Gwella Hawliau Dynol

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 16 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:49, 16 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna, y mae hi eisoes wedi'i godi. Mae'n un pwysig i ailadrodd ymateb Llywodraeth Cymru iddo. Rydym ni wedi cyflwyno dulliau o sbarduno a chefnogi ein gwaith gyda chyflogwyr cyfrifol drwy'r contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, ond hefyd gan dderbyn argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg, gan weithio ar draws y Llywodraeth gyda phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill ar eu gweithrediad. Ac mae'n ddefnyddiol iawn bod yr Aelod wedi amlygu arfer da eisoes, oherwydd gall hynny fod o fantais i ni o ran sbarduno gwell arferion gyda chyflenwyr eraill.