Pryfed Peillio

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:55, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer pryfed peillio, a ddiwygiwyd yn 2018, yw lleihau a gwrthdroi'r dirywiad mewn pryfed peillio. Datblygwyd y cynllun gyda rhanddeiliaid ac fe'i cydnabuwyd fel enghraifft o gydgynllunio a chydgynhyrchu yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn rhannu'r cyfrifoldeb dros ei gyflawni.