Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Mae'n rhygnu ar yr un hen dant bod angen i ni barchu canlyniad refferendwm 2016. Mae'n gwybod yn iawn, wrth gwrs, ein bod ni ar y meinciau hyn wedi ceisio dod o hyd i fath o Brexit a oedd yn cyflawni'r cyfarwyddyd yn 2016 gan leihau'r niwed i economi Cymru. Roedd yn fath o Brexit nad oedd ganddo ef na'i blaid ddiddordeb ynddi wrth iddyn nhw ruthro'n bendramwnwgl tuag at eu fersiwn nhw o Brexit a ysbrydolir gan ideoleg. Ni wnaethon nhw ddangos unrhyw ddiddordeb mewn lles busnesau, sefydliadau nac unigolion Cymru y mae'n honni ei fod mor ofalus ohonyn nhw yma heddiw. Gadewch imi ddweud wrthych chi mai'r hyn nad yw'n parchu canlyniad refferendwm 2016 yw Brexit heb gytundeb, rhywbeth na ddadleuodd neb drosto ac fe wnaeth pobl ar y meinciau acw ac eraill bwynt penodol o esbonio i bobl pa mor syml fyddai cytundeb. Nid oes mandad yng nghanlyniad 2016 ar gyfer y camau y mae'n berffaith barod i'w goddef yn y Siambr hon heddiw.
Mae'n gofyn beth ydym ni'n ei wneud i gefnogi busnesau. Rwy'n derbyn y pwynt. Treuliais 20 mlynedd, rwy'n credu, cyn cael fy ethol, yn gweithio yn y sector preifat, felly rwy'n deall, o leiaf gymaint â neb ar y meinciau acw, sut deimlad yw gweithio i fusnes. A gadewch imi ddweud wrthych chi, rwy'n deall yn iawn, yn enwedig o ran busnesau bach, nad oes y gallu ganddyn nhw i dreulio amser yn meddwl ac yn cynllunio ar gyfer pob ystod o bosibiliadau. Mae hynny'n bryder sylweddol inni, ac rydym ni'n gwneud popeth a allwn ni drwy'r Ffederasiwn Busnesau Bach a thrwy'r siambrau masnach i geisio hyrwyddo'r adnoddau yr ydym ni'n eu cyflwyno.
Byddaf yn dweud wrtho fod cronfa cydnerthedd Brexit yn llawer mwy na'r ffigurau a roddodd gynnau; rydym ni'n edrych ar ffigurau o tua £9 miliwn, ac mewn gwirionedd mae llawer o alw am y gronfa honno, yn hollol, fel y byddem yn disgwyl. A byddwn yn parhau i adolygu faint o gyllid y gallwn ni ei ddarparu i gefnogi busnesau, ond rydym ni wedi darparu—a chredaf mai ni yw'r unig Lywodraeth yn y DU sydd wedi gwneud hyn—drwy gronfa bontio'r UE, ffynhonnell gyllid i gefnogi busnesau a sefydliadau eraill drwy'r dyfroedd tymhestlog y byddant yn anochel yn eu hwynebu.
O'r gronfa £50 miliwn, rydym ni eisoes wedi ymrwymo swm o tua £35 miliwn i £36 miliwn. Mae cynigion eraill yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Bydd yntau, rwy'n siŵr, eisiau gwybod ein bod yn gwerthuso'r cynigion hynny'n ofalus er mwyn sicrhau gwerth am arian ac atebolrwydd cyhoeddus priodol. Ac mae'n gywir i ddweud ei bod hi'n bwysig inni ddefnyddio'r arian hwnnw mewn ffordd mor amserol â phosib. Rwy'n tynnu sylw at y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Cyllid, y cyfeiriodd hi ato yn ei datganiad ychydig funudau'n ôl, am y £85 miliwn a ymrwymwyd fel modd i ysgogi'r economi i ymdrin ag effeithiau niweidiol posib y math o Brexit y mae ef ac eraill yn berffaith fodlon ei ystyried.
O ran deddfwriaeth, soniais yn fy natganiad mai offerynnau statudol oedd y ddeddfwriaeth yr oeddwn yn cyfeirio ati. Yn amlwg, mae ehangu cyfnod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod yn edrych ar ddeddfwriaethau eraill yn mynd drwy'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn ceisio cywiro offerynnau statudol ac mae gwelliannau eraill y mae angen inni eu gwneud i fynd i'r afael â'r adeg gadael gohiriedig. Ymdrinnir â hwy o ran craffu yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnyn nhw gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Rheolau Sefydlog y Cynulliad.