Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Allaf innau hefyd groesawu geiriau agoriadol y Llywydd a'i llongyfarch ar ei huchelgais efo'r Bil yma, ac yn naturiol yn cytuno efo egwyddorion cyffredinol Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)? Wedi'r cwbl, mae hyn yn deillio o gyhoeddiad yn Chwefror 2017 ar sefydlu panel arbenigol i ddarparu cyngor gwleidyddol diduedd—dyna oedd y geiriad—ar nifer yr Aelodau Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau Cymru. Yn y Bil yma dŷn ni'n gweld newid enw'r sefydliad—mwy am hynny yn y man—gostwng yr oedran isaf i bleidleisio, a materion eraill fel diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud ag anghymhwyso. Ond dim rhagor o sôn am gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad na newid y system etholiadau. Mae’r elfennau yma yn destun dadl Plaid Cymru sydd yn dilyn y ddadl yma'n syth, a chaiff Aelodau gyfle i bleidleisio ar y ddwy elfen yma, sef cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad a newid y system bleidleisio, yn nes ymlaen.
Mae'n bwysig nodi, fel y mae Cadeirydd y pwyllgor materion cyfansoddiadol eisoes wedi'i nodi, pwysigrwydd yr achlysur yma. Dyma gam cyntaf gweithredu ar y cynigion angenrheidiol i greu Senedd sy'n ffit i bwrpas yma yng Nghymru ac y mae pobl Cymru yn haeddiannol ohoni. Ac mae Plaid Cymru yn hollol gefnogol i hynny.
O ran y prif ddarpariaethau, mi wnaf i ddechrau efo gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Wrth gwrs, mae gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau'r Senedd yn rhywbeth rydym ni'n ei groesawu'n frwd fel plaid. Rai wythnosau'n ôl, fe gawsom ni'r fraint o gynnal dadl ar y cyd yma yn y Siambr rhwng Aelodau'r Senedd yma ac Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Edrychwn ymlaen, felly, a rhown ein cefnogaeth frwd felly i'r ddarpariaeth yn y Bil ar gyfer sicrhau y gall holl bobl ifanc Cymru ddylanwadu ar y Senedd yma.
Yn nhermau enw'r Senedd, mae'r blaid yma o'r farn y dylai'r enw 'Senedd' gael ei arddel fel enw swyddogol y sefydliad yn y ddwy iaith, gan fod y Gymraeg, fel y Senedd yma ei hun, yn perthyn i holl bobl Cymru ac yn cynrychioli'r holl ddinasyddion. Wrth gwrs, mae enghreifftiau fel Dáil, Knesset a Duma yn dod o brofiad rhyngwladol, ac wrth gwrs yn cyfoethogi ein profiad ninnau. Mae yna ddefnydd helaeth o'r enw 'Senedd' yn barod yma dros y misoedd diwethaf. Mae pobl yn sylfaenol yn gwybod beth yw Senedd. Dwi'n credu ei bod hi braidd yn ddilornus ac yn sarhad i awgrymu bod pobl Cymru, hynny yw, y sawl sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg, ryw ffordd ddim yn gallu deall beth yw Senedd. Dwi yn credu bod hynny'n gallu bod yn sarhad ar y sawl sydd ddim yn naturiol yn siarad Cymraeg.
Mae'n bwysig nodi bod y ddarpariaeth yn y Bil yn pwysleisio felly mai 'Members of the Senedd' y bydd enwau Aelodau’r Senedd yn y ddwy iaith, ac mai'r 'Senedd Comission' fydd yr enw swyddogol ar y Comisiwn yn y ddwy iaith. O ran y bwriad i gyflwyno'r descriptor 'Welsh Parliament', fe allaf i weld yr achos dros gael strapline yn y Saesneg yn esbonio swyddogaeth y Senedd, ond mae yna drafodaeth i'w chael yn ystod Cyfnod 2, wrth inni graffu'n fanylach, ynghylch ai'r ddarpariaeth fel ag y mae yn y Bil ar hyn o bryd yw'r ffordd orau o gyflawni'r nod hwnnw. Mae cynnig amgen y Llywodraeth yn awgrym diddorol o ran sut i gyflawni hyn.
Felly, dwi'n falch bod y ddadl hon yn gosod y tir yn berffaith ar gyfer dadl Plaid Cymru, nawr yn y man, ar fwrw ymlaen gyda'r gwaith diwygio i allu trawsnewid ein Senedd a'n gwleidyddiaeth yma yng Nghymru. Pleidleisiwch o blaid y cynnig. Diolch yn fawr.