Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig.
Cyflwynwyd cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr 2019 a daeth yn gwbl weithredol ledled y DU ar 30 Mawrth 2019. Mae'r bwlch a grëwyd gan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE yn berthnasol i unigolion sy'n anghymwys i gael cymorth tai ar hyn o bryd oherwydd mai dim ond un o'r hawliau i breswylio sydd wedi'u rhestru yn rheoliad 6 o'r rheoliadau cyfredol sydd ganddynt, ac a fydd yn cael caniatâd cyfyngedig i aros o dan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE. Os yw unigolyn o'r fath yn cael caniatâd cyfyngedig i aros o dan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE, bydd ganddo hawl ychwanegol i breswylio, a fydd yn ei wneud yn gymwys i gael llety neu gymorth tai. Nid yw hyn yn un o ganlyniadau bwriadol cynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE. Enghraifft o unigolyn o'r fath fyddai rhywun o un o'r gwledydd o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd y mae ei hawl i breswylio ond yn deillio o'i statws fel ceisiwr gwaith.
Ni fyddai gan unigolyn yn y sefyllfa honno hawl i gael cymorth tai ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os yw'r unigolyn hwnnw'n llwyddo i wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog o dan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE, bydd ganddo hawl ychwanegol i breswylio yn y DU. O dan y rheoliadau fel y maen nhw wedi'u drafftio ar hyn o bryd, byddai gan y person hwnnw hawl i gael cynnig cymorth tai, ac felly'n cael hawl na fyddai wedi bod ar gael iddo cyn cyflwyno cynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE.
Ni fyddai gan bobl sy'n gymwys i gael cymorth tai yn sgil y bwlch a grëwyd gan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE hawl i gael budd-dal tai i dalu eu rhent. Byddai hyn yn golygu y gallai'r unigolion hynny sy'n mynd yn ddibynnol ar fudd-daliadau i dalu eu rhent fynd i ôl-ddyledion rhent. Gwnaeth Llywodraeth y DU y gwelliant hwn i gau'r bwlch hwn fis Mai eleni.
Yn ogystal â'r gwelliant hwnnw, ym mis Gorffennaf 2018 a Thachwedd 2018, ymestynnodd Llywodraeth y DU y cymhwysedd ar gyfer cymorth tai i nifer benodol o blant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid o wledydd eraill yn Ewrop, a'r rhai a drosglwyddwyd o wersylloedd ffoaduriaid Calais. Mae'r rheoliadau diwygiedig hyn hefyd yn darparu ar gyfer y gwelliant hwn er mwyn ymestyn y cymhwystra i'r grwpiau hynny.
Bydd cau'r bwlch yn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn unol â gwledydd eraill y DU. Mae angen diwygiadau tebyg i'r un set o reoliadau hefyd o ran cymhwysedd ar gyfer dyrannu tai. Mae'r pwerau i ddiwygio darpariaethau'r rheoliadau i ymdrin â chymhwysedd ar gyfer dyrannu tai wedi'u cynnwys yn Neddf Tai 1996. Mae'r Ddeddf honno'n darparu bod y diwygiadau hynny i'w gwneud drwy'r weithdrefn negyddol.
Gosodwyd y diwygiadau hyn ar 25 Mehefin a byddant yn dod i rym ar 19 Gorffennaf, sef y dyddiad yr ydym ni'n bwriadu i'r rheoliadau cadarnhaol hyn ddod i rym hefyd. Mae'r gwelliannau hyn yn dechnegol eu natur, ac rwyf i eisiau sicrhau'r Aelodau y bydd fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau hyn.