Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Mae egwyddorion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cydnabod bod cyfranogiad a chydweithredu yn hanfodol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae ymgysylltiad cymunedol, felly, yn rhan annatod o'n dull o weithredu, fel y dangosir gan ein cynllun Caru Gwenyn, sy'n annog cymunedau i helpu i wneud Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf cyfeillgar i wenyn yn y byd.