Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Gan fod cyllidebau llywodraeth leol wedi lleihau a'n bod wedi gorfod ateb y galw cynyddol ar ofal cymdeithasol ac anghenion addysg, mae gwasanaethau anstatudol, neu wasanaethau â dyletswydd statudol sylfaenol, megis llyfrgelloedd, wedi cael eu torri, a'u torri'n ddifrifol ledled Cymru. Mae toriadau o'r fath wedi arwain at doriad yn amserau agor llyfrgelloedd ac mae rhai llyfrgelloedd wedi cau, a'r bobl tlotaf sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan hyn; lleihau nifer y cyfleusterau hamdden, pan ddylai cynyddu gweithgarwch corfforol a lleihau gordewdra fod yn flaenoriaeth i wella iechyd pobl; toriadau i wasanaethau ieuenctid, sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc. A yw'r Gweinidog yn cytuno â fy nadansoddiad ac os felly, beth y mae'n bwriadu ei wneud i geisio cynyddu'r swm o arian sydd ar gael i awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf? Os nad yw'r Gweinidog yn cytuno â'r hyn a ddywedais, a allwch chi egluro pam?