Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n cydnabod bod cryn ffordd i fynd gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae rhai o'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi penodi dirprwyon sy'n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, ac mae hyn wedi bod yn gam cadarnhaol iawn. Ond, wrth gwrs, fel pob swydd etholedig, pleidiau gwleidyddol sydd angen ymdrechu i sicrhau eu bod yn annog ac yn cefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol i gyflwyno eu hunain ar gyfer y swyddi hyn. Wrth gwrs, nid yw'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi'u datganoli, ond fe ofynnaf i swyddogion godi'r pryderon hyn mewn sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ar faterion etholiadol.