Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Wel, hen bryd, hefyd, oherwydd y tro diwethaf y cyflwynodd y Llywodraeth gynigion i gryfhau rheoliadau adeiladu rhan L, dadleuodd Plaid Cymru, fy nghyd-Aelodau a minnau, yn gryf y dylai'r Llywodraeth fod yn fwy uchelgeisiol o lawer. Er iddi ymgynghori ar gryfhau effeithlonrwydd ynni 40 y cant neu 25 y cant, dewisodd eich Llywodraeth gael cynnydd pitw o 9 y cant. Nawr, fe wnaethom ni ddadlau yn erbyn hynny, ac fe bleidleisioch chi yn ein herbyn. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae gennym nifer o dai a adeiladwyd yn y cyfamser sydd wedi cynnal yr aneffeithlonrwydd ynni hwnnw a gefnogwyd gennych chi ac a wrthwynebwyd gennym ninnau. A ydych yn difaru hynny?