Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Mae hwn yn fater sydd eisoes wedi'i ystyried, wrth gwrs, o ran y llwybr coch, nid yn unig gan y Pwyllgor Deisebau, ond mewn ymateb gan y Gweinidog trafnidiaeth. Fe wnaethom gyhoeddi'r dewis coch fel llwybr a ffefrir i ddatrys tagfeydd traffig yng nghoridor Sir y Fflint ym mis Medi 2017, ac rydym ni hefyd yn bwrw ymlaen â'r camau nesaf o benodi cynghorwyr technegol i ddatblygu dyluniad rhagarweiniol ar y llwybr hwn. Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod hyn—ystyriaeth ohono—yn ffurfio rhan o'r arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel y dywedais i yn gynharach y prynhawn yma, i ddiweddaru WelTAG er mwyn ymwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.