2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 16 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:14, 16 Gorffennaf 2019

Diolch yn fawr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gais am ddadl ar ddeintyddiaeth ac, mewn ymateb, fe ddywedoch chi y gall y Gweinidog iechyd ystyried hynny. Gaf i hefyd ategu'r alwad am ddadl ar ddeintyddiaeth, os gwelwch yn dda, a hynny'n gynnar yn y tymor newydd? A gaf i jest esbonio pam? Mae'r sefyllfa ddeintyddol yn fy etholaeth i yn ddifrifol iawn. Does dim un practis yn Arfon yn derbyn cleifion newydd ar yr NHS, dim un yn derbyn oedolion, dim un yn derbyn plant, dim un yn derbyn plant a phobl ifanc efo anableddau dysgu. Dydy fy etholaeth i ddim yn eithriad. Mae yna wyth, o leiaf, o rai eraill mewn sefyllfa debyg. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn dderbyniol ac mae angen gweithredu ar frys o ran y cytundeb a'r cap, ac mae argymhellion y pwyllgor iechyd angen eu hystyried o ddifrif. Ac, fel ateb tymor hir, mae angen i'r Llywodraeth edrych ar hyfforddi deintyddion yn y gogledd, ym Mangor, gan adeiladu ar yr hyfforddiant meddygol sy'n cychwyn yno ym mis Medi. Felly, buaswn i'n croesawu dadl er mwyn inni wyntyllu'r holl broblemau sydd yna o gwmpas deintyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.