Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna? Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd—er ei fod yn araf—ar draws nifer fawr o feysydd fel ASau, ACau, a hyd yn oed cynghorwyr. Rhywbeth sy'n peri pryder i mi yw ein bod wedi cael saith comisiynydd heddlu a throseddu, nid oes yr un ohonyn nhw wedi bod yn fenyw, nid oes yr un ohonyn nhw wedi bod o leiafrif ethnig, a'r sefyllfa i raddau helaeth yw bod pobl yn edrych ar hyn ac yn gweld ei bod yn bosibl mai dim ond pobl o fath penodol sy'n cael sefyll i fod yn gomisiynwyr heddlu a throseddu. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod gennym ni well cymysgedd ymhlith y comisiynwyr heddlu a throseddu?