Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch, LLywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Nid oes cynigion wedi'u cyflwyno ar gyfer y ddadl arfaethedig ar adroddiadau'r Pwyllgor Safonau, felly ni fydd y ddadl yn cael ei chynnal yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.