Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf i groesawu'r ffaith dyw y Llywodraeth nawr ddim yn mynd i ddod â Bil amaeth i Gymru cyn yr etholiad nesaf? Mae'n sicr yn rhywbeth dwi a Phlaid Cymru wedi bod yn dadlau drosto fe yn yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Dwi yn teimlo y dylem ni fod yn aros i weld beth yw'r tirlun masnachu ôl-Brexit rŷm ni'n ei wynebu—hynny yw, pa fynediad fydd gan ffermwyr Cymru i farchnadoedd, a fydd y lefel o dariffau yn llethu'r diwydiant, ac, yn wir, faint o gyllid fydd ar gael trwy Lywodraeth Prydain, neu o Lywodraeth Prydain drwy Lywodraeth Cymru, i gefnogi'r sector yng Nghymru—cyn ein bod ni'n bwrw ymlaen i weithredu yn derfynol unrhyw argymhellion fydd yn dod allan o'r ymgynghoriad sydd newydd gychwyn. Dyw cyflwyno newidiadau fel hyn ddim yn rhywbeth rŷch chi'n ei wneud ar chwarae bach—rŷch chi'n ymwybodol o hynny. Unwaith mewn cenhedlaeth mae newidiadau mor bellgyrhaeddol yn gallu cael eu cyflwyno, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n troi pob carreg ac yn gwyntyllu pob opsiwn yn llawn cyn bwrw ymlaen. Roeddwn i wastad yn teimlo bod amserlen y Llywodraeth yn afrealistig, a dwi'n falch bod y Llywodraeth bellach wedi cydnabod hynny o safbwynt deddfwriaeth Gymreig.
Nawr, mae'r ymgynghoriad presennol, wrth gwrs, yn cau ddiwrnod cyn y gall Brexit fod yn digwydd, ar ddiwedd Hydref. Wedyn mae angen ystyried yr opsiynau a'r ymatebion. Wedyn, wrth gwrs, mae angen mynd ati i gynnal asesiadau effaith a modelu impact cynigion y Llywodraeth ar y sector. Wedyn, mae angen dylunio rhaglenni gyda'r sector, wedyn creu'r ddeddfwriaeth. Felly, roedd hi wastad yn uchelgeisiol i wneud hyn i gyd cyn 2021. Ond yr hyn liciwn i ei ofyn ynghylch hyn yn benodol yw: nawr bod mwy o amser, os liciwch chi, o fewn yr amserlen, gan dyw'r Ddeddf ei hunan ddim yn mynd i gael ei chyflwyno cyn yr etholiad nesaf, allwch chi gadarnhau i ni na fydd Llywodraeth Cymru yn cario allan yr impact assessments a'r modelu ar y sector tan ein bod ni'n gwybod sut beth fydd canlyniad Brexit? Oherwydd fe ddwedoch chi eich hun rhai munudau’n ôl ynglŷn â'r unforeseen consequences a'n bod ni'n mynd i diroedd rŷm ni ddim yn gallu dychmygu, efallai, ble fyddwn ni. Y realiti yw, os fyddwch chi wedi gwneud yr impact assessments a'r modelu cyn bod Brexit yn digwydd, wel, mae'n gynamserol, oherwydd dŷn ni ddim yn gwybod a fydd y cyd-destun yn adlewyrchu efallai lle fyddwn ni ar ôl Brexit.