Argyfwng Hinsawdd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:44, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhoi datgarboneiddio wrth wraidd ein polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd ffocws tebyg i'r fframwaith datblygu cenedlaethol sydd ar ei ffordd. Bydd ein gwaith ar effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd drwy reoliadau adeiladu hefyd yn cyfrannu at ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd.