Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Byddaf yn ymweld â Tata yn ddiweddarach y mis hwn, ac os ydynt yn awyddus i drafod hynny gyda mi, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Gwn fod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda grŵp dinas-ranbarth bae Abertawe hefyd, mewn perthynas ag ynys y ddraig—rhai cyfleoedd a gyflwynwyd ganddynt yno, y mae Llywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn eu hystyried ar hyn o bryd.