Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna. Ceisiaf ateb y cwestiynau a ofynnodd ynddyn nhw.
Bydd y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yng nghyswllt gwasanaethau bysiau yn cael ei chynllunio i wrthdroi'r difrod a wneir i wasanaethau bysiau yng Nghymru gan y polisïau dadreoleiddio a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth yntau. Dyna beth yw gwraidd y problemau gwasanaethau bysiau. Mae'n deillio o wrthod rhoi pwerau i awdurdodau lleol allu gweithredu'n bwrpasol er budd y cyhoedd, er gwaetha'r ffaith bod mwyafrif helaeth y refeniw a dderbynnir gan gwmnïau bysiau yng Nghymru'n dod mewn un ffordd neu'r llall yn uniongyrchol o'r pwrs cyhoeddus. Ac mae yn llygad ei le y dylai'r cyhoedd fod yn ffyddiog bod yr arian y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer y gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddefnyddio er budd y cyhoedd. Dyna'r hyn y bydd ein Bil yn ei sicrhau a bydd yn gwneud hynny ar y cyd â'r pethau eraill yr ydym ni eisoes yn eu gwneud: ehangu teithio drwy gymhorthdal ar fysiau i bobl ifanc a braenaru'r tir ar gyfer dyfodol gwasanaethau bysiau drwy gael gwasanaethau sy'n ymateb i'r galw yn gweithredu mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys darparu gwasanaethau newydd yn ardal Cymoedd y De.
O ran meddygon teulu, sylwaf i'r Aelod fethu â chyfeirio at y gyfradd fodlonrwydd o 93 y cant y mae pobl yng Nghymru'n ei fynegi o ran eu gwasanaethau meddygon teulu. Ac, wrth gwrs, mae'r cynigion yr ydym ni'n eu cyflwyno o ran atebolrwydd yn deillio o'n trafodaethau gyda'r proffesiwn a chyda'r undebau amddiffyn meddygol. Ac, wrth gwrs, mae'r materion cytundebol y cyfeiriodd atyn nhw bellach wedi'u datrys yma yng Nghymru. Rydym ni wedi dod i gytundeb â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru ar ddiwygio contractau dros y 12 mis nesaf ac mae'r cytundebau hynny'n amlwg yn well na'r fargen a gafodd ei tharo ar gyfer meddygon teulu gan ei Lywodraeth yntau ar draws ein ffin—a dyna farn y proffesiwn.
O ran y Bil Llywodraeth Leol, wel, bydd y Bil yma i Aelodau graffu arno. Pan ddywedwn ni 'uno gwirfoddol', mae'r gair 'gwirfoddol' yn golygu hynny'n union a bydd yr Aelod yn gallu gweld hynny pan gaiff y Bil ei gyhoeddi.
O ran argyfwng hinsawdd, yna dim ond un o'r ystod eang o'r pethau y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud i wireddu ein hymateb i effaith newid yn yr hinsawdd ar ein planed yw deddfwriaeth. Dyma, Llywydd, dim ond tri o'r pethau y byddwn yn eu gwneud ac maen nhw'n dangos ehangder yr uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon. Ym maes trafnidiaeth, byddwn yn bwrw ymlaen dros y 12 mis nesaf gyda'n penderfyniad mai cael parthau 20 milltir yr awr ddylai fod yn arferol mewn ardaloedd trefol gyda'r holl effaith a gaiff hynny nid yn unig ar yr hinsawdd ond gyda phob mantais arall a ddaw yn ei sgil o ran cymunedau cysylltiedig. Byddwn yn cyflwyno rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol, oherwydd gwyddom fod llygredd yn y diwydiant amaethyddol yn niweidio ein hamgylchedd yn uniongyrchol yn union fel y mae'n niweidio enw da'r diwydiant amaethyddol yn uniongyrchol. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar ffurf rheoliadau i ymdrin â hynny yn ystod y 12 mis nesaf. Erbyn diwedd y 12 mis nesaf, Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru wedi plannu'r filiynfed goeden o'r coed y byddwn wedi'u plannu yn Uganda ar ran pobl Cymru. Byddwn yn creu coedwig yn Uganda ddwywaith maint arwynebedd Cymru gan weithio gyda'n partneriaid yno yn y rhaglen Cymru o blaid Affrica. Mae hynny'n rhan o'n hymrwymiad nid yn unig i bobl yr ardal honno ond i'r cyfrifoldeb sydd arnom ni yn fyd-eang o ran yr argyfwng hinsawdd. Yr holl bethau hynny—a dim ond tair enghraifft yw hynny; mae llawer mwy y gallwn fod wedi dweud wrth yr Aelod y prynhawn yma i ddangos y pethau yr ydym ni'n eu gwneud. A gyda llaw, Llywydd, dydw i ddim yn credu i mi glywed un cynnig deddfwriaethol gan yr wrthblaid y bydden nhw wedi'i gyflwyno yng nghyfnod olaf y Cynulliad hwn.
Yn olaf, o ran plastigau untro, Llywydd—[Torri ar draws.] Mae'n rhy hwyr iddyn nhw ddechrau mwmian y syniadau hyn nawr. Cafodd arweinydd yr wrthblaid ddigon o gyfle i'w cyflwyno gerbron y Cynulliad ac ni allent ddod o hyd i eiliad i gyfeirio atynt. O ran plastigau, buom yn gweithio gyda'i Lywodraeth, buom yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gydag ymgynghoriad y Trysorlys ar gynigion i ddefnyddio mesurau treth i ymdrin â phlastigau. Ac rydym ni wedi cytuno â'r Trysorlys ar y gyfres gyfyngedig o syniadau y maen nhw wedi'u cyflwyno. Yma, rydym ni wedi cyflwyno ein cynigion ein hunain ar gyfer ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr a chynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mai eleni; rydym ni'n ystyried yr ymatebion. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hynny cyn bo hir, ac yna byddwn yn parhau i weithio ar y cyd ag eraill i gyflwyno mesurau trethu newydd.