3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 16 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:41, 16 Gorffennaf 2019

Mae yna elfennau, wrth gwrs, yn y datganiad a'r rhaglen ddeddfwriaethol mae’r Prif Weinidog wedi’i chyhoeddi'r prynhawn yma i’w croesawu. Dŷn ni eisoes wedi datgan ein cefnogaeth i’r egwyddor o gofleidio'r model o bartneriaeth gymdeithasol fydd ynghlwm wrth y Bil mae’r Prif Weinidog wedi cyfeirio ato.

Dŷn ni hefyd yn croesawu'r symudiad tuag at ailreoleiddio, i bob pwrpas, y sector bysiau. Dŷn ni’n cyd-fynd o ran y dadansoddiad o’r difrod a wnaethpwyd wrth ddadreoleiddio yn ystod y 1980au, ac mae symud, felly, i’r cyfeiriad arall, dwi’n credu, yn gam ymlaen. Gaf i ofyn, gan fod y sector yma yn un sydd yn mynd trwy ailstrwythuro dybryd, heriol ar hyn o bryd am amryw o resymau, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni ddim yn aros am y pwerau deddfwriaethol hynny, neu’r pwerau statudol hynny? Er enghraifft, gwnes i godi’r sefyllfa gyda’r Prif Weinidog rai wythnosau’n ôl o ran First Cymru, a’r cyfle, efallai—mae’n fygythiad ond hefyd yn gyfle—i ni sicrhau ein bod ni ddim yn gweld erydu’r gwasanaeth ar draws rhannau helaeth o dde-orllewin Cymru ac ar draws Cymru. Mi oedd e wedi sôn y byddai fe’n cael gair gyda’i Weinidog llywodraeth leol er mwyn cael trafodaeth gyda dinas Abertawe yn y lle cyntaf.

O ran tacsis, unwaith eto, mae e’n sector—. Dwi’n credu bod y Prif Weinidog yn ei ddatganiad wedi cydnabod ei fod e'n sector sydd hyd yn oed yn mynd trwy fwy o ailstrwythuro, oherwydd, wrth gwrs, y bygythiad neu’r her o’r economi gig ac yn y blaen, ac efallai dyna yw'r gyriant ar gyfer y syniadau sydd wedi dod o wahanol randdeiliaid. Dwi'n siomedig ein bod ni’n oedi oherwydd, hynny yw, mae’r tirwedd yma yn mynd i edrych yn wahanol mewn dwy neu dair blynedd. Roedd e’n edrych yn wahanol ddwy neu dair blynedd yn ôl, felly allwn ni fforddio, a dweud y gwir, colli’r cyfle er mwyn sicrhau ein bod ni’n gosod y sector yna ar dir teg a gwastad?

Mae yna bethau i’w croesawu hefyd o’r Deddfau sydd wedi’u gohirio. Dŷn ni’n croesawu’r penderfyniad i bwyllo o ran y Bil amaeth. Dyna dŷn ni’n gyson wedi'i ddweud ym Mhlaid Cymru, ac mae hwnna’n rhoi cyfle, dwi’n credu, nawr i ni bwyso a mesur a datblygu fframwaith fydd yn gosod sylfaen ar gyfer y dyfodol hirbell.

Mae yna bethau ar goll. Dwi ddim yn gallu gweld cyfeiriad at, er enghraifft, Ddeddf awyr glân. Dwi ddim wedi darllen maniffesto’r Prif Weinidog fel arweinydd y Blaid Lafur o glawr i glawr, ond dwi’n credu bod hwnna’n elfen yn y rhaglen roeddech chi wedi’i chyflwyno—hynny yw, Deddf fyddai, wrth gwrs, er enghraifft, yn rhoi hawl statudol i anadlu, yn gosod cyfrifoldeb, neu’n rhoi canllawiau’r WHO ar ryw fath o sail statudol ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, rŷn ni’n gwybod bod yna broblem ddybryd gyda ni ar draws Cymru, felly mae hwn yn rhywbeth lle mae angen symud ymlaen. Ond buaswn i'n dal yn pwyso ar y Llywodraeth, a dweud y gwir, i ailfeddwl ynglŷn â pheidio deddfu ar hyn o bryd.

Mi oeddech chi hefyd wedi crybwyll, neu wedi ymrwymo, a dweud y gwir, i estyn y gwaharddiad ar ysmygu, os dwi'n cofio'n iawn, i fannau awyr agored yng nghanol dinasoedd a threfi. Ydy hwnna'n dal yn fwriad gennych chi a gan y Llywodraeth, a phryd ydych chi'n bwriadu deddfu i'r cyfeiriad hwnnw?

O ran TERCW—nid wyf yn gwybod beth yw'r acronym Cymraeg eto—mae yn wir, rwy'n credu, fod y corff yma, nid yn unig yn mynd i fod yn gyfrifol am addysg trydyddol ac ymchwil, ond mae hefyd yn mynd i fod yn gyfrifol am arloesi yn yr ystyr eang. Ac rwy'n credu, os dwi'n cofio'n iawn, y bwriad yw i ffurfio is-bwyllgor a fydd yn benodol yn gyfrifol am arloesi ac ymchwil. Onid oes peryg, Brif Weinidog, yn hynny o beth, oherwydd bod arloesedd, wrth gwrs, yn dibynnu ar ymchwil o'r sector addysg uwch, ac yn y blaen, ond mae hwnna dim ond yn cynrychioli un dimensiwn o arloesedd? Mae'r dimensiwn busnes hefyd, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac mi oedd yna argymhelliad gan yr Athro Kevin Morgan, sydd yn arbenigwr byd-eang ym maes arloesedd, y dylid, yn hytrach, creu corff arloesedd cenedlaethol ar y model Scandinafaidd. Nid dyna, wrth gwrs, sydd ynghlwm wrth yr argymhellion rydych chi yn eu gweithredu, ond ydy hwnna'n dal yn rhan o'r weledigaeth ar gyfer y Ddeddf rŷch chi'n mynd i gyhoeddi?

Ac yn olaf, mae yna gyfeiriad yn eich datganiad tuag at gyfyngiadau deddfwriaethol—'legislative constraints'. Beth yn union yw'r cyfyngiadau hynny? Ife nifer yr Aelodau, yr amser yn ystod yr wythnos yn y Senedd, sy'n mynd â ni nôl i'r ddadl gawsom ni wythnos diwethaf? Ydy e'n ymwneud â'r nifer o weision sifil sydd gyda chi? A allwch chi roi ryw fath o syniad i ni ble mae'r esgid yn gwasgu, a beth y gellir ei wneud? Wrth gwrs, roedd un awgrym go bendant gyda ni wythnos diwethaf ynglŷn ag un elfen o'r broblem yma, ond beth arall y gellir ei wneud, achos os ydy'r cyfyngiadau yma yn golygu bod yna syniadau da ar gyfer Deddfau ddim yn gallu mynd rhagddi, wrth gwrs, rŷn ni gyd ar ein colled oherwydd hynny?