Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
David Melding, diolch am eich cyfraniadau mewn perthynas â'r prosiectau iaith Gymraeg. Credaf ei bod yn hollbwysig, er nad yw'r Gweinidogion yn yr ystafell ar hyn o bryd, ein bod yn ceisio cysylltu hyn â Cymraeg 2050, a sut y gallwn sicrhau bod y cyfleoedd iaith Gymraeg yn cael eu cynyddu. Rwy'n derbyn bod S4C wedi dweud wrthym yn eu briff ar gyfer y ddadl heddiw eu bod yn gweithio ar ffilmiau amrywiol, ond nid ydym wedi gweld hynny'n ymddangos ar y sgrin ers cryn amser. Felly, rwy'n deall bod ganddynt berthynas â'r sector annibynnol a'u bod yn ddibynnol ar gydgynhyrchu i ryw raddau, ond mae angen i ni weld agwedd ychydig yn fwy rhagweithiol, yn fy marn i, gan fod S4C ar eu hôl hi tra bo eraill ar eu hennill. Ond credaf fod pwynt Caroline Jones mewn perthynas â'r gwasanaethau ffrydio yn rhywbeth y mae S4C yn elwa ohono. Rydym yn gweld y rhaglenni Cymraeg, fel Hinterland, yn dod yn llwyddiannus ar y gwasanaethau ffrydio hynny, lle mae gwylio ffilmiau tramor neu Nordic noir, er enghraifft, yn arferol, ac mae pobl yn teimlo bod hynny'n rhywbeth y gallant ymgysylltu ag ef, ac mae ei wylio yn y Gymraeg yr un mor arferol â phe baent yn ei wylio mewn Daneg neu Norwyeg.
Credaf i chi wneud pwynt da mewn perthynas â'r farchnad—sut rydym yn marchnata Cymru i'r byd. Credaf fod hynny'n dal i fod yn her o ran sut rydym yn gwneud Cymru’n unigryw. Oes, mae gennym yr iaith, ond mae'n rhaid i ni werthu cyfleoedd mewn perthynas â'r lleoedd y gall pobl ddod i ffilmio yma yng Nghymru, boed yn fynyddoedd neu lan y môr—yr hyn y mae'n well dod yma i’w wneud yng Nghymru nag yn yr Alban. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae arnaf ofn ein bod ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU a rhannau eraill o'r byd, lle mae cwmnïau rhyngwladol yn gweld y byddent yn dymuno dod yma, ond nid yw prosesau'n digwydd mor gyflym ag y byddem yn dymuno ac felly maent yn symud eu gweithrediadau i wledydd eraill. Felly, rwy’n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd cyhoeddiad ynghylch Cymru Greadigol ar yr un pryd â Brexit. Ac eto, gallai’r pyst symud ar gyfer Brexit, ac mae’r pyst wedi symud ar gyfer Cymru Greadigol sawl gwaith hefyd. Felly, gobeithio na fydd hynny’n digwydd ac y byddwn yn edrych ymlaen at lansio Cymru Greadigol maes o law.
Ni chrybwyllais yn fy araith yr hyn a nodwyd gennym yn ein hadroddiad, sef gofyn am gronfa a allai ehangu’n gyflym. Gwelsom fod gennych geisiadau Ffilm Cymru, a oedd yn gyfleoedd ffilmio ar raddfa fach, ac yna roedd gennych y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau ac yna, yn y canol, roedd pobl yn colli cyfle ac yn methu gwneud cais am ddim o'r cyllid am nad oeddent yn cyrraedd lefelau’r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, ond eu bod o bosibl, yn rhy fawr i Ffilm Cymru. Felly, byddaf yn awyddus i glywed mwy eto yn y dyfodol gan nad dyma ddiwedd y stori o ran sut y gellir hyrwyddo'r cyfleoedd ar y lefel ganol honno ar gyfer cwmnïau cynhenid o Gymru sydd am dyfu ac ymsefydlu yma yng Nghymru. Credaf fod hynny'n hollbwysig.
Unwaith eto, gan gyfeirio'n gyflym at y gwasanaethau ffrydio, nodaf fod Netflix newydd ddweud y byddant wedi’u lleoli yn Llundain, a chredaf fod hynny'n rhywbeth na ddylem droi ein cefnau arno a dylem geisio gweithio mwy ag ef mewn perthynas â’r hyn y gallent ei fuddsoddi yn y dyfodol yma yng Nghymru. Nid yw'r ffaith eu bod wedi'u lleoli yn Llundain yn golygu na allant ddod i siarad â ni yma yng Nghymru am y cyfleoedd ffilmio. Nid oes a wnelo hyn â Netflix yn unig, mae llawer o wasanaethau ffrydio eraill y gallwn eu defnyddio, ond maent wedi penderfynu ymsefydlu yma ac mae hynny'n rhywbeth na ddylem droi ein trwynau arno.
Credaf ei bod yn bwysig iawn sôn am y problemau mewn perthynas â'r hyn a ddywedodd Equity am gyfleoedd i gael clyweliadau yng Nghymru. Mae hon wedi bod yn broblem ers cryn dipyn o amser. Mae gennyf ffrindiau sy’n actorion sydd wedi bod ar y trên gyda'i gilydd i geisio am ran sy'n cael ei ffilmio yng Nghymru ond maent yn mynd i Lundain i gael y clyweliadau hynny. Mae'n hollol hurt. Ac mae hynny'n rhywbeth rwy’n falch fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd yn edrych arno.
I gloi, credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw sut rydym yn edrych ar y potensial sgiliau. Gwnaethom gydnabod bod y sgiliau'n datblygu, ac nid ydym am danseilio unrhyw beth sy'n digwydd yn ein prifysgolion neu yn rhai o'r cwmnïau cynhyrchu, ond yr hyn a glywsom pan lansiwyd yr adroddiad hwn gennym oedd bod ôl-gynhyrchu yn rhywbeth y mae taer angen buddsoddi ynddo yma yng Nghymru. Felly, er nad yw ein hadroddiad yn crybwyll ôl-gynhyrchu yn benodol mewn du a gwyn, rydym am sicrhau’r diwydiant fod hynny'n rhywbeth yr hoffem edrych arno. Clywsom fod llawer o fenywod a oedd wedi cymryd absenoldeb mamolaeth a fyddai wedi gallu cyflawni rhai o'r rolau hynny ar eu colled pan fyddent yn dychwelyd i'r system gan nad oeddent yn cael eu huwchsgilio’n briodol i gyflawni'r rôl honno, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom fod yn ymwybodol ohono.
Credaf hefyd y dylem siarad am argymhelliad 5, sy'n cyfeirio at
‘ymchwilio i weld os oes modd mynnu fod cynyrchiadau sy'n derbyn cyllid yn llunio cytundebau cyd-gynhyrchu â chwmnïau yng Nghymru’.
Ac y dylid:
‘gwario o leiaf 35% o'r gyllideb gynhyrchu 'islaw'r llinell' ar gyflenwyr, cast, criw a chyfleusterau lleol'.
Roeddem am ychwanegu'r holl elfennau gwahanol hynny gan y clywsom dystiolaeth yn rhai o'r digwyddiadau rhwydweithio a gawsom fod rhai o'r corfforaethau rhyngwladol hyn yn dod â chriwiau a gwasanaethau arlwyo yma o rannau eraill o'r DU, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym am iddo ddigwydd pan fo gennym y cyfoeth hwnnw o dalent yn y diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru, yn ogystal â chyflenwyr lleol a all ddod yn rhan o'r llwybr caffael.
Felly, nid dyma ddiwedd y broses, ond rwy'n ddiolchgar fod pawb wedi dangos diddordeb cadarnhaol yn yr adroddiad hwn.