Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Mae'r sefydliad yma'n 20 oed eleni. Mae o'n destun balchder mawr i mi—dwi'n siarad, yn sicr, ar ran y rhan fwyaf o bobl yma yn y Siambr yma—ein bod ni'n gallu edrych yn ôl ar y digwyddiad hwnnw ychydig dros 20 mlynedd yn ôl lle gwnaethom ni benderfynu cymryd y cam cyntaf yna ar hyd llwybrau datganoli a hunanlywodraeth i Gymru, waeth pa mor nerfus oedd y cam cychwynnol hwnnw. Ond mi nodwyd yn glir iawn—a'r term wedi cael ei ddefnyddio sawl tro ers hynny—mai proses oedd yn dechrau bryd hynny. Nid un digwyddiad ynddo fo'i hun welsom ni ddiwedd y 1990au, ac mae'r broses honno wedi symud ymlaen gymaint erbyn hyn fel bod modd gofyn ydyn ni'n wir yr un sefydliad a gafodd ei sefydlu yn 1999 erbyn hyn, ac 'nac ydym' ydy'r ateb, mewn difrif.
Mi sefydlwyd y lle yma dan Ddeddf Cymru fel Cynulliad â phwerau deddfu eilradd yn unig. Mi oedd o'n gweithredu fel corff corfforaethol, a'r Cynulliad a'r Llywodraeth yn gweithio fel un. Corff gwario oedd o, prin oedd ei ddannedd, digon prin i fod angen comisiwn Richard a wnaeth arwain at ail Ddeddf Cymru yn 2006 a oedd yn gwahanu'r Llywodraeth a'r ddeddfwrfa, yn paratoi'r ffordd at refferendwm 2011, a'r refferendwm a'r bleidlais gadarnhaol iawn honno yn sefydlu math arall o Gynulliad, un llawer mwy pwerus y tro hwn, yn deddfu drosto'i hun, ac a fyddai'n datblygu maes o law, fel mae o wedi gwneud erbyn hyn, yn gorff codi trethi hefyd.
Ond beth sydd ddim wedi newid yn y cyfnod hwnnw o gwbl ydy capasiti'r Cynulliad yma i ymateb i'r gofynion ychwanegol yna sydd arnom ni ac sydd wedi datblygu wrth i'r corff esblygu. Rŵan, oherwydd gwaith y Comisiwn, yr ymchwiliad arbenigol rhagorol o dan arweiniad Laura McAllister, mae'r achos wedi cael ei wneud rŵan yn annibynnol, yn ddiduedd, dros fynd i'r afael â'r sefyllfa honno, a dwi'n falch o weld consensws yn datblygu ar hynny, ac mae yna resymau da iawn pam y dylem ni symud yn ein blaenau. Dŷn ni wedi clywed sawl rheswm yn barod.
Ein gwaith ni fel Cynulliad ydy dal Llywodraeth i gyfrif. Dŷn ni'n gwneud hynny nid er ein mwyn ein hunain, nid er mwyn ein pleidiau gwleidyddol ni, ond ar ran pobl Cymru, ac mae pobl Cymru'n haeddu gallu cael ffydd yn ein capasiti ni i gadw'r Llywodraeth i gyfrif yn effeithiol. Mae yna lawer gormod ohonom ni'n gwisgo hetiau lluosog yn y lle yma. Dwi'n siarad fel prif chwip Plaid Cymru a'n llefarydd ni ar gyllid a'r economi a thrafnidiaeth ac aelod o'r Pwyllgor Busnes ac yn y blaen. Ac nid mater o gwyno am y gwaith ydy hynny ond amheuaeth ynglŷn â fy ngallu i i wneud fy ngwaith mor effeithiol ag y gallaf i. Dwi'n ddiolchgar iawn i Jane Hutt am ein hatgoffa ni ei bod hi'n gorfod gwisgo dwy het yma heddiw yma, yn siarad mewn un rôl yn hytrach na fel Aelod o'r Llywodraeth. Ac mae o'n golygu pwysau annheg ar Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth eu hunain sydd o dan straen—a dwi'n gweld Aelod Blaenau Gwent yn nodio'n frwdfrydig dros hynny—sydd dan straen afresymol, mewn difrif, o ran y pwysau gwaith oherwydd, wrth gwrs, bod nifer sylweddol yn gorfod bod yn Weinidogion mewn Llywodraeth.
A dwi'n meddwl, efallai, mai yn y maes mwyaf diweddar i ni symud i mewn iddo fo mae angen cryfhau ein capasiti ni fwyaf, sef trethiant. Dŷn ni'n symud tuag at sefyllfa lle byddwn ni'n codi, rhwng trethiannau canolog a threthiannau lleol, £5 biliwn o'n trethi ein hunain. Mae o'n wych o beth, ond, fel dywedodd Adam Price yn gynharach, er bod gennym ni Drysorlys Cymreig, does gennym ni ddim pwyllgor Trysorlys a does yna ddim o'r capasiti i gael un.
Mae'n dda bod yna gonsensws yn datblygu ar draws pleidiau gwleidyddol, er nad unfrydedd, ein bod ni angen gwneud hyn, ond mae'n hollol iawn, wrth gwrs, i ni gydnabod nad ydy'r gefnogaeth yn unfrydol nac yn agos at fod yn unfrydol ymhlith y cyhoedd, a buaswn i ddim yn disgwyl iddo fo fod. Dŷn ni'n sôn am gynyddu nifer o wleidyddion, a gadewch i ni fod yn realistig ynglŷn â beth ydy greddfau pobl yn hynny o beth. Ond, tra'n cydnabod hynny, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ddigon dewr i arwain y drafodaeth yna ar pam ein bod ni eisiau gwneud hyn; sut mai democratiaeth well fydd y canlyniad; sut bod cryfhau ein Senedd ni yn fodd i drawsnewid a chryfhau ein gwleidyddiaeth ni, a hynny yn wyneb tystiolaeth fwyfwy clir fod yr hen drefn yn San Steffan yn torri i lawr. Gadewch i ni adeiladu yn hytrach na thorri i lawr. A rŵan ydy'r amser i gryfhau a chadarnhau—'consolidate-io'—yr hyn sydd gennym ni.
Wrth gwrs, tra bod llawer o'r sylw, yn ddealladwy, yn mynd i fod ar niferoedd, mae'n rhaid edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach o'r angen i ddiwygio trefniadau etholiadol hefyd. Mae'n bwysig cofio hynny, a byddai hynny'n wirioneddol yn cryfhau ein democratiaeth ni.
I gloi, mi wnaeth Aelod Blaenau Gwent ddweud yn gynharach ei fod o'n credu bod ein cynnig ni heddiw'n creu rhaniadau yn hytrach nag annog cydweithio. Dwi'n gwrthod y cyhuddiad hwnnw, ac, yn wir, dwi'n edrych ymlaen at gydweithio efo Alun Davies ar greu'r Senedd newydd yma rydym ni ei hangen, y Senedd newydd mae pobl Cymru yn ei haeddu. Mae'r ddau ohonom ni'n gytûn ar hynny. Ond roedd hi'n bwysig iawn, yn hanfodol dwi'n meddwl, i wneud y pwynt yma, dwi'n meddwl: os ydy hwn yn rhywbeth sydd ei angen ar Gymru yn ddybryd yn 2026, mae pobl Cymru'n haeddu cael y newid yma rŵan, neu erbyn etholiad 2021. Pam y byddem ni'n 'commit-io' ein hunain i bum mlynedd arall diangen o Gynulliad y mae o—