1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar 6 Rhagfyr 2017, gwnaethoch ddatganiad ysgrifenedig ar gyfrifon banc prosiectau, a gynlluniwyd i atal isgontractwyr llai rhag colli arian pan fydd cwmnïau mwy yn mynd i'r wal. Fe ddywedasoch,
'O 1 Ionawr 2018 bydd yn ofynnol i gyfrifon banc prosiectau gael ei ddefnyddio, oni bai bod rheswm cryf dros beidio â gwneud hynny, ar yr holl gontractau adeiladu a seilwaith sy'n cael eu hariannu'n gonfensiynol, a chontractau gwasanaeth sy'n cael eu hariannu yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru gyda gwerth o £2m neu'n uwch ac sy'n cael eu cyflenwi gan Lywodraeth Cymru.'
Ers 1 Ionawr 2018, ariannwyd 32 o brosiectau adeiladu gwerth dros £2 filiwn yn llawn neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Faint o'r rheini sydd wedi defnyddio cyfrifon banc prosiectau fel y gwnaethoch chi ei addo'n bersonol?
Wel, byddwn yn disgwyl i bob un ohonyn nhw ddefnyddio cyfrifon banc prosiectau ar y telerau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dim un ohonyn nhw yw'r ateb. Dim un ohonyn nhw. A dweud y gwir, eich Llywodraeth eich hun a ymatebodd i gais rhyddid gwybodaeth ddoe. Nid oes yr un o'r 32 o brosiectau hynny wedi defnyddio cyfrifon banc prosiectau mewn gwirionedd, er gwaethaf yr hyn yr ydych chi wedi ei addo. Mae hynny'n llawer o resymau cryf, mae'n rhaid.
Mae methu â chyflawni ymrwymiadau o'r fath yn golygu nid yn unig niweidio eich enw da chi, Prif Weinidog, neu enw da eich Llywodraeth, ond mae'n erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ei hun. Nawr, yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur ym mis Ebrill, dywedasoch, byddwn yn rhoi terfyn ar yr arfer diraddiol o droi pobl allan heb fai i'r bobl hynny sy'n byw yn y sector rhentu preifat, ac eto, yr wythnos diwethaf, lansiodd eich Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ymgynghoriad ar ymestyn y cyfnod rhybudd ar droi pobl allan heb fai o ddau fis i chwech. Ai dyna'r hyn yr oeddech chi'n ei olygu pan ddywedasoch y byddech chi'n rhoi terfyn ar droi pobl allan heb fai?
Wel, Llywydd, ar y pwynt cyntaf y mae'r Aelod yn ei wneud, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ymchwilio i'r mater hwnnw ac yna byddwn yn gwneud yn siŵr bod y ffeithiau llawn yn hysbys i Aelodau'r Cynulliad.
O ran yr ail bwynt, bydd yn gwybod ein bod ni mewn sefyllfa erbyn hyn i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a basiwyd ar lawr y Cynulliad hwn yn 2016, a bydd hynny'n caniatáu i ni weithredu adran 173 y Ddeddf honno, gan ddileu troi pobl allan heb fai adran 21. Bydd yr ymgynghoriad a lansiwyd yr wythnos diwethaf yn rhan o'n cynllun gweithredu. Bydd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth o ran troi pobl allan heb fai yma yng Nghymru a byddwn yn monitro'n ofalus iawn gweithrediad y gyfraith newydd y byddwn ni'n ei chyflwyno i weld ei bod yn gwneud popeth yr ydym ni eisiau iddi ei wneud. Os oes camau pellach y mae angen i ni eu cymryd y tu hwnt i'r gyfraith a basiwyd yn y Cynulliad hwn dim ond tair blynedd yn ôl, yna, wrth gwrs, byddwn yn ystyried hynny, ond ni ddylai neb esgus nad yw'r camau yr ydym ni bellach wedi ymrwymo i'w cymryd yn gwneud cam sylweddol iawn ymlaen yn ein penderfyniad na ddylai troi pobl allan heb fai fod yn rhan o'r dirwedd rhentu preifat yma yng Nghymru.
Nid dyna yr ydych chi'n ei wneud. Hynny yw, cyflwynodd eich Gweinidog tai araith yn Shelter, lle dywedodd nad ydych chi'n rhoi terfyn arnyn nhw'n llwyr ac nad oeddech chi eisiau i'r perffaith fod yn ddiwedd ar y da. Pam na wnaethoch chi ddweud hynny yn eich cynhadledd?
Nawr, yr addewid mwyaf, mae'n debyg, yr ydym ni'n ei wneud fel cynrychiolwyr cyhoeddus yw peidio â gwastraffu arian cyhoeddus. Mae eich Llywodraeth chi wedi gwario £9 miliwn ar drac rasio a £123 miliwn ar ffordd na fydd byth yn cael ei hadeiladu, ond efallai mai'r achos mwyaf rhyfedd o afradlonedd yw'r un yn ymwneud â ffotograff o Dylan Thomas. Saith mlynedd yn ôl, cysylltodd perchennog yr hawlfraint â Croeso Cymru, a oedd yn defnyddio'r llun i hyrwyddo canmlwyddiant geni'r bardd, gan ofyn iddo gael ei dynnu i lawr. Ddiwrnod yn ddiweddarach, dywedwyd wrtho bod y llun wedi cael ei ddileu ac na fyddai'n cael ei ddefnyddio eto. Serch hynny, aeth Croeso Cymru ymlaen i ddefnyddio'r llun ar-lein ac mewn print, ac o ganlyniad, cymerodd perchennog yr hawlfraint gamau cyfreithiol am dorri hawlfraint. Hyd yn hyn, rydych chi wedi gwario dros £800,000 ar achosion cyfreithiol yn y DU a ledled y byd, gan gynnwys dros £1,600 yn hedfan dau o'ch prif swyddogion twristiaeth i wrandawiad yn yr Iseldiroedd. Bydd y Bil yn cyrraedd £1 filiwn cyn bo hir, wrth i chi barhau i apelio yn erbyn y dyfarniadau yn eich erbyn. Bydd hyn bron cymaint â'r hyn a wariwyd bum mlynedd yn ôl ar holl ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Sut gallwch chi gyfiawnhau'r gwastraff hwn o arian, amser ac egni eich swyddogion, neu ai'r gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth Cymru ddim byd gwell i'w wneud?
Wel, Llywydd, nid oes gan yr Aelod unrhyw syniad o gwbl o'r cymhlethdodau sydd y tu ôl i'r achos hwn. Mae'n gafael mewn pennawd ac yn gwneud honiad ar lawr y Cynulliad, na fyddai yn ei wneud, pe byddai wedi trafferthu i feistroli manylion yr hyn sydd y tu ôl i'r achos hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gorfod amddiffyn gweithredoedd mewn llysoedd ar draws y byd gan unigolyn sy'n benderfynol o fynd ar drywydd nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond dinasyddion unigol Cymru yn y ffordd fwyaf annifyr, yn fy marn i. Ni fyddwn yn caniatáu i hynny ddigwydd. Rwyf i'n gresynu at y costau, wrth gwrs fy mod i, ond rydym ni'n amddiffyn egwyddor wirioneddol bwysig ac rydym ni'n amddiffyn dinasyddion Cymru yn y fan yma hefyd. Pe byddai wedi deall manylion yr achos, ni fyddai wedi dweud yr hyn y mae wedi ei ddweud yn y fan yma y prynhawn yma.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn cyntaf heddiw, gyda'ch goddefgarwch, Llywydd, hoffwn innau hefyd anfon fy nghydymdeimlad at deulu Rod Richards. Mae ei gyfeillion a'i deulu wedi sôn am ei ffraethineb cyflym, ei garedigrwydd a'i gariad, ac mae ei gydweithwyr wedi parhau i edmygu ei sgiliau fel gwleidydd, ac roedd ei angerdd at wleidyddiaeth a'r hyn yr oedd yn credu ynddo yn eglur i bawb ei weld. Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i deulu ar yr adeg anodd iawn hon.
Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod eich Llywodraeth yn agored ac yn dryloyw?
Llywydd, cyn i mi ateb y cwestiwn yna, a gaf i gydnabod yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud am Rod Richards, a dweud fy mod innau'n falch o fod wedi cael y cyfle dros y penwythnos i fynegi fy nghydymdeimlad ag aelodau o'i deulu hefyd?
A, Llywydd, wrth gwrs, nod y Llywodraeth hon yw cynnal y safonau uchaf o ran bod yn agored ac yn dryloyw ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud.
Prif Weinidog, mewn trafodaeth flaenorol yn y Siambr hon, dywedasoch bod gwybodaeth ar gael dim ond oherwydd bod eich Llywodraeth yn ei chyhoeddi, er hynny, yn ystod yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid gorfodi dau adroddiad allan o'ch Llywodraeth—yr adroddiad ar kukd.com a'r ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol ynghylch diswyddo Carl Sargeant. Mae'r ddau adroddiad hyn yn eithriadol o ddifrifol, ac eto, mae llawer o bobl yn cwestiynu lefel y craffu y gallan nhw ei chael, gan fod diffyg manylion yn y ddau. Mae'n warthus mai prin 350 o eiriau o hyd oedd yr adroddiad ar ddiswyddo Carl Sargeant, a arweiniodd at ei farwolaeth. Dyma'r achos byrraf o wyngalchu mewn hanes, Prif Weinidog. Nawr, yn yr adroddiad hwnnw, defnyddiodd y prif swyddog diogelwch eiriau allweddol i chwilio blychau post a adferwyd y rhai a oedd yn gwybod ymlaen llaw am yr ad-drefnu. Beth oedd y geiriau allweddol hynny a sut gallwn ni fod yn ffyddiog eu bod wedi dod o hyd i'r negeseuon e-bost cywir? Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud, yn dilyn holiadur, pan oedd angen, y dilynwyd hyn gan gyfweliad neu gyfweliadau. A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, faint o bobl a gyfwelwyd, ac a gyfwelwyd yr holl staff a oedd â gwybodaeth ymlaen llaw ar sail un i un? Daw'r adroddiad i'r casgliad bod pob datgeliad gan Lywodraeth Cymru yn ddatgeliad awdurdodedig. A allwch chi ddweud wrthym ni pwy wnaeth awdurdodi'r datgeliadau hynny?
Llywydd, i ateb cwestiwn cyntaf yr Aelod, rhoddais sicrwydd ar lawr y Cynulliad hwn y byddem ni'n cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, ac mae'r adroddiad hwnnw ar gael i graffu arno erbyn hyn. O ran adroddiad yr ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol, nid fy lle i yw gwybod yr atebion i'r cwestiynau y mae'r Aelod wedi eu gofyn. Nid oedd hwn yn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Weinidogion, fe'i cynhaliwyd yn y modd y bwriedir i adroddiadau ar ymchwiliadau i ddatgeliadau answyddogol gael eu cynnal, ac mae Swyddfa'r Cabinet wedi cymeradwyo'r modd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw. Nid fy lle i yw ymyrryd mewn unrhyw ffordd o gwbl yn y ffordd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw. Nid fy lle i yw gwybod pwy, ble, pryd, pam a beth; byddai hynny'n ymyrryd ag annibyniaeth y broses ymchwilio.
Ar lawr y Cynulliad hwn, cyn y Pasg, gwnaed ceisiadau i mi gyhoeddi'r adroddiad ar yr ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol. Meddyliais yn ofalus iawn am y ceisiadau hynny, oherwydd nid yw adroddiadau ar ymchwiliadau i ddatgeliad, yn ôl confensiwn, byth yn cael eu cyhoeddi. Nid ydyn nhw byth yn cael eu cyhoeddi gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan, er enghraifft, ond, ar ôl rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r mater, penderfynais fod y rhain yn gyfres o amgylchiadau unigryw, ac felly roedd yn deilwng cyhoeddi'r adroddiad. Yn fwriadol iawn, Llywydd, ni ddarllenais yr adroddiad ar yr ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol cyn iddo gael ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, gan nad oeddwn i eisiau i'm penderfyniad ynghylch cyhoeddi fod yn ddim i'w wneud â'i gynnwys. Y cwbl yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd gwneud y penderfyniad ar sail rhinweddau'r ddadl bod budd cyhoeddus i'w gyhoeddi. Mae'r adroddiad hwnnw wedi ei gyhoeddi erbyn hyn, yn y modd yr addewais, ac nid oes gen i unrhyw beth arall i'w ychwanegu ato.
Mae'r ail adroddiad, os gellir ei alw'n hynny, ar kukd.com yn hwy na'r ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol, yn syfrdanol, gan gyrraedd ychydig dros 500 o eiriau, ond mae'n fwy o linell amser o'r camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd. Nid yw'n cynnwys unrhyw fanylion, dim manylion penodol am yr honiadau sydd wedi dod i law a dim gwybodaeth am y gwahanol ymchwiliadau a gynhaliwyd yn fewnol. Prif Weinidog, rwy'n pryderu ei bod hi wedi cymryd bron i 18 mis i'r heddlu gadarnhau nad oedden nhw'n bwriadu mynd ar drywydd yr achos. Pa wybodaeth wnaeth y tîm archwilio mewnol ei ddarganfod a oedd yn cyfiawnhau cyfeirio'r ffeil honno at yr heddlu? Ac yn olaf, Prif Weinidog, ar 14 Mai, pan godais i y mater hwn gyda chi gyntaf, dywedasoch fod
'wrth gwrs—rydym ni wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi o'r profiadau hynny'.
O'r adroddiad hwn, Prif Weinidog, pa wersi allwch chi eu dysgu, ac a ydych chi'n credu bod yr adroddiad hwn yn cynrychioli'r lefel briodol o graffu, a faint o arian sydd wedi ei ad-dalu gan kukd.com erbyn hyn?
Wel, Llywydd, mae gweithdrefnau archwilio mewnol bob amser yn cael eu cynllunio i lunio barn ynghylch pa un a ddylai'r hyn y gallai fod wedi digwydd fod o ddiddordeb i'r heddlu ai peidio. Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr aelod ynghylch faint o amser y mae'n ei gymryd weithiau i'r heddlu gyflawni eu hymholiadau ac i benderfynu a ydyn nhw'n dymuno cyflwyno erlyniadau ai peidio. Ond dyna'r berthynas gywir. Mae'r archwiliad mewnol yn penderfynu ar ba un a oes achos i'w archwilio, ac yna mae'r awdurdodau erlyn yn dod i'w casgliad ar wahân eu hunain ynghylch pa un a ddylid cymryd camau o natur droseddol ai peidio, a dyna'r hyn ddigwyddodd yn yr achos hwn. Rwy'n gresynu rhai o'r oediadau y mae'n ymddangos sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o achosion, ond dyna'r ffordd iawn i'r pethau hyn ddigwydd.
Mae craffu ar benderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn digwydd drwy'r amser. Mae'n rhan o'r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Ceir her fewnol iddyn nhw bob amser, ceir cwestiynau sy'n cael eu gofyn bob amser, a phan fydd penderfyniad yn cael ei wneud, bydd craffu ar y broses o weithredu'r penderfyniad hwnnw bob amser. Mewn achosion lle caiff buddsoddiadau eu gwneud ac nad yw pethau'n digwydd fel yr oeddem ni wedi ei obeithio, yna, wrth gwrs, rydym ni'n mynd y tu hwnt i hynny, a dyna'r ydym ni wedi ei wneud yn yr achos hwn a dyna pam y gwrandewais i yn astud ar yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid wrthyf rai wythnosau yn ôl , ac mae'r adroddiad ar gael i bobl ei weld erbyn hyn. Byddwn yn parhau i ddysgu'r gwersi o'r holl brofiadau hyn, fel y byddai unrhyw Lywodraeth call yn ei wneud. Mae cyhoeddi'r adroddiad yn rhan o hynny, ond ceir yr holl ffyrdd arferol y mae Llywodraeth yn asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y penderfyniadau yr ydym ni wedi eu gwneud hefyd, ac yn ceisio cywiro unrhyw ddiffygion a amlygir pan fydd gennym ni adroddiadau o'r math hwn.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, fe wnaethoch sôn yr wythnos diwethaf am eich awydd i gychwyn rhan gyntaf Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, felly byddaf yn eich holi yr wythnos hon am adran 20 ac Atodlen 2 y deddf honno. Maen nhw'n darparu ar gyfer ymchwiliad statudol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol pan gredir bod sefydliad wedi gwahaniaethu yn anghyfreithlon yn erbyn pobl oherwydd eu hethnigrwydd a'u credoau crefyddol. Mae wedi digwydd unwaith o'r blaen ym myd gwleidyddiaeth i'r BNP. A yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn iawn nawr i ymchwilio i'r Blaid Lafur, ac a ydych chi'n cytuno ag Alun Davies pan ddywed fod ganddo gywilydd mawr o'r hyn mae eich plaid wedi datblygu i fod erbyn hyn?
Llywydd, gadewch i mi ymdrin â'r mater o sylwedd, yn hytrach na'r rhai ymylol, yn gyntaf. Mae'r prif fater yn ymwneud â gwrth-Semitiaeth, a dywedaf eto yma ar lawr y Cynulliad, fel yr wyf i wedi ei ddweud yn rheolaidd pryd bynnag yr wyf i wedi cael y cyfle, nad oes gan wrth-Semitiaeth unrhyw ran yn y Blaid Lafur yng Nghymru nac unrhyw ran ym mywyd Cymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda mudiadau Iddewig i wneud yn siŵr bod y cyfraniad y mae cymunedau Iddewig wedi ei wneud i Gymru yn cael ei ddeall a'i gydnabod yn briodol, a phan geir enghreifftiau o wrth-Semitiaeth o unrhyw fath, yna mae'n rhaid ymdrin â'r rheini, ac ymdrin â nhw'n gyflym.
Mae'r Aelod yn gofyn i mi am ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a bydd yn falch o wybod, rwy'n siŵr, nad yw Plaid Lafur Cymru yn rhan o gwmpas yr ymchwiliad hwnnw.
Diolch am yr ateb yna. Tybed pam y credir nad yw hynny o fewn y cwmpas. Dywedodd un aelod o staff Llafur a siaradodd yn ddewr â BBC Panorama bod ymchwilwyr yn cael eu tanseilio, pan roddwyd achosion iddynt, gan bobl a oedd eisiau bod yn drugarog o ran gwrth-Semitiaeth, ac yna cymerwyd yr achosion hynny i ffwrdd oddi arnynt. Yn aml, pobl o swyddfa Jeremy Corbyn oedd y rheini, ond onid dyma a wnaethoch chithau hefyd, Prif Weinidog? Rwy'n clywed y cyn Brif Weinidog yn mwmian, ond pan wnaeth un o'ch Aelodau Cynulliad yr hyn a ystyriwyd yn eang yn sylwadau gwrth-Semitaidd, cafodd ei gwahardd o'ch grŵp ac atgyfeiriodd eich rhagflaenydd hi i'r Blaid Lafur ar gyfer ymchwiliad. Ac eto, yn ôl The Jewish Chronicle, ar ôl i chi gymryd yr awenau fel Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu:
Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r ffaith nad oedd Llafur y DU wedi cwblhau eu hymchwiliad i'w sylwadau eto, oherwydd, ac rwy'n dyfynnu, efallai ei bod hi wedi bod braidd yn wirion, ond ein 'Jenny ni' oedd hon. Parhaodd The Jewish Chronicle:
Roedd yn ymddangos bod Mark (Drakeford) a'r grŵp cyfan bron, heblaw Alun, Lynne a Vaughan yn benderfynol o'i chefnogi cyn gynted ag y gallent.
Prif Weinidog, mae nifer o'ch ACau yn gwrthwynebu penodi Jeremy Corbyn fel eich arweinydd, ac nid yw'n ymddangos eu bod nhw'n rhy awyddus iddo ddod yn Brif Weinidog, ond roeddech chi'n un o'i gefnogwyr gwreiddiol. A oeddech chi'n gwybod bryd hynny ei fod wedi cwyno pan dynnodd ei gyngor furlun gwrth-Semitaidd gwrthun i lawr? A ydych chi'n cytuno ag ef fod llyfr gwrth-Semitaidd Hobson, Imperialism, yn 'wych'? A beth ydych chi'n ei gredu yr oedd Jeremy Corbyn yn ei olygu pan ddywedodd nad yw Seioniaid yn deall eironi Seisnig? Prif Weinidog, am faint yn rhagor y gwnewch chi a'ch plaid a'ch Llywodraeth oddef yr hyn y mae eich dirprwy arweinydd yn ei ddisgrifio'n briodol fel hiliaeth gwrth-Iddewig?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n mynd i gael fy nenu i ateb cwestiynau nad oes ganddyn nhw ddim i'w wneud â'm cyfrifoldebau ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Rwyf i wedi cyflwyno yn y fan yma fy safbwyntiau ar wrth-Semitiaeth a'r ffordd yr ymdrinnir â'r materion hyn yma yng Nghymru. Ni fydd dim yn fy ngwyro oddi wrth sefyll yn erbyn y gwerthoedd hynny a'r egwyddorion hynny, ac ni fydd unrhyw beth y mae'r Aelod yn dymuno fy nhynnu i mewn iddo yn cael ei ddefnyddio i geisio fy ngwyro o'm penderfyniad bod hawliau pob cymuned yma yng Nghymru yn cael eu parchu. O ble bynnag y maen nhw'n dod, beth bynnag fo'u treftadaeth, bydd eu cyfraniad yma yng Nghymru yn cael ei werthfawrogi, ei gydnabod a'i ddathlu, a dyna'r math o ddiwylliant yr wyf i eisiau ei weld, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, ar draws ein gwlad gyfan.