Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch i Bethan Jenkins, a gwn am ei diddordeb cryf ym mater anhwylderau bwyta, yn enwedig ei hawydd i weld yr adroddiad yn cael ei gyflwyno. Fel y crybwyllais yr wythnos diwethaf, rwyf yn credu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol wedi cael yr adroddiad hwnnw, ac mae'n adroddiad hir a chymhleth. Deallaf ei fod wedi cwrdd â swyddogion i'w drafod, ac rwy'n gobeithio y bydd diweddariad ar gyfer Aelodau cyn bo hir.