Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Comisiwn y Cynulliad ar y camau y mae wedi'u cymryd? Euthum i lawr uchaf adeilad y Pierhead ychydig wythnosau yn ôl, gyda'n staff ardderchog yno, gyda rhai ohonynt bellach yn wenynwyr arbenigol, ac yn wir, credaf fod rhai o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad hefyd wedi ymuno â'r rhaglen. Gwelais ein dau gwch gwenyn, ac roeddent yn weithgar iawn, a dywedir wrthyf fod gennym rai o'r gwenyn gorau yn y bae—er eu bod yn teithio o gwmpas am filltiroedd lawer, yn ôl y sôn, yn eu gwaith. Dyna un enghraifft yn unig o'r hyn y gallem fod yn ei wneud.
Ar ymweliad preifat diweddar â Chicago, gwelais yr hyn y maent yn ei wneud gyda thoeau gwyrdd, ac maent yn edrych yn wych—amwynder gwych. A dyna faes arall. Ac a gaf fi ddweud, os oes unrhyw un wedi gweld fy nesg, maent yn gwybod pa mor ymrwymedig wyf i i ymagwedd braidd yn anniben tuag at ein bywydau bob dydd? Gallem efelychu hyn, yn wir, ar y lleiniau glas ac ardaloedd agored eraill sydd gennym o'n cwmpas, er mawr fudd i fywyd gwyllt.