Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
A chyda'r newidiadau arfaethedig i'r cynghorau iechyd cymuned, mae'n nodweddiadol o'r Llywodraeth hon, pan na fydd rhywbeth yn mynd yn iawn, pan fydd pobl yn dechrau ei dwyn i gyfrif am ei methiannau, mai hi naill ai'n cael gwared ar y targed neu'n diddymu'r sefydliad sy'n meiddio codi llais dros unigolion. Ac rwy'n dweud wrth y Prif Weinidog: mae angen inni hybu atebolrwydd yn ein gwasanaeth iechyd, nid cuddio methiannau.
Nawr, roedd hi'n siomedig dros ben i mi a'r miloedd o bobl yng Nghymru sydd ag awtistiaeth neu sy'n gofalu am eu hanwyliaid sydd ag awtistiaeth, fod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn y Bil awtistiaeth, a fyddai wedi rhoi llawer o gymorth i'r teuluoedd hynny ar adeg pan fo arnyn nhw angen hynny fwyaf. Ac rwy'n annog y Llywodraeth i ailedrych ar gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn.
I droi at y Biliau newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae'n dda gweld y Prif Weinidog yn cymryd yr arferion gorau o Ddeddf Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth y DU 2017 yn ei fesur trafnidiaeth gyhoeddus arfaethedig drwy ryddfreinio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Fodd bynnag, beth a wnaiff Llywodraeth Cymru i gefnogi, er enghraifft, y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau ar gyfer pobl ifanc, a sut y bydd yn cefnogi cwmnïau bysiau bach a chanolig eu maint drwy'r ddeddfwriaeth benodol hon? Hefyd, sut fydd gwasanaethau bysiau a arweinir gan gymunedau, sydd hefyd yn llenwi bylchau yn y ddarpariaeth, yn cyd-fynd â'r cynigion i awdurdodau lleol ryddfreinio neu redeg gwasanaethau bysiau yn uniongyrchol?
Nawr, realiti llym camreoli'r Llywodraeth o ran y GIG yng Nghymru yw bod cleifion a staff sy'n gweithio'n galed yn talu'r pris. Mae'n annerbyniol bod bron i un o bob dau glaf yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad cyfleus â'u meddyg teulu, a hyn gan Lywodraeth a ymgyrchodd i wneud gwasanaethau meddygon teulu yn llawer mwy hygyrch. O gofio'r ffars ym mis Ebrill, pan adawyd meddygon teulu yn nhir neb ar ôl i'r Gweinidog iechyd dorri mwy na £11 miliwn o gyfanswm indemniad meddygon teulu yn gwbl unochrog i gyflawni'r cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth, sut fydd ei Lywodraeth yn ceisio gwrthdroi camgymeriadau o'r fath drwy'r cynnig deddfwriaethol penodol hwn? A ymgynghorwyd â Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol cyn cyhoeddi'r Bil hwn heddiw?
Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw raglen ddeddfwriaethol yn gyflawn heb sôn am ddiwygio llywodraeth leol, gan fod ganddi'r potensial unwaith eto i adael cynghorau, staff, a'r rhai sy'n dibynnu ar wasanaethau lleol yn nhir neb eto. Cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fis diwethaf y byddai argymhellion gan y gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol yn cael eu cynnwys yn y Bil, yn enwedig uno gwirfoddol awdurdodau lleol. Sut ellir sicrhau'r Cynulliad hwn na fyddai unrhyw gynnig gan awdurdodau lleol yn dibynnu ar fympwy'r Gweinidog Llywodraeth Leol, fel y ddigwyddodd yn ôl yn 2015?
O gofio'r protestiadau parhaus heddiw yn ein prifddinas, mae'n siomedig nad yw ei Lywodraeth yn cyflwyno unrhyw fesur sy'n ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn syndod, oherwydd mae'n ymddangos y bu i'w Weinidog ddatgan hynny yn y wasg yn gyntaf cyn rhoi'r newyddion diweddaraf iddo yn ystod unrhyw fater arall yn y Cabinet. Mae hwn yn fater difrifol y mae angen ei ystyried o ddifrif, ac yn amlwg mae'n rhaid inni dreulio amser yn trafod y mater hwn ac yna mynd ati'n bendant i weithio tuag at Gymru ddi-garbon. Byddai rhai pobl yn awgrymu bod y Llywodraeth hon yn esgus cefnogi eu pryderon ynglŷn â'r amgylchedd, oherwydd pe bai ei Lywodraeth o ddifrif, yna siawns na fyddai'n cyflwyno deddfwriaeth benodol cyn gynted ag y bo modd.
Nawr, rwy'n siomedig o hyd bod y Llywodraeth hon wedi penderfynu peidio â chyflwyno cynigion pendant i wahardd plastigau untro yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni, neu hyd yn oed gadarnhau a fydd yn cyflwyno gwaharddiad yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac a fydd yn ceisio creu cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd yn rhan o hynny yn y dyfodol?
Felly, i gloi, Llywydd, edrychaf ymlaen at graffu ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn. Byddwn ni fel gwrthblaid yn gweithio'n agored ac yn adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pan gredwn ni ei bod hi'n gwneud y peth cywir, a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau yn y ffordd orau bosib er mwyn cynhyrchu deddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn rhoi amser i fyfyrio dros yr haf ar y polisïau sydd eu hangen ar Gymru i'n gwneud yn genedl arloesol, yn genedl sy'n barod i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ac a fydd, ar ôl 20 mlynedd o Lafur Cymru, yn dechrau cyflawni o'r diwedd ar gyfer pobl Cymru.