Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Roedd gen i ddiddordeb yn ddiweddar mewn darllen cerdyn sgorio archfarchnad Oxfam. Mae'r ymgyrch honno'n dadansoddi pa mor dda y mae archfarchnadoedd yn hybu hawliau dynol yn eu cadwyni bwyd. Mae'r darlun yn un cymysg iawn, er enghraifft, ceir cynnydd da gan Aldi, sy'n cyferbynnu â chadwyni eraill na chafodd unrhyw sgôr o gwbl am sicrhau bod gweithwyr benywaidd yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu diogelu nid yn unig yma yng Nghymru, ond drwy'r cadwyni cyflenwi i gyd?