Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Rwy'n cymryd yn ganiataol eich bod chi a'r Llywodraeth yn falch iawn o'r ymateb gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol pan benderfynasoch chi wrthod ffordd liniaru'r M4 ar y sail y byddai'n dinistrio safleoedd am byth na ddylem ni, fel un genhedlaeth, fod yn amddifadu nifer dirifedi o genedlaethau'r dyfodol ohonynt. Mae troi tirwedd hanesyddol, hynafol yn goncrid yn weithred un ffordd ac nid oes unrhyw wrthdroi nac atgyweirio. Felly, tybed a yw awydd eich Llywodraeth i chwalu darn o goetir gwlyb prin, gan ddinistrio rhan fawr ohono ac atal ein cenhedlaeth ni a phob cenhedlaeth sy'n dilyn rhag mwynhau'r prinder hwnnw yn enw ffordd liniaru'r llwybr coch yn Sir y Fflint, wedi cael cymeradwyaeth y comisiynydd. A yw eich Llywodraeth wedi gofyn i'r comisiynydd am ei barn ac, os felly, beth oedd ei hateb, os gwelwch yn dda?