7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:11, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy ddweud pa mor gyffrous ydw i i gael y sgwrs hon a'r ddadl hon yn y lle hwn y prynhawn yma? Ddirprwy Lywydd, credaf fod yna adegau, a dywedaf hyn gyda'r parch mwyaf at bawb sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, pan all gormes y broses seneddol sugno'r bywyd allan o unrhyw uchelgais a'r weledigaeth fwyaf argyhoeddiadol. I lawer ohonom, mae a wnelo hyn â chyflawni ymgyrch canrif o hyd am ymreolaeth a sefydlu seneddau ar ynysoedd Prydain. Keir Hardie, pan etholwyd ef gyntaf i gynrychioli Merthyr Tudful ac Aberdâr—nid yw Vikki yma, ond fe gaiff glywed os anghofiaf hynny—pan etholwyd ef gyntaf, cafodd ei ethol ar lwyfan ymreolaeth, ac rwy'n gobeithio y gallwn oll, neu'r rhan fwyaf ohonom o leiaf, uno o amgylch yr uchelgais hwnnw.

Credaf fod datganoli yn air hyll ofnadwy; mae'n ymwneud â phroses a dim byd am gyrchfan. I mi, rwy'n gobeithio y bydd y bobl rwy'n eu cynrychioli'n rhannu fy ngweledigaeth ynghylch Senedd ymreolaethol yma yng Nghymru. Fel y dywedodd Donald Dewar, mae hunanlywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig, yn cyflawni dros bobl Cymru, yn cyflawni dros y bobl a'n hetholodd ni yma, gan ganolbwyntio nid yn unig ar y sefydliad ond ar yr hyn yr ydym yma i'w wneud ac yma i'w gyflawni. Cytunaf â phopeth a ddywedodd David Melding ar yr holl faterion eraill. Roeddwn yn meddwl ei bod hi'n araith a estynnodd ein gweledigaethau yma y prynhawn yma. Buaswn yn cymeradwyo'r holl argymhellion a wnaeth. Nid af ar ôl y ddadl honno am y rheswm hwnnw.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: rydym yn dioddef mewn sawl ffordd heddiw oherwydd diffyg paratoi yn ystod y 1990au ar gyfer creu Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Digwyddodd y paratoadau hynny yn yr Alban wrth gwrs ac mae eu taith wedi bod yn fwy esmwyth o lawer o ganlyniad i hynny rwy'n credu. Ond ers hynny rydym wedi cael llu o gomisiynau a phwyllgorau'n edrych ar amrywiol agweddau ar weithrediad llywodraethu datganoledig yng Nghymru. Ac rydym wedi methu—wedi methu'n llwyr—â nodi'r holl bobl hynny a'r holl waith hwnnw. Rhaid i'r methiant hwnnw ddod i ben heddiw a rhaid iddo ddod i ben yn awr. Mae arnom angen y dewrder gwleidyddol a'r weledigaeth ar ôl 1999 i gyflawni'r hyn y ceisiwn ei gyflawni.  

I mi, mae'r term 'Parliament' yn bwysig, ac rwy'n derbyn fy mod wedi newid fy safbwynt ar hyn. Fe'm perswadiwyd gan Ddirprwy Weinidog yr economi, sydd wedi fy mherswadio ynghylch llawer o bethau yn y gorffennol, mae arnaf ofn—nid yw helynt byth yn bell i ffwrdd—fod modd adnabod y term 'Senedd', mewn ffordd debyg iawn i'r ffordd y mae Dai Lloyd wedi'i disgrifio. Fodd bynnag, rwyf wedi fy narbwyllo. Nid oes gennyf wrthwynebiad, dylwn ddweud, i ddefnyddio'r term 'Senedd' yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ond daeth yn amlwg i mi wrth i'r ddadl hon esblygu fod pobl am inni ddefnyddio'r ddwy iaith yn gyfartal, ac mae'r rhai nad yw'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt am inni ddefnyddio'r term 'Parliament' ac nid y term 'Senedd' yn unig. Nid ein sefydliad ni yw hwn. Mae'n sefydliad sy'n perthyn i'r bobl a gynrychiolwn. Mae gennym gyfrifoldeb llwyr i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli'n gyfartal gan y sefydliad hwn ac o fewn y sefydliad hwn. Ac i mi, mae hynny'n ei gwneud hi'n gwbl glir mai Senedd i Gymru yw hon, i bawb yng Nghymru; ein Senedd ni, Senedd Cymru, ond mae'n Parliament ac yn Senedd, sy'n cynrychioli pawb yn gyfartal, ac mae angen inni allu gwneud hynny a gwneud hynny yn nheitl y sefydliad hwn.  

Gwrandewais ar y sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghyfaill o Bontypridd, a darllenais yr adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar sut yr awn ati i sicrhau'r newid hwn, ac mae'n rhaid imi ddweud ei fod wedi crynhoi'r holl anawsterau gyda newid cyfansoddiadol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'n ymddangos bod dadl o ran ein gallu i wneud popeth sydd angen i ni ei wneud oherwydd deddfwriaeth 2006 ac yn y blaen. Mae angen inni allu symud yn gyflymach, yn gliriach ac yn fwy syml i wneud y newid hwn, ac mae angen inni wneud hynny ar hyd y llinellau ac o fewn yr amserlen sy'n cael ei chyflwyno gan y Llywydd.

A phan fyddwn yn creu'r Senedd hon, rydym yn galw ein hunain yn Aelodau ohoni. Rwyf wedi clywed pob math o ddadleuon gwahanol, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni symud i ffwrdd o bryfocio cae chwarae yn y ddadl hon. Mae hon yn ddadl ddifrifol, aeddfed ynglŷn â phwy ydym ni a beth ydym ni fel cenedl. Rwyf am fod yn Aelod o Senedd Cymru, sef ASC, sy'n gweddu'n dda i ddealltwriaeth a disgwyliadau pobl o'r modd y caiff pobl fel ni ein disgrifio. Mae pobl wedi arfer ag ASA, ASE ac AS, a bydd pobl yn dod i arfer ag ASC. Efallai nad ydynt ar hyn o bryd, ond mae'n amlwg bod angen inni wneud hynny.  

Mae fy amser wedi dod i ben, Ddirprwy Lywydd, ond hoffwn innau ofyn i chi fod yn oddefgar hefyd. Mae Senedd yn fwy na chasgliad o bobl ac yn fwy na phennawd llythyr, mae'n fwy na theitl. Mae angen inni gael yr Aelodau a chyfreithlondeb system etholiadol sy'n ethol yr Aelodau hynny i wneud i'r lle hwn weithio'n effeithiol ac i fod yn Senedd y mae'r bobl am ei chael. Mae'n ofid i mi fod Plaid Cymru wedi cyflwyno'u dadl a'u cynnig y prynhawn yma, sy'n ceisio rhannu yn hytrach nag uno. Gobeithio y bydd fy mhlaid yn chwarae ei rhan i sicrhau bod gennym y niferoedd yma i wneud y gwaith, wedi'u hethol yn y fath fodd fel eu bod yn darparu ar gyfer cydraddoldeb ac atebolrwydd. Nid oes gennym yr un o'r pethau hynny ar hyn o bryd, ond os ydym am greu Senedd a fydd wedi ei gwreiddio nid yn unig yn neddfwriaeth y wlad hon ond yng nghalonnau a meddyliau pobl y wlad hon, mae arnom angen dewrder gwleidyddol i fynd â'r ddadl honno allan, i wneud y newidiadau, i basio'r ddeddf, i greu'r Senedd honno. Diolch yn fawr.