– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar barodrwydd am Brexit—parodrwydd, parodrwydd—rwy'n credu mai 'parodrwydd' yw e? Ie. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn cael munud fach yn y fan yna. Felly, a gaf i alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Erbyn wythnos nesaf, bydd yr etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ar ben, a byddwn ni'n gwybod pwy yw'r Prif Weinidog nesaf. Rŷn ni i gyd wedi bod yn gwylio'r ymgyrch sydd wedi bod yn ras i weld pwy sy'n gallu swnio fwyaf caled wrth siarad am ddim cytundeb. Mae'r gystadleuaeth hon am y swydd uchaf wedi canolbwyntio ar anghenion y Blaid Geidwadol yn hytrach nag anghenion y wlad. Mae'n ddadl sydd wedi anghofio bod y ffordd mae'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith ar fywydau a bywoliaeth pobl yn y byd go iawn.
Mae'n ymddangos mai'r disgwyliad yw y bydd y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag fydd e, yn gallu mynd i Frwsel ac ail-negodi cytundeb mewn mater o wythnosau. Fodd bynnag, mae Jeremy Hunt a Boris Johnson fel ei gilydd yn anwybyddu'r ffaith bod yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud dro ar ôl tro na fyddan nhw'n ail-negodi’r cytundeb ymadael, a does dim ateb technegol hud ar gael i sicrhau bod nwyddau yn gallu symud yn ddi-drafferth ar ynys Iwerddon.
Maen nhw'n anghofio hefyd, er bod Brexit yn her sylweddol i'r Undeb Ewropeaidd, nid yw yn dyngedfennol. Mae digon ar blât y 27 gwlad wrth iddyn nhw fynd ati i sefydlu Comisiwn newydd, dewis pobl ar gyfer uwch swyddi eraill, a datblygu rhaglen bolisi pum mlynedd a chyllideb saith mlynedd.
Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rydym yn ôl yn ceisio gwneud yr amhosib. Mae gennym ni sefyllfa lle mae tawelu llid cefnogwyr y Torïaid ar lawr gwlad yn cael blaenoriaeth dros realiti'r trafodaethau â'r Undeb Ewropeaidd. Mae cael cefnogaeth y Brexitwyr digyfaddawd wedi cael ei wneud yn brif flaenoriaeth, ac nid y budd cenedlaethol.
Canlyniad enbyd yr holl ffactorau hyn yw bod cwympo allan o'r UE heb gytundeb yn bosibilrwydd real iawn. Yn fwriadol neu'n ddiofyn, ofnaf y bydd Prif Weinidog nesaf y Ceidwadwyr yn mynd â'r DU i gyfeiriad gadael heb gytundeb, ac rydym ni wedi dweud erioed y byddai hyn yn drychinebus i'r DU gyfan, ond yn arbennig i Gymru. Ac nid ni yw'r unig rai sy'n dweud hyn. Dylai'r rhestr o fusnesau sy'n mynegi pryderon difrifol ynghylch gadael heb gytundeb sobri unrhyw un. Ac mae mwy a mwy o arbenigwyr yn tynnu sylw at y cymhlethdod ychwanegol y mae dyddiad ymadael ym mis Hydref yn ei greu. Gadewch i mi ddewis rhai enghreifftiau'n unig i chi. Mae Prif Weithredwr Tesco wedi dweud y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref arwain at broblemau ynghylch stocio siopau, gyda llai o le i storio stoc o ystyried y cyfnod cyn y Nadolig nag a oedd ym mis Mawrth. O ganlyniad, dywedodd y byddai'n anoddach i fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr adeiladu stociau o nwyddau, gan ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd mwy o silffoedd gwag.
Mae Prif Weithredwr Sainsbury's wedi rhybuddio y gallai Brexit heb gytundeb ar 31 Hydref darfu'n sylweddol ar y cyflenwad o fwyd, teganau a nwyddau trydanol i'r DU cyn cyfnod y Nadolig, gan ddweud gallai unrhyw oedi ym mhorthladdoedd Prydain fod yn drafferthus iawn i'n busnes. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud ei bod hi'n destun pryder bod gadael heb gytundeb yn cael ei gyflwyno fel sefyllfa gredadwy gan lunwyr polisi a'n harweinwyr, ac mae wedi rhybuddio y gallai arwain at ladd defaid ar raddfa fawr. Rwy'n cytuno'n llwyr na ddylid ystyried gadel heb gytundeb yn sefyllfa gredadwy. Mae normaleiddio gadael heb gytundeb, mae'r syniad ei fod yn ddewis rhesymol, yn wyneb tystiolaeth gref i'r gwrthwyneb, yn rhyfeddol.
Mae Make UK, sy'n cynrychioli cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg, yn dweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gwleidyddion yn sôn yn gynyddol am y posibilrwydd o adael heb gytundeb, a chwmnïau Prydeinig yn colli cwsmeriaid dramor a phobl Prydain yn colli swyddi mewn cwmnïau Prydeinig.
Yng Nghymru, rydym ni eisoes wedi gweld effaith y colli hyder hwn yn y Deyrnas Unedig. Yn y sector modurol yn unig, rydym ni wedi gweld effaith ddinistriol colli swyddi a'r cyhoeddiadau ynghylch cau canolfannau Schaeffer, Calsonic a Ford, tra bo mwy na 2,000 o swyddi cadwyn gyflenwi yng Nghymru mewn perygl o ganlyniad i benderfyniad Honda i gau ei ffatri yn Swindon. Mae ansicrwydd parhaus Brexit yn niweidio'r economi ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gwrthod ymadawiad heb gytundeb. Mae unrhyw olwg resymegol ar y ffeithiau caled am oblygiadau ymadawiad heb gytundeb yn dangos y bydd hyn yn drychinebus. Yn ystod y ddadl ar y refferendwm dair blynedd yn ôl, ni chafodd ymadael heb gytundeb ei chyflwyno fel dewis dichonadwy. Mynediad at y farchnad sengl a masnach ddi-dor gyda'r UE a addawyd gan y rhai a oedd yn cefnogi 'gadael'. Yn syml, nid oes mandad ar gyfer ymadael heb gytundeb. Ac nid yw holi barn 160,000 o aelodau'r Blaid Geidwadol yn fandad cenedlaethol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd a fydd yn mynd â'r economi i'r gwellt. Ni fyddwn yn sefyll o'r neilltu a gwylio hyn yn digwydd.
Mae angen i'r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen nawr. Fel y cytunwyd yn y Siambr hon, rydym yn galw am ail refferendwm i osod mandad newydd. Mae'r holl dystiolaeth a welsom ni yn atgyfnerthu ein barn mai gweld y DU yn aros yn yr UE fydd yn rhoi'r manteision gorau i obeithion dyfodol pawb yn y Deyrnas Unedig. Fel y gwnaethom ni yn 2016, byddwn yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd a byddwn yn cefnogi pob ymdrech i weithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni'r nod hwnnw. At hynny, rwyf eisiau bod yn glir iawn, pe bai Prif Weinidog newydd Prydain yn galw etholiad cyffredinol brys mewn ymdrech daer i sicrhau na fydd y Senedd yn atal Brexit heb gytundeb a cheisio mandad cyhoeddus ar gyfer cam trychinebus o'r fath, y gwnawn bopeth a allwn ni i berswadio Plaid Lafur y Deyrnas Unedig i fabwysiadu ymrwymiad maniffesto y byddai Llywodraeth newydd dan arweiniad Llafur yn canslo Brexit yn llwyr.
Llywydd, gan ein bod yn wynebu'r risg gynyddol o ymadael heb gytundeb, rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i wneud popeth yn ein gallu i baratoi ar gyfer yr effaith eang a difrifol y byddai gadael heb gytundeb yn ei hachosi. Ers cytuno ar yr estyniad ym mis Ebrill, rydym ni wedi bod yn manteisio ar y cyfle i adolygu'r paratoadau ar gyfer ymadael heb gytundeb yr ydym ni wedi'u gwneud ac i ystyried y ffordd orau o adeiladu ar yr holl waith gwerthfawr a wnaed ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt i sicrhau bod ein paratoadau mor gadarn â phosib. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys ystyried cymhlethdodau ychwanegol ymadael heb gytundeb yn yr hydref yr wyf eisoes wedi'u crybwyll. Bydd trafodaethau pellach—gan gynnwys yr wythnos nesaf yn Sioe Frenhinol Cymru, er enghraifft—gyda sectorau perthnasol yn caniatáu i bwyslais ychwanegol gael ei roi ar faterion sy'n ymwneud â gofod warysau, symud nwyddau, a'r sector cludo nwyddau. Mae hefyd yn golygu ystyried effeithiau byrdymor a hirdymor ymadael heb gytundeb.
Mae ansicrwydd mawr o hyd ynghylch yr effeithiau tebygol yn y tymor byr. Yma, ofnaf na fydd y naratif digyfaddawd, a nodweddir gan honiadau y bydd y DU yn cefnu ar ymrwymiadau ariannol, dim ond yn caledu unrhyw ymateb gan yr UE27. Bydd llawer o'r canlyniadau tymor byr sy'n deillio o ymadael heb gytundeb allan o'n rheolaeth uniongyrchol ni, a dyna pam mae angen i'n paratoadau ynglŷn ag ymadael heb gytundeb fod yn drwyadl ac yn hyblyg i ymateb i'r hinsawdd busnes gyfnewidiol. Gan ddefnyddio ein profiad o fis Mawrth a mis Ebrill, rydym ni wedi bod yn ystyried yn benodol sut i gefnogi busnesau a phobl i gymryd camau pellach, lle bo modd, i baratoi ar gyfer goblygiadau posib ymadael heb gytundeb. Un o'n prif ystyriaethau o baratoadau'r gwanwyn, lle byddai systemau gweithredol newydd yn cael eu rhoi ar waith—er enghraifft, mewn cysylltiad ag agweddau sy'n ymwneud â mewnforio ac allforio nwyddau—yw bod angen i fusnesau fod yn ymwybodol o'r trefniadau newydd hynny a bod yn barod i'w defnyddio. Mae mwy i Lywodraeth y DU, sydd â'r prif gyfrifoldeb dros lawer o'r systemau hyn ar lefel y DU—mae angen iddyn nhw wneud mwy yn hyn o beth, ond yn yr un modd rydym ni'n benderfynol o wneud yr hyn a allwn ni i gefnogi busnesau yng Nghymru.
Mae fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi nodi mesurau i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'r rhain yn cynnwys pum cam gweithredu syml a rhad i helpu busnesau Cymru i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, ac maen nhw wedi'u hamlinellu ar ein gwefan Paratoi Cymru. Maen nhw'n ymwneud â'r ffaith ei bod hi'n bwysig i fewnforwyr ac allforwyr gael rhif cofrestru ac adnabod gweithredwr economaidd; bod y rhai sy'n trosglwyddo data personol i'r DU yn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â rheoliadau GDPR; bod y rhai sy'n cyflogi dinasyddion yr UE yn annog staff i wneud cais iddyn nhw gael aros yng Nghymru drwy gynllun statws preswylydd sefydlog yr UE; bod gweithgynhyrchwyr yn gwirio gofynion rheoleiddio ar gyfer marchnadoedd y DU a'r UE ar gyfer labelu, cymeradwyo a phrofi; a bod pob busnes sy'n ymweld â phorth Brexit Busnes Cymru yn asesu pa mor barod ydyn nhw ac yn cael cyngor arbenigol manwl. Rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar fanteisio i'r eithaf ar gapasiti Banc Datblygu Cymru i gynghori a chefnogi nifer mwy o lawer o fusnesau, gyda'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn seiliedig ar gymaint o wybodaeth ag y gallwn ei chasglu ynglŷn â gwendidau sectoraidd a daearyddol posibl.
Yn ogystal â chymorth i fusnesau, rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar gymorth i bobl a chymunedau, ac ar y thema hon rydym ni wedi cyhoeddi pecyn cymorth yn ddiweddar i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit ac i barhau i fyw a gweithio yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys cymorth gyda cheisiadau a chyngor ar faterion lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle drwy rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru; gwasanaeth cyngor ar fewnfudo sy'n cynnig cymorth arbenigol ar gyfer achosion cymhleth, a ddarperir gan arbenigwyr cyfreithiol mewnfudo; darparu mwy o ganolfannau cymorth digidol yng Nghymru i helpu'r rhai sydd heb y gallu digidol i wneud cais am statws preswylydd sefydlog; a gweithio gydag amrywiaeth o elusennau a phartneriaid ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r angen i wneud cais am statws preswylydd sefydlog ymysg pobl sy'n anodd eu cyrraedd ac sy'n agored i niwed.
Yn ogystal â hyn, rydym ni wedi nodi, law yn llaw â Llywodraeth y DU, camau deddfwriaethol pellach, drwy offerynnau statudol, a fydd naill ai'n angenrheidiol neu'n ddymunol o ganlyniad i ymestyn amserlen Erthygl 50. Byddaf yn sicrhau bod paratoadau Llywodraeth Cymru yn parhau dros yr haf er mwyn i ni fod mewn sefyllfa mor gryf ag sy'n bosib ym mis Hydref. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddiadau pellach maes o law ar fesurau cymorth ychwanegol i bobl, cymunedau a busnesau drwy brosiectau a ariennir drwy gronfa bontio'r UE. Ond byddwn hefyd yn parhau i ddadlau gyda'n holl egni y byddai cael canlyniad o ymadael heb gytundeb a'r niwed y byddai'n ei achosi i fywydau a bywoliaeth pobl yn golygu methiant hollol afresymol ar ran Llywodraeth y DU ac mae'n rhaid ei osgoi.
Llywydd, bydd y Prif Weinidog newydd yn wynebu'r un rhifyddeg Seneddol â Theresa May. Bydd anghytundeb yn parhau yn Nhŷ'r Cyffredin, ac erbyn hyn rydym ni bron yn sicr yn wynebu dewis uniongyrchol rhwng ymadael heb gytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r amser wedi dod i roi'r penderfyniad yn ôl yn nwylo'r bobl a bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Byddai'n warthus i unrhyw Lywodraeth dynnu'r DU allan o'r UE heb gytundeb—fel gweithred fwriadol neu oherwydd diffyg gweithredu—heb ofyn am fandad penodol i wneud hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n credu y byddai'r cyfan ar barodrwydd ar gyfer Brexit, ond roedd cyfran dda ohono, er hynny, yn ymddangos fel petai fwy ynghylch yr ornest arweinyddiaeth yn y Blaid Geidwadol. Rwy'n credu hefyd ei bod yn drueni mawr bod y Blaid Lafur yma yng Nghymru wedi cefnu ar ei sefyllfa flaenorol o barchu democratiaeth. Cyn y bleidlais ym mis Mehefin 2016, gwnaeth eich plaid hi'n gwbl glir y byddech yn parchu canlyniad y bleidlais honno. Yn syth ar ôl y bleidlais, fe wnaethoch chi ddweud y byddech yn parchu canlyniad y bleidlais honno. Cafodd eich ASau—pob un AS Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw—eu hethol ar faniffesto a ddywedodd y byddent yn parchu canlyniad y refferendwm. Ac eto, yn ddiweddar, yn enwedig yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld eich plaid yn newid ei chân mewn ffordd ryfeddol, nid yn unig yn galw am ail refferendwm, ond yn mynd ymhellach na dim ond galw am ail refferendwm, gan ddweud wedyn hefyd eich bod am ymgyrchu i aros os cynhelir ail refferendwm. A heddiw, rydych chi wedi mynd hyd yn oed ymhellach, oherwydd yr hyn a ddywedoch chi oedd petai etholiad cyffredinol brys, y byddech chi eisiau ymrwymiad maniffesto i ganslo Brexit yn gyfan gwbl. Wel, sut mae hynny'n parchu democratiaeth? Rydych chi'n dweud nad oes mandad i gyflawni Brexit, ac eto rydym ni wedi cael refferendwm ac rydym ni wedi cael ymrwymiadau ym maniffestos pleidiau gan y ddwy brif blaid wleidyddol sydd wedi dweud y bydden nhw'n yn ei gyflawni. Mae mandad i gyflawni Brexit. Yn sicr, nid oes mandad i'w ddiddymu, sef yr hyn yr ydych chi a'ch plaid eisiau ei wneud. Rwy'n credu ei bod hi'n eironig, a dweud y gwir, ein bod ni yn y sefyllfa honno.
Fe wnaethoch chi ddyfynnu rhestr o gwmnïau a sefydliadau sy'n dweud eu bod nhw'n pryderu am Brexit heb gytundeb. Dywedodd yr un sefydliadau wrthych chi a'ch plaid am gefnogi cytundeb ymadael Prif Weinidog y DU. Nid oeddech chi eisiau gwrando arnyn nhw bryd hynny, nac oeddech? Dyna'r cytundeb sydd wedi cael ei negodi gyda'r UE. Dyna'r cytundeb yr ydych chi'n dweud eich hunain nad oes unrhyw obaith ei newid. Felly, mae'r dewis rhwng y cytundeb ymadael presennol neu ddim cytundeb o gwbl. Ac eto rydych chi'n dal i wrthod cefnogi'r cytundeb penodol hwnnw. Felly, ni allwch chi gael y cyfan. Ni allwch chi ddweud ein bod ni, y Blaid Geidwadol, yn gwthio'r wlad i sefyllfa o Brexit heb gytundeb. Eich plaid chi yw'r un sydd wedi ein gwthio'n nes at sefyllfa o Brexit heb gytundeb. Dyna'r gwirionedd. Pa un ai Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Sainsbury's, Tesco, cymdeithas gweithgynhyrchwyr moduron neu Make UK, roedd pob un ohonyn nhw'n cefnogi cytundeb ymadael y Prif Weinidog. Fe wnaethoch chi eu hanwybyddu bryd hynny a nawr rydych chi'n eu dyfynnu'n ddetholus.
Os gaf i ofyn ambell gwestiwn am eich datganiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cymorth yr ydych chi'n ei ddarparu i fusnesau. Nawr, mae llawer o'r cymorth hwnnw ar gael, wrth gwrs, dim ond drwy wefannau. Efallai nad ydych chi'n gwybod hyn, wrth gwrs, gan nad oes llawer ohonoch chi wedi bod mewn busnes, ond mae pobl fusnes yn hynod o brysur. Mae ganddyn nhw eu busnesau i'w rhedeg o ddydd i ddydd. Ni allwch chi ddisgwyl i bob un person yn y wlad sy'n rhedeg busnes bach ofyn am wybodaeth ar Google er mwyn dod o hyd i'ch gwefan rywle ar dudalen 27 y canlyniadau chwilio er mwyn cael y cyngor y gallai fod ei angen arnyn nhw. Felly, a gaf i ofyn: pa gamau pellach ydych chi'n eu cymryd i sicrhau eich bod chi'n cyfathrebu â'r bobl hynny mewn busnesau bach ledled Cymru i wneud yn siŵr bod y cyngor ganddyn nhw ar flaenau eu bysedd er mwyn iddyn nhw wybod beth yn union i'w wneud i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, petai hynny'n digwydd mewn gwirionedd?
Rydym ni'n gwybod mai un o'r pethau yr ydych chi hefyd wedi'u rhoi ar waith yw cronfa cydnerthedd Brexit, rhywbeth yr ydym ni'n ei chroesawu. Er ei fod yn swm eithaf pitw—llai na £3 miliwn, rwy'n credu, yn gyfan gwbl—o ran cronfa cydnerthedd Brexit, y dafell yr ydych chi wedi ei thorri ar gyfer arian cyfatebol i fusnesau i baratoi ar gyfer Brexit. Nawr, gwyddom o'r atebion yn y Siambr hon ar 10 Gorffennaf fod gormod o geisiadau am y gronfa honno. Gwyddom fod mwy o geisiadau'n dod i mewn nag y mae'r Llywodraeth yn gallu eu cefnogi. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni faint yn union o geisiadau a gyflwynwyd, faint sydd wedi'u gwrthod, a beth ydych chi'n yn ei wneud er mwyn cynyddu gallu'r gronfa honno i gefnogi busnesau i bontio o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys Brexit heb gytundeb?
A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd—? Rydych chi wedi sôn am y ffaith bod angen i ni weithredu'n gyflym er mwyn paratoi pobl ar gyfer Brexit Calan Gaeaf, ac eto y gwir amdani yw eich bod yn dal i eistedd ar gronfeydd y gallech fod yn eu gwario er mwyn helpu pobl i baratoi. Rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i wneud mwy o gyhoeddiadau dros yr haf. Wel, hwrê, byddwn ni hyd yn oed yn nes at 31 Hydref wedyn, oni fyddwn ni? Ac ni fydd pobl yn cael y cyfle i allu ei wario'n iawn er mwyn iddyn nhw allu paratoi. Mae angen ichi roi'r arian hwn i bobl a chyflwyno'r arian hwn i'r sector cyhoeddus hefyd i baratoi nawr, nid aros am ychydig o wythnosau eto er mwyn bod yn llygad y cyhoedd dros gyfnod toriad yr haf.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at gamau deddfwriaethol a allai fod yn angenrheidiol ac rydych chi'n dweud eich bod wedi cael rhai trafodaethau gyda Llywodraeth y DU am hynny, ond nid ydych chi wedi taflu unrhyw oleuni ar beth yw'r camau deddfwriaethol hynny na'r amserlen. Ni allaf weld dim ar hyn o bryd ar amserlen gwaith yn y dyfodol y Cynulliad Cenedlaethol hwn i fwrw ymlaen ag unrhyw gamau deddfwriaethol ychwanegol, felly efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni beth yn union yw'r camau deddfwriaethol hynny mewn gwirionedd, oherwydd credaf y byddai o ddiddordeb i bobl sy'n gwylio'r datganiad penodol hwn.
A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd, o ran cronfa bontio'r UE, a ydych chi'n bwriadu cynyddu honno? Felly, os cawn ein hunain mewn sefyllfa lle mae Brexit heb gytundeb yn debygol—a gadewch i mi fod yn glir, byddai'n well gan fy mhlaid i gael cytundeb sy'n dda i'r DU, yn dda i Gymru, ac yn dda i'r UE—ond os na fyddwn ni yn y sefyllfa honno oherwydd anhyblygrwydd yr UE, yna hoffwn wybod beth ydych chi'n mynd i'w wneud o ran y gronfa honno er mwyn cynyddu ei heffaith a sicrhau bod Cymru yn cael ei pharatoi yn y ffordd orau bosib ym mhob sector—y trydydd sector, y sector cyhoeddus, a'r sector preifat—fel y gallwn ni wneud llwyddiant o beth bynnag sydd o'n blaenau.
Diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Mae'n rhygnu ar yr un hen dant bod angen i ni barchu canlyniad refferendwm 2016. Mae'n gwybod yn iawn, wrth gwrs, ein bod ni ar y meinciau hyn wedi ceisio dod o hyd i fath o Brexit a oedd yn cyflawni'r cyfarwyddyd yn 2016 gan leihau'r niwed i economi Cymru. Roedd yn fath o Brexit nad oedd ganddo ef na'i blaid ddiddordeb ynddi wrth iddyn nhw ruthro'n bendramwnwgl tuag at eu fersiwn nhw o Brexit a ysbrydolir gan ideoleg. Ni wnaethon nhw ddangos unrhyw ddiddordeb mewn lles busnesau, sefydliadau nac unigolion Cymru y mae'n honni ei fod mor ofalus ohonyn nhw yma heddiw. Gadewch imi ddweud wrthych chi mai'r hyn nad yw'n parchu canlyniad refferendwm 2016 yw Brexit heb gytundeb, rhywbeth na ddadleuodd neb drosto ac fe wnaeth pobl ar y meinciau acw ac eraill bwynt penodol o esbonio i bobl pa mor syml fyddai cytundeb. Nid oes mandad yng nghanlyniad 2016 ar gyfer y camau y mae'n berffaith barod i'w goddef yn y Siambr hon heddiw.
Mae'n gofyn beth ydym ni'n ei wneud i gefnogi busnesau. Rwy'n derbyn y pwynt. Treuliais 20 mlynedd, rwy'n credu, cyn cael fy ethol, yn gweithio yn y sector preifat, felly rwy'n deall, o leiaf gymaint â neb ar y meinciau acw, sut deimlad yw gweithio i fusnes. A gadewch imi ddweud wrthych chi, rwy'n deall yn iawn, yn enwedig o ran busnesau bach, nad oes y gallu ganddyn nhw i dreulio amser yn meddwl ac yn cynllunio ar gyfer pob ystod o bosibiliadau. Mae hynny'n bryder sylweddol inni, ac rydym ni'n gwneud popeth a allwn ni drwy'r Ffederasiwn Busnesau Bach a thrwy'r siambrau masnach i geisio hyrwyddo'r adnoddau yr ydym ni'n eu cyflwyno.
Byddaf yn dweud wrtho fod cronfa cydnerthedd Brexit yn llawer mwy na'r ffigurau a roddodd gynnau; rydym ni'n edrych ar ffigurau o tua £9 miliwn, ac mewn gwirionedd mae llawer o alw am y gronfa honno, yn hollol, fel y byddem yn disgwyl. A byddwn yn parhau i adolygu faint o gyllid y gallwn ni ei ddarparu i gefnogi busnesau, ond rydym ni wedi darparu—a chredaf mai ni yw'r unig Lywodraeth yn y DU sydd wedi gwneud hyn—drwy gronfa bontio'r UE, ffynhonnell gyllid i gefnogi busnesau a sefydliadau eraill drwy'r dyfroedd tymhestlog y byddant yn anochel yn eu hwynebu.
O'r gronfa £50 miliwn, rydym ni eisoes wedi ymrwymo swm o tua £35 miliwn i £36 miliwn. Mae cynigion eraill yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Bydd yntau, rwy'n siŵr, eisiau gwybod ein bod yn gwerthuso'r cynigion hynny'n ofalus er mwyn sicrhau gwerth am arian ac atebolrwydd cyhoeddus priodol. Ac mae'n gywir i ddweud ei bod hi'n bwysig inni ddefnyddio'r arian hwnnw mewn ffordd mor amserol â phosib. Rwy'n tynnu sylw at y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Cyllid, y cyfeiriodd hi ato yn ei datganiad ychydig funudau'n ôl, am y £85 miliwn a ymrwymwyd fel modd i ysgogi'r economi i ymdrin ag effeithiau niweidiol posib y math o Brexit y mae ef ac eraill yn berffaith fodlon ei ystyried.
O ran deddfwriaeth, soniais yn fy natganiad mai offerynnau statudol oedd y ddeddfwriaeth yr oeddwn yn cyfeirio ati. Yn amlwg, mae ehangu cyfnod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod yn edrych ar ddeddfwriaethau eraill yn mynd drwy'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn ceisio cywiro offerynnau statudol ac mae gwelliannau eraill y mae angen inni eu gwneud i fynd i'r afael â'r adeg gadael gohiriedig. Ymdrinnir â hwy o ran craffu yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnyn nhw gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Rheolau Sefydlog y Cynulliad.
A gaf i atgoffa siaradwyr ein bod wedi cael un cwestiwn a datganiad a'n bod ni hanner ffordd drwy'r amser a ddynodwyd? Felly—[Torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn crybwyll unrhyw un, dim ond dweud wrth bobl bod gennyf i nifer o siaradwyr sy'n dymuno siarad, felly a allwn ni gadw hynny mewn cof? Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Tybed a allem ni gymryd ennyd i fyfyrio ar y sefyllfa anffodus a rhyfedd yr ydym ni ynddi. Rydym ni'n sôn am barodrwydd ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd o ran Brexit, a bydd pob un o'r rhain yn golygu y byddwn yn waeth ein byd nag yr ydym ni nawr. Yn syml rydym ni'n paratoi'n i leihau'r niwed yr ydym yn ei achosi i ni ein hunain. Croesawaf lawer o baratoadau Llywodraeth Cymru, ond mae'n sefyllfa ryfedd yn wir, gan fod paratoi fel arfer yn golygu cynllunio ar gyfer digwyddiad penodol, ond yn lle hynny, mae Llywodraethau yn cael eu gorfodi i ddyrannu adnoddau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd gan wybod y bydd rhywfaint yn cael ei wastraffu.
Mae'r Gweinidog yn sôn am wneud yr amhosib. Mae'n addas, oherwydd mae'n ymddangos ein bod ni mewn byd sydd a'i wyneb i waered, nid yn unig oherwydd ein bod ni'n paratoi am rywbeth na allwn ni ei ragweld, ond hefyd oherwydd bod pob penderfyniad a wneir gan y rhai sydd mewn grym yn San Steffan i'w weld yn awdurdod ar gyfer rhywbeth arall. Galwyd y refferendwm yn 2016 fel ymgais gan David Cameron i dawelu adain Ewrosgeptig ei blaid. Pleidleisiodd pobl yn rhannol ar sail anwiredd, a nawr, bydd polisi tebygol Llywodraeth y DU, o dan Boris Johnson neu Jeremy Hunt, yn cael ei ddylunio i apelio at lai na 160,000 o aelodau'r Blaid Geidwadol a fydd yn ethol ein Prif Weinidog nesaf. Mae cadw'r Blaid Geidwadol gyda'i gilydd wedi dod yn ddrama a berfformiwyd ar y llwyfan rhyngwladol. Efallai y gallwn ddweud, 'As flies to wanton Tories are we in this scenario, they play us for their sport', ond rwy'n gwybod fy Shakespeare, ac nid wyf yn credu y bydd y naill ymgeisydd na'r llall yn datblygu i fod yn gymeriad diwygiedig, rhadlon megis y Brenin Llyr ar ddiwedd y gystadleuaeth hon.
Fel rwyf wedi'i ddweud, rwy'n croesawu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer ymadawiad trychinebus heb gytundeb—a bydd hynny'n drychinebus—a hoffwn ddiolch i swyddogion sy'n gweithio mor galed ar hyn yn y cefndir. Mae Brexit wedi gwastraffu amser, adnoddau a chyfleoedd anhygoel. Yn ôl adroddiad diweddar gan S&P Global, mae Brexit wedi costio £66 biliwn i economi Prydain mewn ychydig llai na thair blynedd. Dyna £1,000 y pen—nid yw wedi digwydd eto—oherwydd diffyg twf a fyddai wedi'i ddisgwyl fel arall, ar ben yr arian a wariwyd yn uniongyrchol ar baratoi. Byd a'i wyneb i waered yn wir.
O ran y paratoadau ariannol ar gyfer ymadael heb gytundeb, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw gynnydd a wnaed o ran ceisio sicrhau cyllid ychwanegol i Gymru petai Brexit heb gytundeb yn cael ei orfodi arnom ni. Pa gynnydd a fu gyda'r trafodaethau a faint ydych chi'n gobeithio ei sicrhau? O ran yr amser sydd gennym ni ar ôl cyn y dyddiad ymadael presennol ar Galan Gaeaf, a wnaiff y Gweinidog roi ei ddehongliad cyfreithiol o'r hyn a fyddai'n digwydd pe na bai'r holl ddeddfwriaeth Brexit berthnasol yn cael ei phasio mewn pryd? Os cawn ein hunain â llyfr statud aneglur neu un yn llawn bylchau, sut bydd hyn yn effeithio ar allu'r lle hwn i weithredu?
Hoffwn groesawu camau i gefnogi dinasyddion yr UE. Mae un o'm hetholwyr sy'n ddinesydd yr UE wedi bod yn byw yn y DU ers 50 mlynedd, ac mae'n bryderus iawn erbyn hyn gan iddi adael i'w phasbort, nad oedd yn un y DU, ddod i ben yn y 1980au ac nid yw'n gallu talu am ddinasyddiaeth y DU. Mae bywydau pobl go iawn yn cael eu troi wyneb i waered, o ddydd i ddydd, gan yr ansicrwydd hwn; mae croeso mawr i unrhyw beth y gallwn ei wneud i'w helpu. Felly, a fyddai'r Gweinidog cystal â rhoi ychydig o fanylion ynghylch sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymestyn at y bobl hynny i gynnig cymorth?
Yn olaf, Gweinidog, rydych yn dweud yn eich datganiad, petai etholiad cyffredinol brys yn digwydd; gwnawn bopeth a allwn ni i ddarbwyllo Plaid Lafur y DU i ddiddymu Brexit yn gyfan gwbl. A wnewch chi egluro pwy yw 'ni' yn yr achos hwn? Ai dyna'r Llywodraeth glymblaid Llafur-Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ynteu a yw hyn yn cyfeirio at Lafur Cymru? Mae Llafur y DU wedi datgan yn glir ei bod o blaid refferendwm, cyn belled ag nad yw mewn sefyllfa i gyflawni hynny, ac y bydd yn cyflawni Brexit os ydy hi mewn Llywodraeth. Felly, os bydd eich ymdrechion i newid y sefyllfa honno yn methu, a fydd Llafur Cymru yn sefyll ar faniffesto gwahanol i Lafur y DU, ac os felly, a fyddech yn cymeradwyo torri'n rhydd i fod yn endid ar wahân, fel y gall eich ASau fod o dan chwip gwahanol yn San Steffan, neu a fydd gennym ni sefyllfa lle bydd polisi Llywodraeth Lafur Cymru yn groes i faniffesto'r Blaid Lafur? Rwy'n gofyn am eglurder yn y cyfnod cythryblus hwn.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Ceisiaf ymdrin â nhw'n gryno o ystyried cyfarwyddyd y Dirprwy Lywydd. O ran ymrwymiad cyllid brys gan Lywodraeth y DU, nid oes dim ymrwymiad o symiau penodol o arian wedi'i wneud gan y Trysorlys yn y cyd-destun penodol hwnnw. Bydd hi'n gwybod bod y Gweinidog Cyllid wedi bod yn glir iawn, yn enwedig yn yr amgylchiadau y bydd Brexit heb gytundeb, y byddem mewn sefyllfa lle byddai arnom ni angen cymorth ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y DU i wneud iawn am y sefyllfa honno ac i ariannu'r canlyniadau. O ran gwarant Llywodraeth y DU, er enghraifft, mewn cysylltiad â ffrydiau ariannu Ewropeaidd, mae pryder bod hynny'n gulach nag yr oeddem ni wedi deall y byddai o'r blaen, a chredaf fod cwestiynau hefyd yn parhau ynghylch pryd y byddai ar gael mewn rhai amgylchiadau. Felly, ni cheir yr eglurder y byddai hi neu fi neu eraill yn y Siambr hon yn dymuno'i weld mewn cysylltiad ag ymrwymiad ariannol Llywodraeth y DU yn y cyd-destun penodol hwnnw.
Gofynnodd am hynt y ddeddfwriaeth. Yn sicr, o ran yr is-ddeddfwriaeth a'r rhaglen offerynnau statudol yr ydym ni wedi bod yn ymgymryd â hi yma ers amser maith nawr, diben hynny yw sicrhau bod y llyfr statud i Gymru, os gallaf ddefnyddio'r term hwnnw, yn gallu parhau mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb, ar ôl trosi cyfraith yr UE i'n cyfraith yma yng Nghymru. Fel rwyf wedi'i grybwyll yn y gorffennol, rydym ni wedi gwneud cynnydd mawr o ran hynny ac rwy'n fodlon y byddai'r llyfr statud yn adlewyrchu sefyllfa cyfraith yr UE ar yr adeg y byddem yn ymadael.
O ran deddfwriaeth sylfaenol, wrth gwrs, mae rhai o'r Biliau'n dal i fod mewn gwahanol gamau yn Nhŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae angen pasio rhai o'r Biliau hynny er mwyn inni gael pwerau penodol, yn enwedig ym maes amaethyddiaeth, gan adlewyrchu'r drafodaeth a gawsom ni yn y Siambr yn gynharach heddiw. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad yn gynharach, bydd yn rhaid inni fod yn effro i oblygiadau posib Brexit anodd neu heb gytundeb a'r effaith y gallai hynny ei chael drwy greu'r angen yma am ddeddfwriaeth na ellir ei rhagweld ar hyn o bryd, i ymdrin â rhai o'r canlyniadau hynny.
O ran—. Rwy'n credu ei bod yn gofyn cwestiwn i mi am gymorth i ddinasyddion yr UE sy'n byw yma yng Nghymru, neu ddinasyddion a anwyd mewn rhannau eraill o'r UE, dylwn i ddweud. Mae cymorth amrywiol ar gael yn ymwneud â chyngor ar gyfraith mewnfudo, ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran egluro hawliau dinasyddion yr UE sydd â hawl i ymgartrefu yma yng Nghymru. Mae pecyn cymorth hefyd ar gael i ddeall ystod ehangach o hawliau dinasyddion yr UE yma yng Nghymru, ac mae gwaith ar y gweill hefyd i geisio ymestyn nifer y canolfannau cymorth digidol i'r bobl hynny nad ydyn nhw'n gallu gwneud cais ar-lein yn hawdd eu hunain. Felly, mae amrywiaeth o wahanol fesurau o gymorth yr ydym yn sicrhau y byddant ar gael.
O ran ei sylw olaf, rwy'n mynd i ymwrthod â'r demtasiwn i drafod trefniadau cyfansoddiadol fy mhlaid yn fanwl. Digon yw dweud, wrth sefyll yma yn wleidydd Llafur Cymru, nid wyf yn credu y gallwn i fod yn gliriach ynghylch ein safbwynt ni.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi dweud yn aml ein bod yn ei glywed o hyd, ond mae'n bwysig ein bod yn parhau i gael y newyddion diweddaraf, yn enwedig mewn byd lle nad yw'r hyn a ddywedwyd ddoe yn ddilys mwyach heddiw, ac mae'n anwadal iawn—nid yn hollol wyneb i waered, ond yn symud yn gyflym iawn, gan newid yn gyflym iawn—ac rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r ffaith nad yw'r sylwadau a wnaed gan y ddau ymgeisydd yn helpu'r sefyllfa honno. Ddoe ddiwethaf, roedd Boris Johnson yn dweud yn glir ei fod, mewn gwirionedd, am i'r backstop gael ei ddileu'n llwyr, felly mae wedi newid ei safbwynt hyd yn oed ar hynny nawr. Ar un adeg 'aildrafod' oedd popeth; nawr 'diddymu' yw hi, ac rydym ni i gyd yn gwybod bod yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud yn bendant nad yw hynny'n mynd i ddigwydd, felly rydym yn anelu am sefyllfa o ymadael heb gytundeb, ac rwy'n credu ei fod yn ceisio dod o hyd i esgus i gyfiawnhau ei sefyllfa o ymadael heb gytundeb ar 31 Hydref. Os felly, mae angen inni baratoi ar ei gyfer, oherwydd mae'n amlwg bod rhai materion difrifol y mae'n rhaid i Gymru roi sylw iddyn nhw ar y mater hwnnw.
Mae'n debyg fy mod eisiau gofyn rhai o'm cwestiynau gan ganolbwyntio ar y parodrwydd hwnnw'n llythrennol, gan eich bod wedi tynnu sylw yn eich datganiad at y sefyllfaoedd yr ydym ni'n gweithredu ynddyn nhw, y cyd-destun yr ydym ni ynddo, ac yna symud ymlaen at rai o'r materion yr ydych chi wedi ymdrin â nhw. Ond a gaf i siarad am drwyddedau cludo nwyddau a thrwyddedau cerbydau trymion, er enghraifft? Mae'n un o'r meysydd yr ydym ni wedi siarad amdano o' r blaen. Mae gennym ni lawer o gwmnïau logisteg yng Nghymru; bydd nifer cyfyngedig o drwyddedau ar gael, ac mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gallem fod yn wynebu sefyllfa heriol iawn i'r cwmnïau hynny. Pa drafodaethau a ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyrannu trwyddedau i gwmnïau o Gymru, er mwyn sicrhau y gallan nhw weithredu petai sefyllfa o ymadael heb gytundeb ar 1 Tachwedd? Hefyd, pa drafodaethau a ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r porthladdoedd? Oherwydd, unwaith eto, os bydd hynny'n digwydd, byddwn mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid i ni gael rheolaethau ffiniau a rheolaethau rheoleiddiol yn ein porthladdoedd, i edrych ar y sefyllfaoedd. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am rai o'r cyfrifoldebau hynny; maen nhw'n gyfrifoldebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac eto, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y porthladdoedd, felly pa drafodaethau ydych chi'n eu cael i sicrhau ein bod yn y sefyllfa honno lle nad oes rhaid i ni wynebu problem am nad yw wedi cael ei ystyried?
Soniaf am gyfreithlondeb hynny, oherwydd fe wnaethoch chi sôn nawr am y ddeddfwriaeth frys efallai y bydd angen ei chyflwyno. A ydych chi wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o ran pa fathau a pha feysydd y byddwch yn edrych arnyn nhw? Oherwydd roeddech chi'n dweud bod angen i ni fod yn ymwybodol ohono, ond mae a wnelo hynny nid dim ond â bod yn ymwybodol ohono; mae angen inni fod yn barod amdano. Felly, ar ba feysydd ydych chi'n edrych arnyn nhw nawr, ac a ydych chi'n edrych ar y meysydd hynny fel y byddwch, pan ddown yn ôl ar ôl toriad yr haf, yn gallu dweud wrthym ni'n union ym mha feysydd y credwch y bydd angen deddfwriaeth frys os byddwn yn y sefyllfa honno?
Hefyd, a wnewch chi drafod y warysau? Dywedwyd wrthym ni—mae eich datganiad yn amlygu'r pwynt yn glir—fod y mater yn ymwneud â warysau yn mynd i fod yn ddadleuol, oherwydd bod busnesau eisiau parhau i weithredu o dan eu rheoliadau busnes arferol. Mae hynny'n golygu y byddan nhw eisiau cael eu safleoedd warws ar gyfer eu busnesau eu hunain. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi edrych ar warysau cyn 29 Mawrth. Beth yw'r sefyllfa o ran warysau rheweiddiedig ar gyfer meddyginiaethau, os oes angen hynny? Beth yw'r sefyllfa o ran warysau eraill, os oes angen hynny, oherwydd rydych chi bellach mewn cystadleuaeth â sefydliadau mawr sydd eisiau gofod warysau? Felly, unwaith eto, a ydych chi wedi symud tuag at y maes hwnnw eto?
Hoffwn wybod hefyd a ydych chi wedi trafod unrhyw un o'r materion hyn gyda swyddogion yr UE a chenhedloedd a rhanbarthau eraill ledled yr UE, oherwydd fel cenedl cawsom lawer o femoranda o ddealltwriaeth a chytundebau â rhanbarthau a chenhedloedd eraill, a byddwn eisiau gweithio gyda'r rheini yn y sefyllfa pan fyddwn yn gadael yr UE heb gytundeb. Felly, dechreuais gael trafodaethau gyda'r gwledydd hynny i weld sut y gallan nhw ein helpu ni hefyd oherwydd y byddan nhw, yn dechnegol, ar ochr arall y ddadl. Hefyd, a ydych yn cytuno â mi—rwyf wedi blino, wedi blino'n lân clywed Aelodau'n dal i ddweud 'anhyblygrwydd yr UE'—nid anhyblygrwydd yr UE ydyw; yr hyn ydyw yw methiant y Llywodraeth yn San Steffan i fynd i'r afael â'r gwir ateb? Mae'n bryd iddyn nhw ledaenu'r neges honno mewn gwirionedd. Nid anhyblygrwydd yr UE ydyw ond anallu'r Ceidwadwyr sydd wedi ein harwain at y sefyllfa hon, ac mae angen inni sicrhau bod y neges honno'n glir ac yn groch ar draws y wlad, oherwydd nhw sy'n ein dal yn ôl. Y ddau ymgeisydd blaenllaw ar hyn o bryd yw dau o hyrwyddwyr mwyaf y methiant hwnnw heddiw.
Gweinidog.
Diolch i David Rees am ei gwestiynau. Byddaf yn ymdrin â nhw yn eu tro. O ran cludo nwyddau a thrwyddedu, rydym mewn cysylltiad agos, yn amlwg, â'r Gymdeithas Cludiant Ffyrdd a'r Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau o ran y materion y byddant yn eu hwynebu, yma yng Nghymru a hefyd, wrth gwrs, ymhellach i ffwrdd. Gallai effaith hwn a fyddai'n cael ei deimlo ledled y DU effeithio ar lwybrau cludo nwyddau economi Cymru ar draws y ffin. Rydym ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU mewn cysylltiad â hyn. Rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol y gallai troi at y system drwyddedu ryngwladol osod cyfyngiadau llym, yn ymarferol, ar allu gweithredwyr i symud nwyddau ar draws ffiniau'r DU a'r UE. Bydd yn gwybod, rwy'n credu, bod yr UE wedi cytuno ar ateb dros dro pe baem yn gadael heb gytundeb, fel y byddai nwyddau'n dal yn gallu symud ar draws y ffin ar sail cyd-gydnabyddiaeth, ond mae hynny'n ymestyn hyd ddiwedd y flwyddyn galendr hon. Fel y deallaf heddiw, nid yw hynny wedi'i ymestyn i adlewyrchu'r dyddiad gadael ym mis Hydref, felly rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ynghylch pa ymateb sydd ei angen o ran hynny.
O ran porthladdoedd, bydd yn cofio, rwy'n credu, y datganiad a wnaeth Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ym mis Ebrill ynglŷn â'r trefniadau yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw ynghylch Caergybi i sefydlu'r capasiti ychwanegol ar safle Road King ac, yn wir, Parc Cybi. Mae'r trefniadau hynny yn parhau i fod yn bosib ar gyfer Brexit hwyrach, ac yn barod i'w defnyddio, pe bai angen. Nid dyna'r disgwyliad presennol, ond maen nhw yno wrth gefn pe bai eu hangen.
O ran capasiti warws, o ran y cyflenwad bwyd yn benodol, fel y gŵyr, rwy'n credu, mae Llywodraeth y DU yn arwain ar fater cyflenwi bwyd ar draws y DU, er yn amlwg rydym ni'n cyfrannu at hynny fel Llywodraeth. Maen nhw'n edrych ar gapasiti warysau o ran storio oer ac yn y blaen. Bydd hefyd yn gwybod, rwy'n credu, bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer storio oer yng Nghymru drwy'r sector preifat. Yn ogystal â hynny, mewn cyd-destun ar wahân i fwyd, mae gennym ni nawr y capasiti yn y warws sydd gennym ni bellach yn y de i'n galluogi ni i storio dyfeisiau meddygol a dyfeisiau gofal cymdeithasol, gan ein galluogi i stocio eitemau na fyddem efallai'n teimlo bod angen eu stocio, yng nghyd-destun sicrhau cyflenwadau i'r GIG a'r sector gofal. Ond mae'n amlwg yn fater sydd â chyfres wahanol o ystyriaethau ar adeg yr ymadael ym mis Hydref o gymharu â'r gwanwyn oherwydd y pwysau ar warysau oherwydd y stoc cyn y Nadolig ac ati.
O ran deddfwriaeth frys, hoffwn dawelu meddwl yr Aelod bod hwn yn fater sy'n cael ei adolygu'n barhaus gan gyfreithwyr sy'n edrych ar hynt deddfwriaeth. Ond, yn amlwg, fel rwy'n gwybod fod ei gwestiwn yn ei awgrymu, nid yw'n bosib bod yn bendant ynghylch beth, os unrhyw beth, a allai fod ei angen nes ein bod yn gwybod beth yw'r sail dros ymadael. Ond mae honno'n sefyllfa sy'n cael ei hadolygu'n fanwl.
Roedd ei gwestiwn olaf, mi gredaf, yn ymwneud ag ymgysylltu â'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd mewn cysylltiad â hyn. Bydd yn gwybod y bu'r Prif Weinidog ym Mrwsel ychydig wythnosau'n ôl, a bod cyswllt swyddogol yn parhau â phartneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn iddyn nhw ddeall safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.
Wel, diolch Gweinidog Brexit, am ddatganiad Nostradamus arall ynghylch Brexit. Er ein bod ni ym Mhlaid Brexit yn deall ei bod hi'n ddoeth gwneud paratoadau ar gyfer pob sefyllfa o ran ein hymadawiad â'r UE, gan gynnwys Brexit heb gytundeb, a ellir dweud bod y paratoadau hynny mewn gwirionedd yn ddoeth os ydyn nhw'n seiliedig ar ragfynegiadau gwyllt ynghylch yr honiad y byddai ymadawiad heb gytundeb yn ganlyniad trychinebus, yn enwedig i economi Cymru? Mae'n ymddangos bod codi bwganod yn dal i ddigwydd heb unrhyw sylwedd yn y casgliadau sy'n cael eu llunio. Mae bron pob darn o dystiolaeth a luniwyd yn eich datganiad yn ailadrodd y dadleuon a ddefnyddiwyd yn ein herbyn am beidio â manteisio ar yr ewro. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor gwbl ffug oedd y rhagfynegiadau hynny. Nodaf y sylwadau ynglŷn â'r Blaid Dorïaidd yn tawelu llid ei haelodau ar lawr gwlad, ond siawns na ellir dweud bod gan Corbyn yr un obsesiwn i dawelu llid y chwith ffasgaidd yn y Blaid Lafur. Rydych yn dweud nad oes mandad ar gyfer Brexit heb gytundeb. Wel, rydym newydd gael etholiad Ewropeaidd, a rhag ofn nad oeddech yn deall, mae'r enw Brexit yn rhoi syniad o'r hyn y mae'r blaid a enillodd yr etholiad hwnnw mewn gwirionedd yn sefyll drosto, ac roeddem yn glir iawn ynghylch y ffaith y byddem yn cytuno ar Brexit heb gytundeb.
Gadewch i ni edrych ar rai agweddau cadarnhaol sefyllfa o ymadael heb gytundeb. Byddai Brexit heb gytundeb yn golygu nad ydym yn talu'r £39 biliwn a ystyrir ei dalu ar hyn o bryd. Petai Brexit heb gytundeb yn digwydd, byddai'n golygu y gellid defnyddio'r arian hwn i roi cymorth ariannol i'n diwydiannau ein hunain, nid y rhai ar y cyfandir, hyd oni chanfyddir marchnadoedd newydd, mwy proffidiol. Byddai hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ein diwydiant ffermio, ac, yn wir, byddai rhoi cymhorthdal i'r diwydiant ffermio yng Nghymru yn gyfran fach iawn o gyfanswm yr arian sy'n cael ei arbed o ganlyniad i'r ffaith nad ydym ni'n perthyn i lanast Brwsel. Rydych yn honni bod colli swyddi yn Ford, Schaeffler a Calsonic yn ganlyniad i ansicrwydd ynghylch Brexit, ond ansicrwydd sy'n deillio o amharodrwydd pobl o blaid aros i dderbyn pleidlais ddemocrataidd pobl Prydain ydyw. Rydych wrth gwrs yn gyfleus, yn anghofio penderfyniad Bosch i symud ei ffatri o Feisgyn i Hwngari, gyda chymorth grantiau Ewropeaidd, gyda cholled o 900 o swyddi medrus, a oedd yn talu'n dda.
Rhaid inni gofio nad oes gan 95 y cant o fusnesau Cymru ddim byd i'w wneud o gwbl ag allforio, a chanran lai fyth sy'n ymwneud ag allforio i'r UE, ac eto mae cost sylweddol i bob busnes sy'n cydymffurfio â rheolau a rheoliadau'r UE. Gallai gadael yr UE roi hwb i fusnesau Prydeinig a Chymreig drwy roi mwy o ryddid iddyn nhw gynhyrchu.
Efallai y dylem ni ystyried diwydiant pysgota Prydain. Ar yr union foment hon, mae 84 o longau treillio'r Iseldiroedd yn defnyddio'r dechneg bysgota parlysu electronig yn yr hyn a fydd dyfroedd Prydain ar ôl Brexit. Mae'r dull hwn o bysgota'n cael effaith drychinebus ar boblogaethau cramenogion a physgod. Dywedir eu bod yn anwybyddu rheolau'r UE drwy honni eu bod yn gychod gwyddonol. Yn wir, mae dyfroedd pysgota Prydain wedi cael eu hysbeilio gan longau tramor am yn agos at hanner canrif. Naw wfft i ddeddfwriaeth amgylcheddol Ewropeaidd sydd wedi'i chanmol mor aml. Gyda llaw, mae ein llongau treillio Prydeinig yn cael eu gwahardd mewn gwirionedd rhag pysgota ym Môr y Canoldir.
Os ydym ni o ddifrif ynghylch paratoi ar gyfer sefyllfa o ymadael heb gytundeb, ni ddylem fod yn ei ddefnyddio'n arf i godi bwganod. Mae'n bosib y bydd rhai anfanteision o adael yr UE, ond mae pob economegydd diduedd yn rhagweld mai rhywbeth tymor byr yn unig yw hyn. Mae'r DU wedi profi dro ar ôl tro fod ganddi sylfaen economaidd hynod o gydnerth. Ni ddylem ni ofni Brexit, pa bynnag ffurf y bydd ganddo. Gwell sefyllfa o ymadael heb gytundeb na'r hyn y mae rhai aelodau o'r Cynulliad hwn yn ei ystyried neu, yn waeth fyth, yr oedd gan Theresa May ei bryd arno.
Nid wyf yn credu imi glywed cwestiwn. Ni chlywais gwestiwn gan yr Aelod. Mae'n ddatganiad ac roedd i fod i gael cyflwyniad a chwestiwn. Ni chlywais unrhyw gwestiynau, nid wyf yn credu.
Credaf iddo ofyn a ellid dweud bod trefniadau Llywodraeth Cymru yn ddoeth, a'r ateb yw 'gellid'.
Mae hynny'n iawn, diolch. Mark Isherwood.
Diolch. Cyrhaeddodd allforion o Brydain y lefel uchaf erioed yn 2018 ac maen nhw wedi parhau i gynyddu ers hynny, sef cyfanswm o dros £647 biliwn yn y 12 mis hyd at fis Mai eleni, ac mae mewnforwyr nwyddau o'r DU sy'n tyfu gyflymaf, ar y cyfan o'r tu allan i Ewrop. Y DU yw prif gyrchfan Ewrop o hyd ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor, a'r drydedd uchaf yn fyd-eang ar ôl yr Unol Daleithiau a Tsieina. Ac, wrth gwrs, fis Mawrth, dywedodd Mr Barnier, prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, ym mhob senario, fod parchu cytundeb Gwener y Groglith yn golygu atal ailosod y ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Gwyddom ni fod 75 y cant o allforion Cymru yn mynd i weddill y DU, a dim ond 15 y cant i'r UE. A phan ddywedodd swyddogion a oedd yn cynrychioli talaith Bremen yn yr Almaen wrth y pwyllgor materion allanol fod 10 i 15 y cant o gynnyrch domestig gros yr Almaen yn dod i'r DU, maent yn ei gyflwyno fel ei fod yn agored i farchnad y DU. Felly, mae rhywfaint o gyfatebiaeth rhwng y risgiau o beidio â dod i gytundeb ar y ddwy ochr o'r hyn a fydd, gobeithio, yn gyfeillgarwch parhaus agos iawn.
Ddoe, cyhoeddodd eich cydweithiwr, Gweinidog yr economi, ddatganiad ar effeithiau Brexit ar economi Cymru, gan gyfeirio at ddau grŵp pedair ochrog a sefydlwyd, gyda chyd-Weinidogion o Lywodraeth y DU a gweinyddiaethau eraill sydd wedi'u datganoli. Roedd un yn canolbwyntio ar fusnes a diwydiant, a dywedodd ef fod y cyfarfod cyntaf ar fusnes a diwydiant wedi bod yn gadarnhaol. Wel, mae yna drafodaethau paratoadol yn mynd rhagddynt rhwng swyddogion San Steffan a swyddogion yr UE fel y gall y Prif Weinidog newydd fwrw ati ar unwaith i ddeall o'r ddwy ochr lle y gallai fod hyblygrwydd rhwng nawr a diwedd mis Hydref. Mae hynny'n digwydd. Pa ymgysylltiad cadarnhaol felly—yn ysbryd datganiad Mr Skates ddoe—y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael â'r broses honno, fel y bydd, yn ystod y cam paratoadol hwn, gyda'r amcan o gael cytundeb er lles yr economïau naill ochr y dŵr—? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â hynny?
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Fy ddywedaf i, er hynny, nad wyf yn rhannu ei farn optimistaidd ar ragolygon masnach y DU y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd—mae £3 o bob £4 y mae busnesau Cymru yn eu hennill o allforion yn cael eu hennill drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n credu bod taflu hynny i ffwrdd yn beryglus i ni, ac yn llawer pwysicach, yn beryglus i'r busnesau hynny sy'n troi atom ni ac sy'n troi at y Senedd i warchod eu buddiannau.
Mae'n sôn am y trafodaethau ynglŷn â threfniadau masnach y dyfodol. Rwy'n credu y bydd yn cofio mai un o'r pwyntiau yr ydym ni wedi'i bwysleisio'n rheolaidd gyda Llywodraeth y DU yw y dylai Llywodraeth Cymru gymryd rhan wrth baratoi mandadau negodi ar gyfer trafodaethau rhyngwladol. Mae hwn yn gam ymarferol fel bod safbwyntiau negodi'r DU yn ennyn hygrededd, lle mae angen i Lywodraeth Cymru eu gweithredu yng Nghymru, ond hefyd bydd hynny i barchu ffin ddatganoli. Ac er ein bod wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran hynny, rydym ni'n bell iawn o weld Llywodraeth y DU yn cyflawni'r rhwymedigaeth arbennig honno yr ydym ni'n ei cheisio ganddyn nhw, a byddwn i'n ei annog ef i wneud popeth o fewn ei allu i geisio argyhoeddi ei gymheiriaid yn San Steffan o rinwedd ein sefyllfa.
Diolch yn fawr iawn.