Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch ichi am godi'r materion yna. Mewn cysylltiad â'r cyntaf: wrth gwrs, mae ffliw ceffylau yn gyflwr anhysbysadwy ac endemig yn y Deyrnas Unedig. Mae'r clefyd fel arfer yn ysgafn ac yn hunan-gyfyngol, ond gall hefyd fod yn brif achos clefyd anadlol mewn ceffylau. Gallaf gadarnhau bod y prif swyddog milfeddygol wedi bod yn rhoi cyngor a'n bod yn cynnal trafodaethau parhaus gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, er enghraifft, ac yn croesawu eu penderfyniad cyfrifol fod pob ceffyl sy'n mynd i Sioe Frenhinol Cymru eleni i gael ei frechu'n briodol rhag ffliw ceffylau. Os hoffai etholwyr neu bartïon â diddordeb gael gwybodaeth, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ei ddarparu, neu fe allen nhw ofyn am wybodaeth gan eu milfeddyg lleol hefyd.
O ran boeler biomas y Barri, mae arnaf ofn nad oes gennyf unrhyw wybodaeth i chi heddiw, ond cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth, byddwn yn darparu hynny i chi, hyd yn oed os yw hynny yn ystod y toriad.
Ac ar fater y brotest yng Nghaerdydd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau. Mater i Gyngor Caerdydd ydyw mewn gwirionedd, er ein bod, wrth gwrs, yn ymwneud yn helaeth â sylwedd y mater, wedi inni ddatgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar a chyhoeddi ein cynllun cyflawni carbon isel, gan nodi'r camau a'r blaenoriaethau y byddwn yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn.