Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Caiff yr adeilad lle'r ydym yn dadlau ei ddathlu'n aml oherwydd ei bensaernïaeth, ei nenfwd ceugrwm, ei furiau goleddfol. Mae cyfuchliniau'r gofod ei hun yn ein hatgoffa nid yn unig o'r egwyddorion o fod yn agored a thryloyw mewn democratiaeth, ond hefyd y llwybr cwmpasog ar adegau yr ydym wedi'i ddilyn er mwyn cyrraedd yma, gan ennill y bleidlais yn 1997 o drwch blewyn a'r gwaith sydd wedi digwydd yn yr 20 mlynedd diwethaf i ymgysylltu â'r cyhoedd, er mwyn meithrin ymddiriedaeth, a cheisio gwneud hon yn Senedd y gallwn ymfalchïo ynddi. Ond nid yw heb ei beiau.
Bûm yn Aelod yma ers pum mis, ac eisoes gallaf weld pa mor gyfyng yw ein gallu i graffu ar waith y Llywodraeth oherwydd y nifer o ddatganiadau, dadleuon, cwestiynau a phwyllgorau y mae pawb ohonom yn gweithio arnynt. Er lles ein Senedd a'n democratiaeth, mae angen i'r lle hwn allu gweithredu'n briodol a chraffu ar y broses o wneud penderfyniadau yn effeithiol. Gwnaethpwyd y pwynt eisoes y prynhawn yma fod adroddiad Silk wedi dod i'r casgliad fod deddfwriaeth dda yn talu amdani'i hun. Mae'r un peth yn wir am ddeddfwrfeydd.
Ddirprwy Lywydd, nid yw hwn yn fater a ddylai ein rhannu ar hyd llinellau pleidiol. Ni welir yr angen dybryd am fwy o gapasiti yn y lle hwn yn gliriach mewn unrhyw faes na chyda Brexit, gydag offerynnau statudol yn cael eu hysio drwodd heb fawr o amser i'w trafod, a'r baich ychwanegol yn gwaethygu'r diffyg capasiti sydd ar gael i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Nid yw hyn yn beth da i'r Llywodraeth nac i'r wrthblaid. Mae diffyg ail Siambr yma yn golygu nad oes rhwyd ddiogelwch ddeddfwriaethol i'r Cynulliad. Er mor ddiffygiol mewn rhai ffyrdd yw Tŷ'r Arglwyddi, Siambr ddiwygio yw hi, ac mae'n aml yn gwella deddfwriaeth. Nid yw'r rhwyd ddiogelwch honno'n bodoli yng Nghymru. Mae deddfwriaeth dda a all wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn dibynnu ar graffu effeithiol gan nifer fach o ACau y meinciau cefn y mae eu cyfyngiadau amser yn sylweddol. Nid yw gwneud dim yn opsiwn.
Roedd adroddiad McAllister ar ddiwygio etholiadol yn edrych ar ddewisiadau i wella gwaith craffu, gan gynnwys cynyddu'r wythnosau y byddai'r Senedd yn eistedd ac ymestyn yr wythnos waith. Daeth i'r casgliad na fyddai hyn ar ei ben ei hun yn ddigonol a bod
'y cyfyngiad difrifol o ran yr amser sydd gan 60 Aelod Cynulliad i ymgymryd ag
ystod gyflawn eu cyfrifoldebau' yn cyfyngu ar gapasiti'r Cynulliad i fod yn Senedd sydd 'wirioneddol yn gweithio i bobl Cymru.
Mae hwnnw'n gyhuddiad damniol. Fel y mae'r frawddeg honno'n dangos, mae angen i'r lle hwn weithio er mwyn pobl Cymru, ac mae angen i bobl Cymru weld eu hunain ynddo. Nid am yr adeilad yn unig y mae hynny'n wir—y waliau goleddfol hyn. Mae hefyd yn wir am y corff etholedig sy'n eistedd ynddo. Dylem adlewyrchu cyfansoddiad Cymru fodern, fywiog, a dyna pam, yn ogystal â chynyddu nifer yr Aelodau, y dylem gymryd camau i annog amrywiaeth yn ein haelodaeth. Mae'n eironig y bydd y galwadau hyn am ddiwygio a chynrychiolaeth well yn cael eu defnyddio gan rai grwpiau fel ffordd o ddyfnhau'r rhaniad rhwng gwleidyddion a'u cymunedau, i apelio at yr ymdeimlad erchyll hwn o ddrwgdybiaeth yn ein sefydliadau. Byddai'n drueni—nid yn unig i'r grwpiau hynny, ond yn drueni inni i gyd—pe bai'r ddadl honno'n ennill.
Yn hyn o beth, fel gyda chymaint o faterion ar hyn o bryd, mae'n teimlo fel pe baem ar groesffordd yn ein gwleidyddiaeth. Mae ffydd y cyhoedd yn ein sefydliadau ar bwynt isel. Weithiau, yn yr eiliadau toredig hyn, fel yr ydym yn eu profi yn awr gyda'r holl ymosodiadau ar ein gwleidyddiaeth, mae angen cryfhau sylfeini sefydliad. Fel y mae fy annwyl Leonard Cohen yn ei roi:
Mae crac ym mhopeth, dyna sut y daw'r golau i mewn.
Mae'r toriad hwn yn ein gwleidyddiaeth yn galw am adfywio democratiaeth, ailymgysylltu â'r cyhoedd drwy gynulliadau pobl, dod ynghyd, ac ie, cryfhau ein sefydliadau. Nid dinas ddisglair ar fryn yw gwleidyddiaeth. Nid yw'n amgueddfa lawn plinthau a phedestalau. Mae'n ystafell gron, gyda tho'n agor allan i'r awyr a'r cymunedau a gynrychiolwn. Mae'r lle hwn wedi dod mor bell. Dylem ymfalchïo ynddo, ac i aralleirio Gerallt Lloyd Owen, mae'n 'ddarn o dir yn dyst i stori ein cenedl'. Rydym wedi dod mor bell, ond nid ydym wedi dod mor bell â hyn er mwyn peidio â mynd ymhellach.