Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Prif Weinidog, fe wnaethoch sôn yr wythnos diwethaf am eich awydd i gychwyn rhan gyntaf Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, felly byddaf yn eich holi yr wythnos hon am adran 20 ac Atodlen 2 y deddf honno. Maen nhw'n darparu ar gyfer ymchwiliad statudol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol pan gredir bod sefydliad wedi gwahaniaethu yn anghyfreithlon yn erbyn pobl oherwydd eu hethnigrwydd a'u credoau crefyddol. Mae wedi digwydd unwaith o'r blaen ym myd gwleidyddiaeth i'r BNP. A yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn iawn nawr i ymchwilio i'r Blaid Lafur, ac a ydych chi'n cytuno ag Alun Davies pan ddywed fod ganddo gywilydd mawr o'r hyn mae eich plaid wedi datblygu i fod erbyn hyn?