Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 16 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:29, 16 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod nifer y tafarndai ledled Cymru yn gostwng. Yn aml iawn, wrth gwrs, mae'r dafarn leol yn gweithredu fel canolfan gymunedol, lle i bobl gyfarfod a chael sgwrs. Gall swyddogaeth y dafarn leol fod yn ganolog yn aml o ran mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ac o ran creu cymunedau cynaliadwy, cydlynol yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Nawr, pan fydd tafarndai'n cau ac yn newid eu defnydd, yn aml at ddibenion preswyl, fel y gwelir gyda thafarn bresennol yn Resolfen, yng nghwm Nedd, mae'r gymuned yn colli ased. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo nawr i edrych ar ddiogelu tafarndai a bwytai, trwy roi cyfle i gymunedau lleol eu cofrestru fel asedau o werth cymunedol, fel sy'n digwydd yn Lloegr, a rhoi cyfle i'r cymunedau hyn gadw'r tafarndai hyn ar agor fel cyfleusterau cymunedol?