Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Na, nid wyf yn rhannu'r pryderon hynny. Gwyddom fod oddeutu 6 y cant o'r holl dai o dan y cynllun Cymorth i Brynu wedi'u cwblhau gan brynwyr tro cyntaf mewn gwirionedd, ac maent wedi bod yn elfen bwysig o'r 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, gyda llawer ohonynt wedi'u gosod am renti fforddiadwy. Ar ddechrau'r cynllun, prynwyd 8,731 eiddo, ac mae gennym 827 o geisiadau eraill am fenthyciadau ar y gweill, a phrynwyd 5,645 eiddo yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Felly, gallwn weld, Lywydd, fod hwn yn gynllun poblogaidd. Os ydym am gyhoeddi cyfran arall, ac ni fydd modd i mi wneud hynny y naill ffordd neu'r llall, yna yn sicr, bydd rhai newidiadau yn cael eu gwneud i'r cynllun i adlewyrchu rhai o'r materion argyfwng hinsawdd rydym wedi'u trafod yn y Siambr hon, ond nid wyf mewn sefyllfa i ddweud y naill ffordd neu'r llall ar hyn o bryd.