Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Fe ddechreuaf gydag ymestyn yr etholfraint. O ran cymhwysedd trigolion i bleidleisio, rwy'n cydnabod bod rhai safbwyntiau cryf iawn ar y naill ochr a'r llall i'r ddadl ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16. O'm rhan i'n bersonol, mewn egwyddor, nid wyf yn gwrthwynebu'r cynnig i ostwng yr oedran pleidleisio, ond rwy'n credu ei fod yn anghyson tra bo gennym gynifer o weithgareddau sydd wedi'u gwahardd nes bod pobl ifanc yn cyrraedd 18 oed. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad fod yna nifer o bethau nad yw rhai o dan 18 oed yn llwyr ddeall goblygiadau ymgymryd â hwy ac felly maent wedi deddfu i'w diogelu. Os ydym am gadw at yr egwyddor fod rhai pethau na ddylai'r gyfraith ganiatáu i bobl ifanc eu gwneud nes eu bod yn 18 oed, sut y gallwn ni hefyd arfer yr egwyddor fod pobl 16 oed yn ddigon aeddfed i fod yn rhan o'r broses sy'n penderfynu beth y maent a beth nad ydynt yn ddigon aeddfed i gymryd rhan ynddynt? Mae'n anghyson.
Mae negeseuon anghyson hefyd yn cael eu hanfon at blant 16 i 18 oed yn awr mewn ffyrdd eraill. Ar y naill law, ceir rhestr gyfan o bethau, fel cael twll mewn rhan bersonol o'r corff, yfed alcohol ac ati, y mae'r lle hwn ac eraill wedi pennu bod pobl ifanc yn rhy anaeddfed i benderfynu drostynt eu hunain ynglŷn â'u gwneud o dan 18 oed. Ond ar y llaw arall, mae'r Bil hwn yn dweud wrthynt eu bod nhw'n ddigon aeddfed i bleidleisio i benderfynu pwy sy'n rhedeg y wlad. Hynny yw, pa un yw hi am fod?
O ran elfennau eraill y Bil, gallaf gefnogi'r egwyddor o newid enw'r Cynulliad, ond dim ond ar y sail fod yr enw newydd yn ei gwneud yn haws i bobl Cymru ddeall beth y mae'r lle hwn yn ei wneud mewn gwirionedd. Nid oedd o gymorth yn y lle cyntaf fod y Siambr etholedig yng Nghymru wedi cael ei galw'n Gynulliad, a chytunaf â'r hyn a ddywedodd Alun Davies yn gynharach am ddatganoli ac am newid enw Aelodau'r lle hwn. I bob pwrpas, cafodd Cymru Siambr etholedig a oedd yn senedd israddol, a chafodd Cymru a'r Alban eu hanfon ar lwybr esblygol honedig a olygai y byddai'n rhaid i'r ddau le frwydro dros ddatganoli llywodraethu. Nid oedd o gymorth. Fel y gwyddom i gyd, mae datganoli wedi symud ymlaen erbyn hyn. Felly, rwy'n deall ac rwy'n cefnogi'r cynnig i newid enw'r Cynulliad.
Nawr, nid oes gennyf broblem gyda'r enw 'Senedd' a nodaf hefyd fod adran 2 yn caniatáu i 'Welsh Parliament' gael ei ddefnyddio yn lle 'Senedd', gan adlewyrchu'r ffaith bod dwy iaith swyddogol yng Nghymru, ond dyna lle mae'r dwyieithrwydd yn dod i ben. Mae adrannau 3 i 8 yn ailenwi organau'r Cynulliad yn y Gymraeg yn ogystal â'i Aelodau, sy'n gwbl resymegol wrth gwrs, ond wedyn mae'r cyfieithiad Saesneg yn gymysgedd a allai fod yn gamarweiniol o'r Gymraeg a'r Saesneg, er enghraifft 'Senedd Commission' yn hytrach na 'Welsh Parliament Commission'. Defnyddir yr enw 'Senedd' ar hyn o bryd fel dewis arall yn lle 'Assembly', felly pan ychwanegir 'Welsh Parliament' i'r gymysgedd, gall ymddangos i rai pobl fod 'Welsh Parliament' yn sefydliad ychwanegol yn hytrach na dim ond enw arall. Gallai enwau newydd yr Aelodau, y Comisiwn ac ati arwain at y camddealltwriaeth hefyd fod yna Senedd a 'Welsh Parliament', ac nad yw'r enwau newydd arfaethedig a nodir yn adrannau 3 i 8 yn gwneud ein rolau ni na rolau cyrff y lle hwn yn fwy dealladwy. Ac fe allwch addysgu pobl, ond po fwyaf aneglur y byddwch yn gwneud enwau'r cyrff ac Aelodau'r sefydliad hwn, y mwyaf o arian y trethdalwyr fydd ei angen i addysgu'r boblogaeth.
Bwriad y newid enw yw adlewyrchu realiti cyflwr presennol y Cynulliad fel deddfwrfa go iawn a helpu pobl hefyd i ddeall yr hyn rydym yn ei wneud yma. Nid yw'r newid enw a gynigir yn adrannau 3 i 8 yn ei gwneud yn hawdd i'r cyhoedd ddeall beth y mae'r lle hwn a'i Aelodau yn ei wneud mewn gwirionedd, ac felly nid ydynt yn ei wneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd.
Rwy'n teimlo bod y Bil yn colli cyfle i gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â'r lle hwn ar hyn o bryd drwy beri datgysylltiad oddi wrth unrhyw un nad yw'n siarad Cymraeg neu nad yw'n deall ieithwedd y Cynulliad hwn, sef y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, gan fod ffocws anghyfartal ar yr enw 'Senedd'. Hoffwn ofyn i'r Llywydd felly pam y gwnaed y penderfyniad i ddefnyddio'r cymysgedd hwn o Gymraeg a Saesneg yn y cyfieithiad Saesneg honedig o'r enwau Cymraeg yn adrannau 3 i 8—[Torri ar draws.] Rwyf ar fy nhri gair olaf.