Mercher, 17 Gorffennaf 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ba gymorth sydd ar gael i brosiectau ynni dŵr? OAQ54241
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ffermio yng nghanolbarth Cymru? OAQ54260
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pryfed peillio? OAQ54267
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd y system taliadau fferm newydd arfaethedig yn ei chael ar yr economi wledig? OAQ54285
5. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi ffermwyr Cymru yn y deuddeg mis nesaf? OAQ54244
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ynni adnewyddadwy yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54272
7. Oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu deddfwriaeth bridio cŵn? OAQ54250
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgysylltu â chymunedau i warchod bioamrywiaeth? OAQ54263
Yr eitem nesaf nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol yn dilyn lansio'i strategaeth pum mlynedd? OAQ54279
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr achosion o danau gwyllt? OAQ54248
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
3. Pa newidiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'w pholisïau tai a chynllunio o ganlyniad i ddatgan argyfwng hinsawdd? OAQ54251
4. Sut y bydd y Gweinidog yn ymateb i ddatganiadau o blaid annibyniaeth Cymru sy'n dod i'r amlwg gan rai cynghorau yng Nghymru? OAQ54262
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru? OAQ54281
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y system gynllunio yng Nghymru? OAQ54255
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau anstatudol gan awdurdodau lleol? OAQ54249
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y byddai dileu'r gallu i landlordiaid weithredu troi allan heb fai, yn ei chael ar y sector rhentu? OAQ54284
Yr eitem nesaf oedd i fod y cwestiynau amserol, ond ni chafwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Felly, y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Hefin David.
Yr eitem nesaf, wedyn, yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar flaenoriaethau Brexit. Dwi'n galw ar y Cadeirydd i wneud ei ddatganiad. David Rees.
Yr eitem nesaf yw adroddiadau y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ond ni chyflwynwyd cynigion heddiw.
Felly, yr eitem ddilynol yw’r cynnig i nodi’r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19. Dwi’n galw ar Siân Gwenllian i wneud...
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid, a'r adroddiad...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rebecca Evans.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, credaf ein bod wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Rydym wedi gwneud hynny, iawn. Felly, symudwn ymlaen i bleidleisio ar ddadl y...
Felly, symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mark Reckless i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis.
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith Safon Ansawdd Tai Cymru ar eiddo yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles adar hela a gaiff eu magu at ddibenion chwaraeon?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia