Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 16 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:43, 16 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Dim un ohonyn nhw yw'r ateb. Dim un ohonyn nhw. A dweud y gwir, eich Llywodraeth eich hun a ymatebodd i gais rhyddid gwybodaeth ddoe. Nid oes yr un o'r 32 o brosiectau hynny wedi defnyddio cyfrifon banc prosiectau mewn gwirionedd, er gwaethaf yr hyn yr ydych chi wedi ei addo. Mae hynny'n llawer o resymau cryf, mae'n rhaid.

Mae methu â chyflawni ymrwymiadau o'r fath yn golygu nid yn unig niweidio eich enw da chi, Prif Weinidog, neu enw da eich Llywodraeth, ond mae'n erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ei hun. Nawr, yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur ym mis Ebrill, dywedasoch, byddwn yn rhoi terfyn ar yr arfer diraddiol o droi pobl allan heb fai i'r bobl hynny sy'n byw yn y sector rhentu preifat, ac eto, yr wythnos diwethaf, lansiodd eich Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ymgynghoriad ar ymestyn y cyfnod rhybudd ar droi pobl allan heb fai o ddau fis i chwech. Ai dyna'r hyn yr oeddech chi'n ei olygu pan ddywedasoch y byddech chi'n rhoi terfyn ar droi pobl allan heb fai?