Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn cyntaf heddiw, gyda'ch goddefgarwch, Llywydd, hoffwn innau hefyd anfon fy nghydymdeimlad at deulu Rod Richards. Mae ei gyfeillion a'i deulu wedi sôn am ei ffraethineb cyflym, ei garedigrwydd a'i gariad, ac mae ei gydweithwyr wedi parhau i edmygu ei sgiliau fel gwleidydd, ac roedd ei angerdd at wleidyddiaeth a'r hyn yr oedd yn credu ynddo yn eglur i bawb ei weld. Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i deulu ar yr adeg anodd iawn hon.
Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod eich Llywodraeth yn agored ac yn dryloyw?