector y diwydiannau creadigol sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf; mae'n hanfodol ein bod yn symud oddi wrth yr hen batrymau; mae'n hanfodol ein bod yn meithrin ein pobl dalentog ein hunain yng Nghymru yn hytrach na brwydro i ddenu Hollywood i Gymru. Gallwn gystadlu gyda'r gweddill drwy fod y gorau. Mae angen y buddsoddiad arnom, dyna i gyd. Mae angen i ni hysbysebu ein talentau Cymreig.
Felly, rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor—argymhellion a fydd yn ein helpu i osgoi gwneud camgymeriadau'r gorffennol, osgoi helynt arall fel Valleywood, a ffiasgo arall fel Pinewood. Yr her yn awr yw sicrhau ein bod yn dal i fyny â'r farchnad sy'n newid. Wrth i stiwdios traddodiadol geisio cystadlu â chwmnïau fel Netflix ac Amazon, rydym yn gweld ffrwydrad o wasanaethau tanysgrifio i ffrydio. Mae hyd yn oed y BBC yn dechrau gwneud hyn. Y perygl gyda llu o wasanaethau sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yw gostyngiad yn y galw gan ddefnyddwyr. Felly mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw'r rhuthr traddodiadol ymhlith y stiwdios i ail-greu’r rhwydweithiau teledu cebl yn yr Unol Daleithiau ar gyfer cenhedlaeth sy'n ymbellhau oddi wrth teledu traddodiadol yn niweidio'r farchnad gyfan. Rhaid i ni sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn parhau i gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer pob platfform, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan ein diwydiannau cynhenid fantais gystadleuol drwy gynnig economi treth isel wedi'i chefnogi gan seilwaith digidol a ffisegol uwch-dechnolegol.
Mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ragori yn y sector diwydiannau creadigol. Rydym yn ddigon bach i fod yn ystwyth ac yn ddigon mawr i allu cynnig darpariaeth o faint. Mae bellach yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth, yma ac yn Llundain, sicrhau bod gennym yr amodau cywir i gefnogi'r diwydiannau creadigol ac i roi'r sgiliau angenrheidiol i genedlaethau'r dyfodol. Ac efallai na fyddwn yn gallu cystadlu â Netflix, ond gallwn sicrhau bod eu rhaglenni'n llawn o gynnwys a grëwyd neu a gynhyrchwyd yng Nghymru. Diolch yn fawr.