Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ym mis Ebrill eleni, dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau cael gwared ar droi allan heb fai pan fo contractau meddiannaeth newydd mewn grym, ac rydych eisoes wedi crybwyll eich bod wedi cyflwyno ymgynghoriad i ymestyn y cyfnod y mae angen i landlord ei roi i denantiaid adael o ddau fis i chwech mis. Felly, a allwch ddweud wrthyf i, a'r rhai sy'n byw mewn cartref rhent, a phobl sy'n chwilio am gartref rhent, neu sydd eisiau gosod eu cartrefi eu hunain ar rent—ac felly ychwanegu at y stoc tai sydd ar gael yn y sector rhentu—a ydych yn anghytuno â pholisi'r Prif Weinidog o wahardd troi allan heb fai mewn gwirionedd, neu a ydych yn aros nes bod digon o amser gan y Cynulliad i gyflwyno gwaharddiad a fydd yn niweidio'r farchnad rentu ac yn gadael llawer mwy o deuluoedd mewn llety argyfwng?