Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch. Clywais y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn dweud hynny ddoe. Fe nodais hynny. Ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith enfawr y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud, yn enwedig gyda dinas-ranbarth Abertawe, i'w cynorthwyo i adolygu'r opsiynau strategol ar gyfer datblygu technoleg môr-lynnoedd. A chredaf mai'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddangos yw dull calonogol ac arloesol o ddatblygu prosiect sy'n ariannol hyfyw. Felly, mae swyddogion yn ystyried y gwaith hwnnw ar hyn o bryd. Mewn perthynas â'ch ateb ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru, nid wyf yn siŵr o gynnydd y drwydded benodol honno. Byddaf yn cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn y bore, felly byddaf yn gofyn iddynt a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod, ond efallai eich bod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod y Prif Weinidog a minnau wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Iau diwethaf ym Mangor i drafod trwyddedu mewn perthynas ag ynni'r llanw yn benodol.