Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Rwyf braidd yn ddig weithiau pan glywaf bawb yn mynd yn ôl at 20 mlynedd yn ôl ac yn y blaen, oherwydd mae rhai ohonom yn mynd yn ôl at amser adroddiad Kilbrandon mewn gwirionedd ac yn cofio'r cyfraniad a arweiniodd at y refferendwm cyntaf yn 1979—refferendwm a gollasom yn sylweddol iawn, mewn ffordd ddigalon iawn. Ar y pryd rhoddwyd amryw o resymau am hynny; naill ai nad oedd yr hyn a gynigid yn ddigon, neu fod yr hyn a gynigid yn ormod. Y gwir amdani oedd nad oedd gwleidyddiaeth y cyfnod yn caniatáu i ni lwyddo gyda hynny. Ond fel sy'n wir am refferenda—a chytunaf â'r sylwadau a wnaethpwyd am annigonolrwydd refferenda—newidiodd y bobl eu meddwl, a galwyd am ail refferendwm, ac fe wnaeth yr ail refferendwm gefnogi datganoli a sefydlu'r Cynulliad hwn mewn gwirionedd. Cofiaf hefyd y dadleuon ar y pryd nad oedd yr hyn a gynigid bryd hynny'n ddigon pan ddaethom at Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, cawsom y refferendwm ac enillasom o 7,000 o bleidleisiau. Pe baem wedi bod yn fwy uchelgeisiol—ac roedd llawer ohonom ar bob ochr ac ym mhob plaid a fyddai wedi hoffi gweld mwy—mae'n ddigon posibl y byddem wedi colli'r refferendwm hwnnw yn fy marn i. Felly, rwy'n gwneud y pwynt ynglŷn â phwysigrwydd dod â'r bobl gyda chi ym mhob peth a wnawn ac unrhyw beth a newidiwn, ac osgoi'r demtasiwn, yr haerllugrwydd hudolus a geir weithiau, lle rydym yn edrych ar ein safbwynt yma yn y Siambr ac yn anghofio weithiau mai pobl Cymru sy'n berchen arni a bod yn rhaid inni ddod â phobl Cymru gyda ni.
Nawr, yr hyn sy'n glir iawn yw bod cryn dipyn o gytundeb rhyngom, mae llawer o dir cyffredin, ond mae yna feysydd amlwg sy'n ein rhannu, a dyna pam y credaf fod y cynnig hwn, fel y mae wedi'i eirio, yn amhriodol, oherwydd bydd yn rhaid cael consensws i unrhyw newid a wnawn. Nawr, mae gennyf fy safbwyntiau fy hun ynghylch y math o system yr hoffwn ei gweld: hoffwn weld 80 o Aelodau yma; hoffwn weld dau o bob etholaeth; hoffwn weld etholaeth un dyn, un ddynes fel ein bod yn sefydliadoli cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn gwirionedd; hoffwn weld system bleidlais sengl drosglwyddadwy. Ond rwy'n gwybod, yn yr un modd, fod yna hanner dwsin o wahanol safbwyntiau ynglŷn â ffurf unrhyw ddiwygiad neu gynnydd mewn gwirionedd.
Nawr, rydym yn gweithio o fewn ein pleidiau gwleidyddol ein hunain, rydym hefyd yn gweithio o fewn ein hetholaethau, ac mae gennym farn benodol ynglŷn â sut y sicrhawn newid mewn gwirionedd, felly credaf ei bod yn bwysig imi gofnodi yma fy mod yn credu mai'r safbwynt, pan fyddwn wedi trafod hyn o fewn y Blaid Lafur yn ein cynadleddau ein hunain, a fabwysiadwyd gennym o ran gwneud newid—y safbwynt polisi sydd gennym yw hwn: mae cefnogaeth gyffredinol i'r ddadl fod angen mwy o ACau ar y Cynulliad i weithredu'n effeithiol, er bod y farn ar hyn o bryd yn rhanedig ynglŷn â sut y dylid ethol ACau o dan unrhyw system ddiwygiedig. Datganiad o ffaith yw hynny, dyna i gyd, yn sicr o fewn ein plaid ni. Mae gennym ddau bwynt pwysig arall tra phwysig: ni ddylai unrhyw ddeddfwriaeth i ddiwygio maint y Cynulliad a'r system etholiadol a ddefnyddir ar gyfer ei ethol gael ei chefnogi na'i chyflwyno heb fandad cyhoeddus drwy gyfrwng ymrwymiad maniffesto; ac yna, fel y blaid a gyflwynodd ddatganoli, mae'n bwysig ein bod yn cynnal hyder pobl Cymru wrth benderfynu ar ddyfodol democratiaeth yng Nghymru. Felly, mae'n briodol fod y blaid yn cymryd amser i drafod y materion hyn ymhellach er mwyn sicrhau bod ein safbwynt yn darparu system gadarn a chynaliadwy ar gyfer y tymor hir. Nawr, efallai y bydd rhai'n anghytuno, ac yn meddwl bod hynny'n rhy ofalus neu ei bod yn ffordd anghywir o fynd ati, neu beth bynnag, ond dyma'r dull yr ydym wedi'i fabwysiadu. Ac os ydym yn dymuno sicrhau newid, drwy gonsensws yn unig y gellid gwneud hynny. Dyna realiti'r sefyllfa. Mae consensws yn y lle hwn yn golygu bod yn rhaid cael mwyafrif o ddwy ran o dair, felly y ffordd bwysig o fynd ati mewn gwirionedd yw cydnabod y realiti, cydnabod y gwahanol ymagweddau a dechrau'r ddadl honno mewn gwirionedd, yn hytrach na datrysiad sydd i bob pwrpas yn ceisio gwthio penderfyniad polisi drwodd erbyn 2021 nad oes posibl ei gyflawni o fewn y Cynulliad ar hyn o bryd yn fy marn i.